Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Byw mewn Cyfnod Ansicr

27 Mawrth 2020 | gan Mark Thomas

Byw mewn Cyfnod Ansicr

 

Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni,

Ond i’th enw dy hun, rho ogoniant,

Er mwyn dy gariad a’th ffyddlondeb.

Pam y mae’r cenhedloedd yn dweud,

“Ple mae eu Duw?”​

Y mae ein Duw ni yn y nefoedd;

Fe wna beth bynnag a ddymuna. ​​

Salm 115:1-3

Mae bywyd dynol wedi ei adeiladu ar nifer o gerrig sylfaen, a’r pennaf yn eu plith yw ewyllys sofran Duw.

Yn ein sefyllfa bresennol, pan mae pethau’n digwydd sydd tu hwnt i’n rheolaeth ni, mae’n hynod bwysig ein bod ni gyd yn aros ac yn meddwl beth mae hyn wir yn ei olygu.

Mae Duw yn Sofran

Mae Duw yn anfeidrol, yn dragwyddol ac yn ddigyfnewid yn ei holl ffyrdd. I’w roi’n syml, mae hyn yn golygu ei fod yn bodoli ar wastad uwch nag unrhywbeth fedrwn ni ei ddeall. Rydyn ni’n rhan o greadigaeth ac amser, ond mae Duw yn uwch na hyn i gyd ac Ef yw’r “YDWYF” mawr, yr un ddoe, heddiw ac am byth.

Mae Ewyllys Duw yn Sofran

I’w roi’n syml, mae hyn yn golygu bod Duw yn gweithredu ar wastad uwch nag unrhyw beth fedrwn ni ei ddeall yn llawn. Mae ganddo ef gynllun ar gyfer yr holl greadigaeth, a mae e’n ei weithio allan a gall neb rwystro ei ewyllys ef.

Mae’r Beibl yn dweud wrthyn ni mai ewyllys Duw yw hyn, i ddod a dynion a merched i wybod pwy yw e mewn gwirionedd.

Ond pa mor berthnasol yw hyn i ni heddiw?

Mae Duw yn Siarad

Mae Duw yn datguddio ei hun i ni, ond mae calon anffyddiaeth am atal y wybodaeth honno – i beidio gwrando ar ei lais am nad ydyn ni’n hoffi beth mae e’n ei ddweud. Mae’r greadigaeth o’n hamgylch yn ein gwneud yn ymwybodol o Dduw a’i nerth, ond mi rydan ni’n priodoli hynny i rywbeth arall, i siawns efallai. Mae Duw hefyd yn siarad â ni yn ein cydwybodau gan ddweud wrtha ni bod y fath beth a da a drwg a’n bod ni’n atebol iddo fe, ond gallwn drio’i anwybyddu tan i’n cydwybodau roi fyny arnon ni yn gyfangwbl. Mae pob pechod yn ffurff o anffyddiaeth – gwrthod gadael i Dduw fod yn Dduw.

Mae Duw yn Siarad yn Uwch Heddiw

Arwydd o ddaioni Duw yw’r ffaith ei fod, pan dydi dynion a merched ddim eisiau gwrando, yn siarad yn uwch fyth.

Ym mendithion bywyd, mae e’n siarad yn dyner, yn dangos i ni gymaint o ddaioni a charedigrwydd nes ei fod yn ein gadael wedi’n rhyfeddu. Faint ohonom ni sydd wedi profi hyn, efallai mewn achlysur arbennig fel genedigaeth plentyn, ac eto wedi methu cydnabod Duw, cyfaddef ein anheilyngdod a rhoi diolch?

Yn nhreialon bywyd mae e’n siarad yn llym, gan ddangos i ni ansicrwydd bywyd a gwneud i ni gwestiynnu beth mae Duw yn feddwl ohonom ni, a sut fedrwn ni sefyll o’i flaen. Ydi hyn yn digwydd yn eich bywyd chi ar hyn o bryd? Ydi Duw yn dangos i chi bod angen i chi sefyll o flaen Duw i roi cyfrif un diwrnod? Ydych chi’n barod i’w gyfarfod ef?

Mae Duw yn Siarad ar ei Fwyaf Uchel yn Iesu Grist

Yn nyfodiad ei Fab, yr Arglwydd Iesu Grist, mae’n siarad yn uwch nag erioed, oherwydd mae dyfodiad Crist yn arddangos Duw yn y termau mwyaf clir posibl, a mae’r hyn mae’n arddangos yn ein rhyfeddu ni.

Rydyn ni’n gweld ei bŵer i dawelu’r storm; mae e’n sofran dros yr holl greadigaeth. Rydyn ni’n gweld ei sancteiddrwydd yn ei gasineb at bechod fel trosedd yn erbyn Duw ac fel gwenwyn dinistriol ym mywydau dynion. Rydyn ni’n gweld ei gyfiawnder yn amlygu rhagrith gymaint o’r arweinwyr crefyddol o’i gwmpas ac yn gwneud yn glir bod Duw yn cymryd pechod o ddifri ac y bydd yn cosbi pechod yn uffern. Rydyn ni’n gweld ei dosturi tuag at ddynion sydd yn eu bywydau’n crwydro fel defaid heb fugail, ac felly fe’i dysgodd nhw. Rydyn ni’n gweld ei ddaioni a’i garedigrwydd yn gofalu am y rhai anghenus a drylliedig, yn bwydo’r rhai newynog ac yn iachau’r cleifion.

Mae e’n Siarad am Gariad, Gras a Thrugaredd

Yn fwy rhyfeddol o’r cyfan, yn ei groes mae e’n siarad â llais sy’n atsain trwy dragwyddoldeb. Beth mae e’n ddweud? Mae e’n siarad am gariad at elynion, gras i’r rhai anheilwng a thrugaredd i’r anghenus.

Mae pechod wedi’n gwneud ni’n euog, wedi niweidio ein bywyd a’n perthnasoedd, ac achosi i’r holl fyd fod dan felltith. Rydyn ni’n gweld y felltith o’n hamgylch ym mhob man heddiw, wrth i’r feirws ledaenu, yn niweidio’n bywydau ac yn dod â marwolaeth. Ond yng nghroes Crist, mae cariad, gras a thrugaredd yn ennill y fuddugoliaeth. Mae’r groes yn dangos i ni ei bod yn anochel fod Duw yn mynd i gosbi pechod yn y pen draw – bod hynny’n gyfiawn a chywir. Ond mae hefyd yn dangos bod Duw wedi ffeindio ffordd i gosbi pechod yn gyfiawn heb gosbi’r pechadur – mae Mab Duw wedi dod yn Oen Duw sy’n cymryd ymaith bechodau’r byd, “nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.” Dyma gariad i’r rhai sydd ddim yn ei garu fe, a hwnnw’n gariad sy’n gryfach na marwolaeth.

 

Ac o’r groes mae gras a thrugaredd yn llifo:

– gallwn gael ein hachub o’r gosb mae pechod yn ei haeddu – dyna yw trugaredd;

– gallwn gael ein bendithio mewn ffyrdd nad ydyn ni’n haeddu – dyna yw gras.

Yn y groes, mae’r rhaniad rhwng Duw a dyn wedi cael ei oresgyn. Cafodd Crist ei wahanu oddi wrth y Tad fel ein bod ni’n gallu cael ein dwyn yn ôl at Dduw. Fel mae’r llen a rwygwyd o’r top i’r gwaelod yn arddangos – pan faddeuir pechodau, gallwn nesáu at Dduw yn ddiofn.

Yn y groes, mae pŵer pechod yn ein bywydau wedi cael ei dorri. Mae gan pob gwir Gristion fywyd newydd drwy Ysbryd Duw. Dim pechod yw eu meistr bellach, a maent yn rhydd i garu a gwasanaethu’r un a fu farw drostyn nhw.

Yn y groes, mae ansicrwydd bywyd o ddydd i ddydd wedi cael ei symud. Yn hytrach na bod heb Dduw a heb obaith yn y byd, rydyn ni’n gwybod bod gan Dduw ei law arnom ni er lles. Mi fydd e’n ein hachub rhag drygioni, a phan ddaw galw arnom i ddioddef, bydd e’n ein cynnal, hyn yn oed yng nglyn cysgod angau.

Yn y groes, ein tynged tragwyddol. Mae Crist wedi mynd i baratoi lle i ni, a phan ddaw’r amser i ni farw, does dim angen i ni ofni. Rhodd gras Duw i bob crediniwr yw i fod oddi cartref o’r corff a chartrefu gyda’r Arglwydd.

Mae e’n ein Galw ni ato’i Hun

Mewn cariad, gras a thrugaredd mae e’n siarad â ni, yn dweud wrthyn ni ein bod angen Gwaredwr, yr Arglwydd Iesu Grist, yr un a all ein hachub o’n pechodau, a’n cadw’n saff mewn bywyd ac mewn marwolaeth:

A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt,

ac yn lloches rhag y dymestl;

megis afonydd dyfroedd mewn sychdir,

megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig.

Eseia 32:2

Sut Dylen ni Ymateb?

Mae ei lais ef yn ein galw i edifeirwch

Mae Duw yn siarad yn uchel am nad ydyn ni’n gwrando. Rydyn ni angen cyfaddef ein methiant i garu yr Arglwydd ein Duw a’n holl galon, enaid, meddwl a nerth, a’n cymydog fel ni ein hunain. Rydyn ni angen cyfaddef ein methiant i’w roi ef yn gyntaf, a’r llu o ffyrdd rydyn ni wedi byw i ni’n hunain heb hidio am gyfraith Duw. A rydyn ni angen ceisio maddeuant am hyn a gras i fyw bywyd newydd.

Mae ei lais yn ein galw i ffydd

Mae cariad, gras a thrugaredd yn cael eu harddangos yng nghroes Crist. Mae e’n galw arnom i gredu ynddo fe fel ei fod e’n gallu bod yn Waredwr i ni; i ymddiried ynddo fe yn unig am faddeuant heb ddim gobaith o dderbyniad gerbron Duw heblaw am yn ei waith ar y groes. Gall ei waed ef olchi’r aflanaf yn wyn. Hwyrach yn awr, am y tro cyntaf rydych chi’n sylweddoli eich angen am Waredwr. Gwrandewch ar ei lais,a dewch at Grist mewn ffydd. Ni fydd ef yn eich troi ymaith.

Mae ei lais yn galw arnom i hyder gostyngedig

Ydych chi’n Gristion? A yw’r Arglwydd Iesu Grist yn Waredwr arnoch? Ydych chi’n gwybod bod eich pechodau wedi eu maddau? Yna ymddiriedwch yn yr Arglwydd yn y dyddiau anodd hyn. Mae e wedi dod a chi i’w adnabod ef, ac ni fydd yn eich gadael nac yn troi cefn arnoch. Rydych chi’n saff yn ei ddwylo. Dydyn ni ddim wedi cael addewid o fywydau rhydd o drafferthion. Rydym ni’n byw yn yr un byd dan felltith a phawb arall, ond ni wnaiff dim ddigwyddd a wnaiff ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Ymddiriedwch yn ei addewidion, hyd yn oed yn y dyddiau anodd hyn: bydd ei ras yn ddigon i chi. Efallai y byddwn ni’n wynebu sefyllfa na fedrwn ei deall, ond:

Y mae ein Duw ni yn y nefoedd;

Fe wna beth bynnag a ddymuna.