Mae addoli neu’r dull o addoli wedi bod yn bwnc dadleuol ers canrifoedd bellach.
Beth bynnag yw ein barn ynghylch dull addoli, rwy’n siŵr y gall pob un ohonom ni gytuno bod Duw am i ti a mi fwynhau addoliad – Mae’r Salmydd yn Salm 96:9 yn ein hannog ni: ‘Addolwch yr ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd’.
Fe ddywedodd William Temple: ‘To worship is to quicken the conscience by the holiness of God, to feed the mind with the truth of God, to purge the imagination by the beauty of God, to open the heart to the love of God, to devote the will to the purpose of God.’
Mae addoli yn rhan bwysig o fywyd yr Eglwys a bywyd pob Cristion, felly ni ddylem byth ei ddibrisio.
Beth am yr Ysbryd Glân ac addoliad? – A gaf i ddweud yn glir fan hyn; heb bresenoldeb a chymorth yr Ysbryd Glân yn ein haddoliad nid yw ein mwynhad a’n haddoliad yn ddim mwy na ‘thrip emosiynol.’
Mae angen i’r Ysbryd Glân breswylio yn ein haddoliad os ydym am wir fwynhau Duw a’i addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Fel y dywed Wayne Grudem:‘The work of the HolySpirit is to manifest the active presence of God in the world, and especially in the church.’
Os ydym am weld Duw yn gweithio’n rymus yn ein plith wrth i ni addoli, rhaid i’r Ysbryd Glân fod yn bresennol ac yn fwy na hynny, rhaid iddo gael ei le priodol yn yr addoliad.
Mae Paul yn sôn am y Cristion yn Philipiaid 3:3 gan ddweud: ‘ni sy’n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân.’
Hoffwn awgrymu pedair ffordd y mae’r Ysbryd Glân yn ein cynorthwyo ni fel Cristnogion y mileniwm hwn i fwynhau ac addoli Duw gyda’n gilydd. Mae’r ffordd gyntaf yn nodwedd amlycach yn yr eglwysi yr ydw i’n gweinidogaethu iddynt a’r lleill yn gyffredin i bob eglwys.
1. Mae’r Ysbryd Glân yn ein cynorthwyo i’w addoli yng ngrym ei ddoniau.
Rhoddodd Duw yr Ysbryd Glân i’w eglwys a thrwy’r Ysbryd Glân, rhoddwyd gwahanol ddoniau i’r corff fel y gwelwch yn llythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid yn y deuddegfed bennod.
Mae’r doniau hyn yn gymorth mawr i’r Eglwys mewn addoliad pan fyddant yn cael eu defnyddio yn gywir ac yn ddoeth.
Mae Paul yn sôn wrth y Corinthiaid fod y ddawn o broffwydo er enghraifft, wedi cael ei rhoi i’r bobl er mwyn eu ‘hadeiladu a’u calonogi a’u cysuro’ (1Cor. 14:3)
Rwy’n ymwybodol bod doniau yn cael eu cam-drin, fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn tristáu Ysbryd Glân Duw.
Y tair dawn a fyddai’n amlwg mewn addoliad cynulleidfaol mewn eglwys Bentecostaidd fyddai:
- A. Proffwydoliaeth
- B. Llefaru â thafodau
- C. Dehongli tafodau
O’r rhain, proffwydoliaeth fyddai’r un fwyaf cyffredin.
Beth tybed yw proffwydoliaeth neu bwrpas y ddawn hon?
Yn ei lyfr One Lord, One Faith, mae W. A. C. Rowe yn dweud hyn am y ddawn o broffwydo: ‘Prophecy is God opening His heart to the heart of man; it communicates both divine fire and light.’
O ran pwrpas y ddawn, hoffwn ddweud dau beth:
- a) Mae’r ddawn er daioni y corff (yr eglwys)
- b) Mae’r ddawn wedi cael ei rhoi i’r eglwys er mwyn ei hadeiladu a’i chalonogi a’i chysuro (1Cor. 14:3)
Hoffwn hefyd bwysleisio y dylid defnyddio’r doniau;
- i. Mewn ysbryd o ostyngeiddrwydd
- ii. Mewn ysbryd o ymostyngiad
- iii. Mewn ysbryd o gariad
Mae’n bwysig fod pob gair o broffwydoliaeth yn cael ei farnu. Os nad yw’r broffwydoliaeth yn unol â’r gair ysgrifenedig (y Beibl), mae’n rhaid gwrthod y broffwydoliaeth.
Rwy’n siŵr eich bod yn hen gyfarwydd â geiriau nodedig John Stott: ‘We must never divorce what God has married, namely his word and his Spirit. The Word of God is the Spirit’s sword. The Spirit without the Word is weaponless; the Word without the Spirit is powerless.’
2. Mae’r Ysbryd Glân yn ein cynorthwyo i’w addoli ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.
Mae’r Salmydd yn Salm 96:9 yn ein hannog ni: ‘Addolwch yr ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd’. Yn yr un modd y mae Duw Dad yn sanctaidd ym mhob agwedd ar ei berson, mae’r Ysbryd Glân hefyd yn sanctaidd. Os yw’r Ysbryd Glân yn ein harwain mewn addoliad, mae’n rhaid iddo ein harwain mewn sancteiddrwydd.
Rhaid i ni gofio ein bod yn dod â’n haddoliad gerbron Duw sanctaidd ac felly ni allwn ddod yn ysgafn nac yn anystyriol.
Mae’r Ysbryd Glân yn ein cynorthwyo i addoli mewn prydferthwch sancteiddrwydd drwy ddangos i ni rywbeth o brydferthwch, sancteiddrwydd, mawredd a gogoniant y Duw Goruchaf.
Wrth i ni ddod gerbron Duw mewn addoliad, ni allwn ddod â’r un haeddiant sy’n perthyn i ni ein hunain, ond rhaid i ni ddod yn haeddiant ‘iawn’ digonol, effeithiol a thragwyddol yr Arglwydd Iesu Grist. Yn y capel pan oeddwn yn blentyn, roedd yr oedfa foreol yn dechrau gyda’r intrada: ‘Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd yw yr Arglwydd Dduw.’
3. Mae’r Ysbryd Glân yn ein cynorthwyo i’w addoli yng ngoleuni ei Air.
Pan oedd yr Iesu yn sôn wrth ei ddisgyblion am weinidogaeth yr Ysbryd Glân, dywedodd: ‘Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona’r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth i chwi, ac yn dwyn ar gof i chwi y cwbl a ddywedais i wrthych.’
Trwy wir addoliad, credaf fod yr Ysbryd Glân yn datguddio Duw y Gair i ni, neu yr hyn y mae Duw wedi ei ddatguddio amdano ei hun yn y Gair.
Nid yw’r Cristion yn addoli mewn tywyllwch. Mae’r Ysbryd Glân yn agor ei lygaid i Dduw yr Ysgrythur.
Credaf fod yr Ysbryd Glân yn ein hatgoffa am yr hyn yr ydym wedi ei ddarllen am Dduw yn y Gair ac yn defnyddio hynny i’n cynorthwyo i’w addoli wrth i ni gofio am rywbeth o berson gogoneddus y Gwaredwr godidog!
Meddyliwch am Titus Lewis yn ei emyn mawreddog, ‘Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb…’, ar beth, tybed, yr oedd ei addoliad yn seiliedig? Mae pob pennill yn seiliedig ar yr ysgrythur.
Mae’r Ysbryd Glân yn dangos Iesu y Gair i ni mewn gwir addoliad.
4. Mae’r Ysbryd Glân yn ein cynorthwyo i’w addoli yn nerth ei lawenydd.
Mae’r ail adnod o’r ganfed Salm yn ein hannog ni fel hyn: ‘Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd, deuwch o’i flaen â chân’, ac mae Nehemiah 8:10 yn dweud: ‘llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth’.
Pan ddangosodd y Crist atgyfodedig ei hun i’r disgyblion yn Luc 24, darllenwn yn adnod 41 fod y disgyblion wedi rhyfeddu a chydlawenhau gan wybod bod yr Iesu’n fyw!
Rydym yn addoli Iesu byw ac os nad yw hynny’n ein gwneud i ni orfoleddu mewn mawr lawenydd, mae’n rhaid i ni ofyn i’n hunain, ‘ai crefydd neu Gristnogaeth sydd gyda ni?’
Os yw ein hoedfaon yn agored i weithrediadau’r Ysbryd Glan, ni all ein haddoliad beidio â bod yn llawen, oherwydd mae’r Ysbryd Glân yn ein harwain i’w addoli yn nerth ei lawenydd.
Fel gweinidog yr efengyl, mae’n ddyletswydd arnaf i annog cynulleidfaoedd i roi geiriau’r Salmydd ar waith: ‘Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd, deuwch o’i flaen â chân.”
Dyma ddyhead gweddi H. T. Jacob ar ffurf emyn:
O! na ddôi’r fflam o’r nef
I’r hen allorau;
Y fflam wna’r weddi’n gref
Bob hwyr a bore.
‘D oes dim ond sanctaidd dân
All roi in enaid glân,
A deffro newydd gân
Yn ein calonnau.