Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Pechodau Parchus: Y Tafod

11 Rhagfyr 2019 | gan Anna Ayling

Mae’n anodd siarad yn garedig â pherson sydd wedi eich siomi dro ar ôl tro.
Mae’n haws ymateb yn chwyrn neu o leiaf gwyno am y peth y tu ôl i gefn y person. Gall pobl wneud i ni deimlo’n rhwystredig; mae ein geiriau’n adlewyrchu’r rhwystredigaeth a’r gwrthdaro sy’n deillio o’r ffaith ein bod yn byw mewn byd syrthiedig.
Ond, mae geiriau’n bwerus. Creodd Duw y byd gan ddefnyddio geiriau. Siaradodd Satan ag Efa; cafodd ei eiriau’r canlyniad yr oedd wedi ei fwriadu. Fe ddaeth ‘y Gair’, sef Iesu Grist, yn gnawd a phreswylio yn ein plith (Ioan 1:14). Mae geiriau’n nerthol. Gall geiriau greu; gall geiriau ddinistrio: ‘y mae’r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd’ (Diar. 18:21).

Beth mae dy eiriau’n dangos amdanat ti?

‘Yn ôl yr hyn sy’n llenwi’r galon y mae’r genau’n llefaru’ (Math. 12:34). Mae ein geiriau’n amlygu yr hyn sydd yn ein calonnau neu, a’i roi mewn ffordd wahanol, maent yn dangos beth yr ydym yn ei garu. A dweud y gwir, rhaid cyfaddef fy mod yn caru fy hun eithaf tipyn mewn gwirionedd. Serch hynny, rydw i’n ddigon clyfar i beidio â sôn amdanaf i fy hun drwy’r amser: rwy’n gwrando ar broblemau pobl eraill, rwy’n dweud pethau caredig am eraill, rwy’n rhoi cydymdeimlad neu gyngor yn ôl yr angen, rwy’n ysgrifennu pethau neis ar sylwadau neu luniau Facebook pobl eraill. Caiff y rhai sy’n fy adnabod yn well olwg gliriach ar beth sy’n digwydd yn fy nghalon pan rydw i’n ymateb yn bigog ac yn hunangyfiawn. Rwy’n caru fy hun yn fawr. Rydw i eisiau i bobl fy hoffi, i feddwl fy mod yn garedig, neu’n ddoeth, neu’n ddoniol, dwi eisiau i bobl fy mharchu, dwi eisiau i fy ngŵr weld fy mod i’n iawn (unwaith eto) ac rwy’n ddig pan nad yw’n gweld hynny (unwaith eto). Mae Duw yn adnabod fy nghalon a’m cymhellion, gall weld yn gliriach na fi fod cymaint o’r hyn rwy’n ei ddweud wedi ei lygru gan hunangariad dwfn. Efallai y gallwch chi uniaethu â hyn. Nid yw’n golygu fod popeth yr ydym yn ei ddweud yn ddrwg, nac yn golygu nad ydym yn caru eraill; mae’n golygu ein bod yn caru ein hunain yn ormodol.

Beth sydd gan Dduw i’w ddweud am dy eiriau?

Pan ofynnwyd iddo beth oedd y gorchymyn pennaf, atebodd Iesu, ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon… Ac y mae’r ail yn debyg iddo: Câr dy gymydog fel ti dy hun’ (Math 22:37-9). Dychmygwch pa mor wahanol fuasai ein geiriau petaen ni’n wirioneddol garu Duw â’n holl galon ac yn caru ein cymydog fel ni ein hunain. Sut fuasai hynny’n effeithio ar y ffordd yr ydym yn siarad (neu deipio)? Dyma rai syniadau.

Dal dy dafod. ‘Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo, ond y mae’r deallus yn atal ei eiriau’ (Diar. 10:19). Rydym yn gwybod fod ein calonnau’n bechadurus, rydym yn ymwybodol ein bod yn tueddu tuag at ddefnyddio ein geiriau mewn modd pechadurus, felly mae’n ddoeth i dueddu tuag at beidio â siarad (os ydych chi’n fy adnabod i, mi fyddwch yn gweld yr eironi yn y frawddeg yna!). Ydyn ni’n caru Duw’n ddigon i ymatal rhag siarad, mewn caredigrwydd a doethineb, hyd yn oed pan fydd ein cariad atom ni ein hunain yn ein cymell ni i siarad?

Bydd yn raslon. ‘Y mae geiriau caredig fel diliau mêl, yn felys i’r blas ac yn iechyd i’r corff’ (Diar. 16:24). Mae Duw yn raslon tuag atom. Rhoddodd ef Iesu drosom ni pan oeddem yn haeddu uffern. Ydy dy eiriau di’n adlewyrchu ei haelioni a’i ras?

Gwasanaetha eraill. ‘Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o’ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly’n dwyn bendith i’r sawl sy’n eu clywed’ (Eff. 4:29). Yn lle defnyddio ein geiriau i’n gwasanaethu ein hunain, ein dyletswydd yw eu defnyddio er lles eraill, i’w hadeiladu a rhoi gras. Mae caru Duw yn mynd law yn llaw â charu ein cymydog oherwydd bod Duw yn Dduw sy’n caru eraill ac sy’n siarad er eu lles. Ydy dy eiriau di’n gwasanaethu eraill?

Beth sydd gan y Gair i’w ddweud amdanat?

Fe fyddi di’n methu. Dydy dy galon ddim yn iawn, felly ni fydd dy eiriau’n iawn chwaith. Meddai Iago, ‘os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma un perffaith’ (Iago 3:2). Dim ond un perffaith sydd: Iesu. Iesu yw’r unig berson dynol nad yw fyth yn llithro yn ei ymadrodd. Mae Iesu’n llwyddo lle rwyt ti’n methu ac yn gwneud hynny er mwyn dy achub di.

Daliodd Iesu ei dafod pan gafodd ei gyhuddo gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid yn Matthew 27:12. Fel y dywed Eseia, ‘arweiniwyd ef fel oen i’r lladdfa… felly nid agorai yntau ei enau’ (Eseia 53:7). Mae geiriau Iesu yn raslon – ystyria pan ddywed Iesu ar y groes, ‘O Dad, maddau iddynt’ (Luc 22:34). Mae Iesu’n gwasanaethu eraill â’i eiriau. Gwnaeth hyn tra roedd ar y ddaear ac mae’n dal i wneud hynny’n awr: ‘Crist Iesu yw’r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom’ (Rhuf. 8:34).
Roedd Iesu’n dawel fel oen yn cael ei arwain i’r lladdfa drosot ac y mae’n siarad gyda’i Dad drosot yn awr.

Dywedwyd ar ddechrau’r erthygl hon ei bod hi’n anodd siarad yn garedig â rhywun sydd wedi eich siomi dro ar ôl tro. Ti yw’r ‘rhywun’ yna ac mae Iesu’n dal i siarad yn garedig â thi. O’r cariad sy’n llenwi ei galon y daw geiriau caredig a graslon o’i enau, geiriau maddeuant a gobaith. Y mae’n dy garu di yn ddwfn. Pam y daeth y Gair yn gnawd? Er mwyn iddo farw a thalu’r gost am dy bechodau i gyd, am dy eiriau diofal, di-ras, hunanganolog. Y mae’n siarad â thi’n awr trwy ei air ysgrifenedig. Mae’n siarad drosot ti’n nawr gyda’r Tad. Gwrando arno, siarada ag Ef, gofynna iddo am ei faddeuant a’i help i siarad yn ddoeth. Fe ddaeth y Gair yn gnawd a marw drosot; y mae’r Gair yn siarad â’r Tad drosot – mae gen ti bopeth sydd ei angen.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn y Cylchgrawn Efengylaidd Saesneg, Mawrth/Ebrill 2017.

Adnodd diwethaf