Dywed ychydig amdanat ti dy hun – pwy wyt ti?!
Lea Alexander ydw i, gwraig i Simon Alexander, a dwi’n artist sy’n byw yng Nghryw. Cefais fy magu ym Mhenrhyndeudraeth rhwng y mynyddoedd a’r môr.
Pa fath o waith celf wyt ti’n ei wneud?
Dwi’n creu celf lliwgar, bywiog a thlws gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau. Gall fod yn dirlun niwlog piws, neu’n gwdihŵ fach oren. Dwi’n eu fframio i’w rhoi ar wal neu yn eu gwnïo ar gardiau neu lyfrau lloffion dwi’n eu gwneud â llaw.
Pam wyt ti’n ymwneud â chelf – beth yw’r ysbrydoliaeth neu’r peth tu mewn i ti sy’n dy wthio i fynegi dy hun trwy gyfrwng celf?
Dwi’n aml yn breuddwydio fy mod yn byw yn un o dai crand yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn gwerthfawrogi’r pethau prydferth sydd ynddynt, ac sydd wedi eu creu’n bwrpasol o ansawdd uchel. Gallaf weld pleser Duw mewn pethau tlws. Rwyf wrth fy modd yn swatio ar y soffa gyda’r nos, ond mae swatio ar y soffa o dan lun mawr o fynyddoedd Slofenia lle y disgynnais mewn cariad efo Simon yn well. Dwi’n hoffi darllen, ond mae darllen gyda bookmark o gwningen giwt sy’n gwneud imi wenu yn well. Mae gan gelf ffordd dawel o siarad â ni a gall gyfoethogi bywyd cymaint.
Beth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i ti yn dy waith?
Gorffen darn o waith celf a rhoi farnais arno.
Beth sydd fwyaf rhwystredig am y gwaith?
Clirio fy stiwdio ar ôl gweithio.
Rwy’n cofio gweld stribed gomig wnest di sbel yn ôl – ynglŷn â dy brofiad o iselder dwi’n meddwl? Beth oedd y syniad y tu ôl i greu hyn?
Mi wnes i gomig am sut yr es i drwy gyfnod o iselder yn yr ysgol uwchradd. Roedd yn amser o holi ac o ansicrwydd a dwi wedi clywed am lawer o bobl sy’n mynd trwy’r un math o brofiad. Roedd llawer yn gofyn cwestiynau am y profiad ac fel yr oeddwn yn mynd yn hŷn, roeddwn yn anghofio sut deimlad oedd o. Felly penderfynais gofnodi’r profiad yn y ffordd fwyaf eglur ag y gallwn. Mae’n gymaint o anogaeth imi i weld pa mor bell dwi wedi dod, a gobeithio ei fod yn galondid i eraill sy’n dioddef o’r un cyflwr.
Gallwch chi weld y comig – Definition of Me ar www.leaalexanderart.wordpress.com
Beth yw perthynas dy ffydd â dy waith celf – wyt ti’n ei chael hi’n hawdd mynegi pethau ysbrydol trwy gelf? Ydy e’n helpu dy addoliad mewn unrhyw ffordd?
O’r blaen, roedd y parchedig ofn a deimlwn tuag at Dduw weithiau’n rhwystr rhag cyfleu pethau ysbrydol yn greadigol. Roedd arnaf ofn dweud neu wneud llun o rywbeth oedd yn anghywir, felly roedd yn cyfyngu ar fy mynegiant a’m rhyddid ac roeddwn yn cynhyrchu celf heb enaid iddo. Ond nid ceisio rhywun a allai ei gyfleu i berffeithrwydd yr oedd Duw wrth fy mabwysiadu. Sylweddolais ei fod wedi fy mabwysiadu am ei fod yn fy ngharu, felly cariad a rhyddid sy’n dod o wneud celf ym mhresenoldeb Duw. Fo sydd wedi fy nysgu i i werthfawrogi lliwiau llachar, a chael yr hyder i werthu fy ngwaith, a rhannu’r pethau tlws dwi’n eu gweld. Mae tynnu llun yn debyg i ganu ac yn un o’r ffyrdd dwi’n ei ffeindio’n help i dawelu lleisiau’r byd a’i bethau ac agor fy enaid a bod yn ‘fi fy hun’ gerbron Duw.
Pam y dylai Cristnogion werthfawrogi celf?
Mae Duw wedi rhoi pob peth da inni ei fwynhau er gogoniant Iddo. Nid byd du a gwyn, unffurf, diflas a di-fflach a wnaeth Duw, ond ffrwydrad rhyfeddol o liwiau, siapiau, tu hwnt o brydferth! Efelychu Duw mae artist wrth greu a dylai pob math o gelf ein hysgogi i werthfawrogi, meddwl ac ystyried. Felly os oes gennych chi gelf, mwynhewch o.
Diolch Lea!