Ydy bydolrwydd yn broblem i’r cyfoethog neu’r tlawd? I’r rhai sydd â llawer o eiddo neu ychydig? I’r rhai sy’n byw mewn cymdeithas orllewinol neu mewn gwlad sy’n datblygu?
Bydolrwydd – beth yw e?
Yn 1 Ioan 2:15-16, mae Ioan yn ein gorchymyn i beidio â charu’r byd. Dywed ‘os yw rhywun yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo, oherwydd y cwbl sydd yn y byd – trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau – nid o’r Tad y mae, ond o’r byd.’ Dydy Ioan ddim yn golygu cariad tuag at y bydysawd creedig na thuag at bobl y byd, ond am gariad tuag at bethau sy’n elyniaethus i Dduw neu sy’n anwybyddu Duw, ac sydd o dan arglwyddiaeth Satan.
Yn ei lyfr, Respectable Sins, mae Jerry Bridges yn diffinio bydolrwydd yn y modd hwn: ‘being attached to, engrossed in, or preoccupied with the things of this temporal life.’ Bydolrwydd yw pryd yr ydym yn caru’r byd a’i bethau yn fwy nag yr ydym yn caru Duw. Ni allwn wneud y ddau. Ni all caru’r byd a charu Duw fyth gyd-fynd. Os ydyn ni’n ffrindiau gyda’r byd, rydym yn elynion i Dduw (Iago 4:4).
Mae llawer o bethau yn y byd sydd, heb os, yn anghywir (e.e. dwyn, anfoesoldeb rhywiol); mae gair Duw yn galw’r rhain yn bechodau. Gall fod yn llawer anos adnabod bydolrwydd. Nid yr hyn sydd gennym, neu sut yr ydym yn byw, sydd dan sylw yma yn bennaf, ond agwedd ein calonnau a’r hyn rydym yn ei drysori neu’n byw ar ei gyfer. Efallai nad yw’r pethau rydym yn eu caru’n fwy na Duw yn anghywir yn eu hanfod (e.e. siopa, arian, chwaraeon), ond os ydym yn eu trysori’n ormodol gall y rhain ein gwneud yn fydol. Dim ond un canolbwynt posib sydd i’n serch. Beth yw’r canolbwynt hwn? Gwerthoedd pwy rydyn ni’n eu dilyn?
Bydolrwydd – ym mhle?
Ychydig iawn ohonom fuasai’n gwadu nad yw bydolrwydd yn agwedd flaenllaw o ddiwylliant gorllewinol sy’n gosod arian, eiddo a phleser yn brif amcan bywydau cymaint o unigolion. Ond beth am yr Eglwys? Ydyn ni’n chwilio am ddiogelwch a llawenydd yn Nuw yn unig? Beth sy’n mynd â’n bryd ni? Ydyn ni’n ymddiried yn yr arian yn y banc ac yn rhoi dim ond yr hyn sy’n weddill i waith yr Arglwydd, neu ydyn ni’n ceisio teyrnas Dduw yn gyntaf ac yn casglu trysorau yn y nefoedd? I ba raddau rydyn ni’n edrych i’n diwylliant er mwyn diffinio beth sy’n dda neu’n ddrwg yn hytrach na’r Beibl? Ydyn ni’n ymddwyn mewn un ffordd ar ddydd Sul, ond yn byw mewn ffordd arall gydol gweddill yr wythnos?
Am bum mlynedd, rydym ni’n dwy wedi byw mewn gwahanol rannau o Affrica, ymhlith rhai o bobl dlotaf y byd. Mae’r diwylliannau’n wahanol mewn sawl ffordd, ond ydy bydolrwydd yn llai o broblem? Ddim o gwbl! Dydy’r Beibl ddim yn condemnio meddu ar arian, ond yn hytrach ei garu. Wrth edrych ar lwyddiant efengyl ffyniant (prosperity gospel) yn Affrica, mae’n amlwg bod agwedd pobl tuag at yr hyn mae’r byd yn ei gynnig yn union yr un fath yno ag yn y Gorllewin. Mae’r eglwysi sydd â hysbysfyrddau’n addo cyfoeth, ffyniant a iechyd i bawb sy’n mynychu, o hyd yn llawn, tra bod y rhai sy’n pregethu’r gwir efengyl a chost dilyn Iesu lawer llai poblogaidd.
Fel yn y Gorllewin, gwelir bydolrwydd trwy uchelgais pobl – i gael addysg well, swydd well, mwy o arian a bywyd gwell. Gall y symbyliad ddeillio o resymau da (dymuniad i ddarparu i’r teulu, rhoi bywyd gwell i blant ac yn y blaen) ond yn aml caiff Duw ei adael ar yr ymylon wrth i bobl ddilyn llwybr llwyddiant. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth cael gweithio gyda chyd-weithwyr lleol sydd wedi dewis gweithio’n aberthol yn lle dilyn llwyddiant hawdd mewn mannau eraill, gan osod bydolrwydd o’r neilltu ac yn hytrach geisio Duw a’i wasanaethu. Enghraifft arall o fydolrwydd yw’r goddefgarwch sydd tuag at lygredd sefydliadol ac anfoesoldeb, wrth i bobl dderbyn gwerthoedd ac arferion cymdeithasol heb ddirnadaeth i weld a ydynt yn Feiblaidd ai peidio. Yn anffodus gall yr agwedd hon sleifio i mewn i’r Eglwys os ydym yn gweld gwerthoedd cymdeithasol yn bwysicach na dysgeidiaeth Duw.
Problem gyffredin yw bydolrwydd. Gallwn weld enghreifftiau ohoni mewn unrhyw ddiwylliant. Mae’n dda i ni ystyried ein diwylliant ni ein hunain a sylweddoli sut y gall greu tueddiad ynom i garu’r byd, a phethau’r byd, mwy nag ydym yn caru Duw.
Bydolrwydd – sut i’w osgoi
Efallai fod y syniad o ddianc o’r byd a chuddio mewn clique Cristnogol yn ymddangos yn un deniadol ac yn ffordd dda o oresgyn bydolrwydd, ond yn hytrach na gweddïo i ni gael ein tynnu o’r byd, mae Iesu’n gweddïo y byddwn yn cael amddiffyniad wrth i ni fyw ynddo (Ioan 17:15). Rydyn ni i fyw yn y byd heb gydymffurfio ag e (Rhufeiniaid 12:2), ond yn hytrach, rhaid i ni fyw yn ôl safonau a gwerthoedd Duw a chyda golwg ar y nefoedd. Mi fydd hyn, yn ei dro, yn dylanwadu ar ein gweithredoedd. Felly sut gallwn ni newid i fod yn llai bydol ac yn fwy duwiol?
‘Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.’ (Colosiaid 3:2-4).
Mae’n ymddangos yn ddigon syml, ond mewn gwirionedd rydym yn gwybod pa mor heriol ydy gosod ein calonnau ar yr hyn sydd uchod, heb sôn am eu cadw yno!
Sut gallwn ni wneud hyn?
1. Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod.
Dyma benderfyniad gweithredol a phwrpasol. Rhywbeth i’w frwydro yw bydolrwydd. Rhaid wrth ymdrech, disgyblaeth ac ymroddiad. Gallwn gadw Duw yn y lle blaenaf trwy fuddsoddi yn ein perthynas ag ef trwy ddarllen ein Beiblau a gweddïo’n ddyddiol, gwrando ar bregethau, cydaddoli, darllen llyfrau da ac annog ein gilydd. Nid ydym ar ein pennau’n hunain – mae gennym yr Ysbryd Glan i’n cynorthwyo.
2. Nid ar y pethau sydd ar y ddaear.
Dyna fydd ein canolbwynt os nad ydym yn dewis yn wahanol. Nid digon penderfynu bod yn llai bydol yn unig. Yn hytrach, rhaid i ni ganolbwyntio ein meddyliau ar bethau’r nefoedd fel bod pethau’r byd yn lleihau yn ein golwg.
3. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.
Trwy gofio ein bod wedi marw gyda Christ, ac o ganlyniad nid ydym bellach mewn caethiwed i’r diafol, cnawd na’r byd. Rydym wedi ein hatgyfodi gyda Christ i gael bywyd newydd a statws newydd yn blant i’r Brenin. Trwy ein hundeb â Christ, mae gennym gymaint yn fwy nag y gall y byd fyth ei gynnig i ni.
4. Pan amlygir Crist. Byr ei olwg yw bydolrwydd.
Mae’r byd hwn dros dro, yn feidrol ac yn mynd heibio. Gallwn edrych ymlaen at le llawer gwell; y nefoedd a’r ddaear newydd, lle byddwn gyda’r Arglwydd am byth.