Yn ystod yr Ymgyrch Efengylaidd a gynhaliwyd yn y Bala, adeg y Pasg eleni, clywyd yr ifanc yn gofyn am lenyddiaeth iach a syml, i’w cynorthwyo yn y Ffydd Gristnogol, a hefyd i’w rhoi yn nwylo eu cyd-ieuenctid. Bu’r angen am hyn yn amlwg i rai ers blynyddoedd, a theimlwyd hiraeth yn eu calon am yr amser y byddai’r angen hwn yn cael ei gyfarfod trwy gyhoeddi cylchgrawn efengylaidd Cymraeg.
Mewn canlyniad i arweiniad amlwg oddi uchod, teimlwyd fod yr amser i gyhoeddi’r cylchgrawn wedi dod. Sylweddolwyd fod llawer o rwystrau ar y ffordd, ond trwy garedigrwydd cyfeillion, symudwyd lliaws ohonynt. Teg yw crybwyll enw perchennog Gwasg y Bala am ei barodrwydd i helpu a’i eiddgarwch i gyfarfod ag un o anghenion pennaf ieuenctid Cymru. Ymhen ychydig amser, dewiswyd pwyllgor golygyddol yn cynnwys rhyw saith o frodyr, ac wedi gweddi a myfyrdod pellach, mentrwyd ar y gwaith.
Teimlwn mai teg yw nodi mai menter ffydd yn unig yw hon, ac nid oes gennym unrhyw waddol na chefnogaeth ariannol i hyrwyddo’r gwaith. Edrychwn at yr Arglwydd a’i bobl am lwyddiant y fenter. Credwn fod y tir yn gwbl aeddfed i lenyddiaeth o’r fath yma, a bod ei wir angen i wrthweithio’r llenyddiaeth afiach lygredig, sydd mor boblogaidd ar y farchnad heddiw. Gwelir amcanion y Cylchgrawn ar dudalen arall, a gweddïwn y bydd i’r Arglwydd ei ddefnyddio er gogoniant i’w Enw.
Gyda gwyleidd-dra, cyflwynwn y rhifyn cyntaf hwn i sylw ein cyd-genedl.
Y Golygyddion (Emrys Roberts, I. D. E. Thomas a J. D. Williams)