Mae Ruth Shelley yn artist gwydr cyfoes sy’n gweithio o’i stiwdio yng Nghaerdydd. Mae hi wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol am ei gwaith.
Beth yw dy waith?
Rydw i’n creu ac yn gwerthu gwaith gwydr mewn tua 12 oriel, y rhan fwyaf ohonynt yn Lloegr a rhai yn yr Alban a Chymru. Dwi’n anfon fy ngwaith i’w arddangos mewn orielau gwahanol.
Sut fyset ti’n disgrifio dy waith?
Wel, mae yna dri gwahanol math o waith gwydr: gwydr oer, gwydr cynnes, a gwydr poeth. Gwydr oer yw ffenestri lliw, pan fydd y gwydr yn cael ei dorri a’i osod heb wres. Gwydr cynnes yw be dwi’n ei wneud, rwy’n ei dorri a gosod gwydr o wahanol liwiau at ei gilydd yn oer ac yna’i gynhesu mewn odyn i’w doddi, a’i ddychwelyd i’r ffwrnes, gan ddefnyddio disgyrchiant i dynnu’r canol i lawr trwy gylch er mwyn creu siâp llestr. Felly mae tipyn o ffiseg yn y peth. Gwydr poeth yw chwythu gwydr – mae angen ffwrnais boeth sydd ymlaen am gyfnod hir ar gyfer hynny.
Oes gen ti stiwdio?
Mae gen i stiwdio yn yr ystafell ffrynt, ac offer yn yr ardd. Mae Duw wedi bod yn dda iawn i fi a rhoi tai mawr i fi eu rhentu, a nawr mae wedi ein galluogi i brynu tŷ ac fe fydda i’n defnyddio’r ‘stafell ffrynt yn weithdy.
Felly does dim dianc o’r gwaith!
Na, ond gallaf gau’r drws arno! Mae hynny wedi gweithio’n dda achos dwi wedi gallu edrych ar ôl y plant a gweithio. Roeddwn i’n fam sengl am flynyddoedd, ac mae Duw wastad wedi darparu beth oedd angen arnom. Er nad oeddwn yn gallu prynu tŷ fe brynais i camper fan, a phan oedd angen hoover daeth un lan ar ebay. Roedd Duw yn gofalu ar fy ôl fel tywysoges fach!
Sut ddest ti’n Griston?
Pan on i’n un ar ddeg oed ar wersyll ym Mryntyrion es i i’r gwely un noson ac roeddwn i’n ymwybodol fy mod i angen maddeuant – roedd pechod yn pwyso arnaf yn drwm iawn. Roedd dad (Gordon Macdonald) yn arwain ac es i mewn ato a John Roberts; roeddwn i’n crio a chrio a gweddïon nhw gyda fi, ac o’n i’n gwybod fy mod wedi dod yn Gristion. Ond doedd y blynyddoedd wedyn ddim yn rhwydd. Tan i fi adael cartref roeddwn i’n cario mlaen i gerdded fel Cristion, ac yna pan oeddwn yn y coleg celf a heb gwmni credinwyr o fy nghwmpas, roeddwn i’n trio gweithio mas fy ffordd ymlaen. Pan oeddwn i bron yn 30 y des i nôl at Dduw yn Sumatra. Wedi bod yn teithio yn Indonesia – gwnes i lawer iawn o deithio yn Asia – fe ddes i sylweddoli bod rhaid i fi ddod nôl at Dduw. Es i ar fy ngliniau a dod nôl at Dduw bryd hynny. Does dim posib gwybod pam mae Duw yn gweithio fel’na, mae popeth yn cael ei ddefnyddio rywfodd a does dim un o’n profiadau ni’n mynd yn wastraff.
Oes yna ddimensiwn ysbrydol i’r gwaith?
Oes. Rwy’n credu bod angen i bobl greadigol sy’n dibynnu ar eu dwylo neu eu crefft i ennill arian i fod yn agos iawn at Dduw – dwyt ti ddim yn gwybod faint rwyt ti am ennill, felly rhaid i ti ddibynnu ar Dduw bob dydd. Rwy’n gofyn am arweiniad penodol iawn gan Dduw yn ddyddiol ac y mae’n rhan bwysig iawn o redeg y busnes. Mae gen i’r fraint, fel artist, o ddibynnu ar Dduw yn ymarferol. O ran y gwaith creadigol, rydw i’n cael fy ysbrydoli gan yr hyn mae Duw wedi ei greu. Mae rhai lliwiau i’w gweld ym myd natur fyswn i byth yn dychmygu eu cyfuno, ond wrth geisio efelychu gwaith Duw rwy’n dod â hynny i mewn i’r gwaith. Rwy’n credu bod fy ngallu i weithio a chreu yn rhodd gan Dduw.
Wyt ti’n meddwl bod y byd Cristnogol yn gwerthfawrogi celf?
Yn gyffredinol – falle mai na yw’r ateb. Yn y gorffennol rydyn ni wedi torri celf allan ac yn pwysleisio agweddau eraill o’n hanes a’n hetifeddiaeth. Ond fel mae fy ffrind yn dweud, mae hyn yn wir am y Cymry yn gyffredinol. Dydyn ni ddim wir wedi cael ein haddysgu i werthfawrogi celf, er nad celf yw popeth – mae pawb yn greadigol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Felly sut gall rhywun heb syniad am gelf werthfawrogi neu ddeall dy waith?
I fi, lliwiau sy’n bwysig. Rwy’n trio efelychu beth dwi’n ei weld ac mae stori tu ôl i bob llestr – rwy’n ceisio cyfleu hynny yn y teitl neu ysgrifennu darn amdano. Ceisio dangos prydferthwch natur trwy wydr ydw i. Mae’n anhygoel sut mae Duw yn defnyddio lliwiau, hyd yn oed mewn mwsogl neu wal, os wyt ti wir yn edrych ar garreg a gweld y lliwiau i gyd. Mae yna wefr yn hynny.
Oes yna gyfle i dystiolaethu trwy dy waith?
Rwy’n dweud wrth bobl fy mod yn gweddïo am ysbrydoliaeth ac yn diolch i Dduw am ysbrydoliaeth. Mae’n bosib cydnabod Duw yn gyhoeddus a dangos sut mae e wedi fy helpu a gofalu amdanaf. Dydw i ddim yn gwneud celf i ofyn cwestiynau ond i geisio dangos prydferthwch Duw trwy’r gwaith.
Ydy hi’n ddyletswydd ar Gristnogion i ddefnyddio eu sgiliau celf?
Fyswn i ddim yn mynd mor bell â hynny, ond mae hi’n sicr yn bwysig gwerthfawrogi creadigrwydd pawb. Gallwch chi fod yn greadigol ym mhob rhan o fywyd ac rwy’n credu ei fod yn dda annog pobl i weld eu bod nhw’n greadigol – falle wrth arddio, neu arbrofi â rysáit, neu gall gwaith gwyddonol fod yn greadigol hefyd. Mae’n bwysig oherwydd mae pobl yn cael mwynhad o fod yn greadigol, ac mae hefyd yn gyfle i gwrdd â phobl eraill.
Oes gen ti hoff adnod neu ddyfyniad sydd wedi bod yn anogaeth neu’n her i ti yn ddiweddar?
‘A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, neu fam blentyn ei chroth? Fe allant hwy anghofio,ond nid anghofiaf fi di. Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo; y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid’ (Eseia 49: 15-16).
Gallwch weld gwaith Ruth mewn Oriel Makers yn y Bae, Caerdydd, ac mewn llawer o orielau yn Llundain a gweddill y Deyrnas Unedig neu ar www.ruthshelley.co.uk.