Rwy’n ei hystyried yn anrhydedd arbennig i geisio talu teyrnged i’r Parchedig Cecil Jenkins gan fod ein hadnabyddiaeth yn ymestyn yn ôl dros 50 mlynedd. Gallaf dystio iddo fod yn gyfaill cywir a charedig.
Brodor o bentref Pump-hewl oedd Cecil ac fe’i ganed ar 1 Mehefin 1929 yn fab hynaf i Edwin a Sarah Jane Jenkins. Cafodd ef a’i frawd, Dennis, fagwrfa hapus yn y cartref ac yng nghymdogaeth glòs y pentref. Islaw’r pentref safai capel Bedyddwyr Horeb ac yno y cafodd y ddau frawd eu trwytho yn llawer o hanesion yr Ysgrythur a hanes Iesu’n arbennig. Myfyr Hefin oedd y gweinidog yn y cyfnod hwnnw.
Wedi cyfnod hapus yn ysgol gynradd Pump-hewl, aeth Cecil ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli, lle bu’n ddisgybl disglair iawn. Wedi gadael yr ysgol ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil, gan weithio yng Nghaerdydd, a mannau eraill, cyn diweddu ym Miwmaris. Yn ystod y cyfnod hwn fe’i gwysiwyd i gyflawni ei Wasanaeth Gwladol, a bu ym Maendy, Loch Lomond ac Aberhonddu ac fe’i gwnaed yn ‘sarjant’. Daeth yn Gristion yn ystod yr amser hwn, a chyn hir bu’n gyfrwng i arwain ei frawd at Grist yn bersonol hefyd.
Yna, ymdeimlodd â’r alwad i fod yn Weinidog yr Efengyl ac fe’i derbyniwyd i Goleg y Brifysgol ym Mangor, ac roedd hefyd yn aelod o Goleg y Bedyddwyr. Unwaith eto, disgleiriodd yn academaidd ac enillodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Hebraeg, er iddo fethu â sefyll un o’i arholiadau oherwydd tostrwydd. Roedd eisoes wedi astudio Lladin yn yr ysgol a daeth yn hyddysg mewn Groeg wrth fynd ymlaen i astudio ar gyfer gradd B.D. Fel ymgeisydd gyda’r Bedyddwyr byddai’n teithio i bregethu yng nghapeli Môn ac Arfon.
Bu’n weithgar hefyd yn yr Undeb Cristnogol a wneud llawer o ffrindiau a fyddai’n gyfeillion oes. Serch hynny, roedd un ffrind arbennig iawn nôl yng Nghynheidre, sef Eunice, ac arhosodd hithau’n amyneddgar iddo gwblhau ei astudiaethau cyn iddynt briodi yn 1961.
Gyda diwedd cyfnod y Coleg daeth penderfyniadau mawr a phwysig wrth i Cecil (ac Eunice) geisio dirnad ewyllys yr Arglwydd ar gyfer y dyfodol. Roedd cynnig i ddarlithio ac ymchwilio rhagor yn Rhydychen; roedd baich hefyd ar galon y ddau i fynd i’r Maes Cenhadol gyda’r B.M.S. Yn y diwedd, serch hynny, y weinidogaeth fugeiliol yng Nghymru oedd y llwybr a agorodd o’i flaen, a dyma symud i’r Tabernacl yn Llwynhendy i’w ordeinio a’i sefydlu’n weinidog yno yn 1961.
Roedd Cecil yn ddyn dawnus iawn: yn ysgolhaig ac yn ddarllenwr brwd a fyddai’n amsugno gwybodaeth. Roedd athrylith yn perthyn iddo – ond roedd ar yr un pryd yn ddiymhongar, yn ostyngedig, yn gyfeillgar a hawddgar. Enillodd barch a serch aelodau’r Tabernacl a’r ardal gyfagos, a bu hefyd yn gweinidogaethu yn Horeb Rhydargaeau. Gwasanaethodd yn y Tabernacl am 48 mlynedd a byddai wedi parhau am ragor oni bai am afiechyd. Trwy ras Duw, roedd yn meddu ar y ddoethineb oddi uchod a gaiff ei disgrifio gan Iago: ‘yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a diragrith’ (Iago 3.17).
Bu’n gwasanaethu mewn cylchoedd eraill heblaw’r Tabernacl: yn dysgu Groeg yng ngholeg yr Eglwys Apostolaidd ym Mhen-y-groes, yn darlithio ar gyrsiau diwinyddol y Mudiad Efengylaidd, yn diwygio Testament Newydd William Morgan a’r BCN, ac yn helpu nifer o ddarpar weinidogion cyn mynd i’r coleg ac yn ystod eu cyrsiau. Cyhoeddwyd cyfres ganddo ar y Galatiaid ac ysgrifau ar Titus ac 1 Corinthiaid 15 heblaw erthyglau eraill mewn cylchgronau a phapurau Cristnogol.
Seiliodd ei fywyd a’i bregethu ar awdurdod yr Ysgrythurau. Nid syniadau mympwyol a chyfnewidiol dynion yw’r rhain ond Gair ysbrydoledig Duw. Roedd ‘Gair y gwirionedd’ ac ‘Efengyl yr iachawdwriaeth’ wedi mynd â’i fryd a’i serch yn llwyr. Cafodd ei ddefnyddio i gyhoeddi a chymhwyso’r Gair i eraill – mewn pulpud, mewn encil a gwersyll, a phrofwyd eneiniad arbennig lawer tro.
Roedd yn gallu cyfathrebu’n effeithiol iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Enghraifft nodedig o hyn yw’r frawddeg a luniodd mewn anerchiad yn ein priodas dros 50 mlynedd yn ôl: ‘The deepest and most profound relationship you can experience in the human realm is that relationship which exists between a man and a woman in mutual love within the bond of marriage.’
Nid cynghorion sentimental gafwyd ganddo ond yr hyn a ddywed y Beibl. Cyfeiriodd at gyngor yr apostol Paul er mwyn sicrhau cytgord a chyd-ddealltwriaeth o fewn rhwymyn priodas: ‘Y gwragedd, byddwch ddarostyngedig i’ch gwŷr priod, megis i’r Arglwydd; y gwŷr cerwch eich gwragedd megis y carodd Crist ei eglwys…’
Ac roedd priodas Cecil ac Eunice yn esiampl hyfryd o hyn ar aelwyd groesawgar ‘Cenrhos’. Profodd teulu estynedig y ddau groeso a llety yn eu henaint, a chafodd rhifedi o deulu’r ffydd groeso helaeth hefyd. Bendithiwyd eu priodas â phedwar o blant; Sian, Dafydd, Mari a Geraint, sydd heddiw yn gwasanaethu’r Arglwydd ac yn weithgar, gyda’u teuluoedd, yn y Tabernacl.
Roedd yn arddwr penigamp, yn pobi bara ac yn troi ei law at waith coed hefyd. Bu hefyd yn gyfrwng i droi llawer at gyfiawnder; o blith ei deulu, teulu’r Tabernacl ac yn ehangach. Bu’n fugail gofalus – yn y pulpud, gydag ôl paratoi o hyd, yn y cartref a’r ysbyty, trwy gyfeirio’r praidd at y Penbugail a gaiff ei ddisgrifio gan Pantycelyn:
‘Pwy garia ’maich fel Brenin nef?
Pwy gydymdeimla fel Efe?’
Yn hyn o beth roedd Cecil yn efelychu’r Bugail Da, yn dwyn beichiau’r trallodus. Gall llawer ohonom dystio bod ei gydymdeimlad bob amser yn ddiffuant a chynnes. Byddai’n estyn y Testament ac yn offrymu gweddi. Roedd yn ŵr gweddi. Y tro olaf i lawer o aelodau’r Tabernacl glywed ei lais oedd mewn gweddi daer ryw bythefnos cyn ei farw.
Ymdrechodd yn ddiysgog dros y ffydd a roddwyd unwaith i’r saint, y ffydd a ddiogelwyd gan Paul, Awstin Sant, Luther, Calfin, y Piwritaniaid a’r tadau ymneilltuol. Roedd ganddo ddirnadaeth ddofn ac ymddifyrrai yng ngwirioneddau’r efengyl a bu fyw yn gydnaws â’r efengyl honno. Er cael ei gamddeall a’i gamfarnu, fel ‘Valiant for Truth’ Bunyan, fe safodd yn ddigyfaddawd dros athrawiaethau’r efengyl ac fe’u harddodd yn ei fywyd.
Dyma eiriau Mr Glew-dros-y-gwirionedd wrth iddo nesáu at ddiwedd ei rawd:
‘Rwy’n mynd at fy Nhad; ac er imi ddod hyd yma trwy lawer o anawsterau, eto nid yw’n edifar gennyf. Rwy’n rhoi fy nghleddyf i’r sawl fydd yn fy nghanlyn yn fy mhererindod, a’m gwroldeb a’m medrusrwydd i’r sawl all ei gael. Rwy’n cadw fy marciau a’m creithiau i dystio fy mod wedi ymladd ei ryfeloeddd Ef, yr Hwn fydd nawr yn fy ngwobrwyo.’ Pan ddaeth y dydd yr oedd yn rhaid iddo ymadael, aeth llawer gydag ef at lan yr afon, ac wrth iddo fynd iddi dywedodd: ‘O angau, pa le mae dy golyn? O fedd, pa le mae dy fuddugoliaeth?’ Felly yr aeth drosodd, a seiniodd yr holl utgyrn iddo yr ochr draw.
‘Da was da a ffyddlon, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd.’