Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Oedfa Gymraegym Merthyr

11 Rhagfyr 2019 | gan Bethan Jenkins

Ar dechrau’r ganrif ddiwethaf ym Merthyr Tudful, roedd tua 21 o gapeli Cymraeg Annibynnol, tua 15 o gapeli Cymraeg Methodistaidd a thua 19 o gapeli Cymraeg yn perthyn i’r Bedyddwyr.
Yng Ngorffennaf 2016 caewyd capel Cymraeg olaf Merthyr – Salem Heolgerrig.

Yn Ionawr 2018 cynhaliwyd oedfa Gymraeg yng Nghapel Bedyddwyr Saesneg Park am dri o’r gloch y p’nawn. Phil Ellis o Gaerdydd oedd yn pregethu, ac fe ddaeth rhyw ugain o bobl i glywed yr efengyl yn Gymraeg.

Mae Park yn gapel sy’n ymwneud â llawer o brosiectau yn y gymuned: Banc Bwyd Merthyr Cynon, Bugeiliaid y Stryd a’r Lloches Nos. Mae wedi dod i weld nad rhwystr neu niwsans i’r efengyl yw’r Gymraeg, ond arf yn llaw Duw i’w hyrwyddo. ‘Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi’, meddai Iesu ac mae hynny’n cynnwys y wlad wrth ein traed.

Rydyn ni wedi bod yn cwrdd bob mis er Ionawr 2018 yn Gymry Cymraeg gan mwyaf. Daw rhai o gapeli Saesneg Merthyr a’r cylch, rhai o Nelson, ac eraill o Gaerdydd. Mae cnewyllyn bach ymroddgar sy’n dod yn rheolaidd, a daw eraill yn ôl eu mympwy a gofynion gwyliau a theuluoedd.

Uchafbwynt y flwyddyn gyntaf oedd 9 Rhagfyr, pan ddaeth côr o Ysgol Gymraeg Santes Tudful i ganu yn rhan o’r oedfa . Fel arfer rydyn ni’n cwrdd yn y festri lan lofft yn Park, ond wrth i fwy a mwy o bobl dyrru i mewn, roedd yn rhaid symud lawr llawr i’r capel ei hun! Roedd y capel yn llawn a thua naw deg o blant ac oedolion yn clywed yr efengyl!

Roedd y plant wrth eu bodd yn ymateb i neges fywiog Arfon Jones – a’r oedolion hefyd. Dywedodd un person, nad yw’n siarad Cymraeg, iddo ddeall neges yr efengyl yn glir. Does neb wedi dod i’r oedfa Gymraeg fel canlyniad i’r cyfarfod yna – ddim eto, ond mae’r had wedi’i hau. Duw biau amser y cynhaeaf.

Mae cariad mawr at y Gymraeg ym Merthyr. Mae Canolfan Gymraeg Soar yn ffynnu a brwdfrydedd dysgwyr yn rhyfeddol. Mae eu hawydd i ddefnyddio’r Gymraeg ac i ymdrochi yn ei diwylliant yn heintus, ond mae’r Duw a greodd y Gymraeg a’i diwylliant yn absennol o’u meddyliau. Mae’r elfen ysbrydol ar goll ac maen nhw’n farw yn ysbrydol, fel mae pawb nes bo’r Ysbryd Glân yn gweithio ar eu calonnau. Y weddi yw y bydd eu cariad at y Gymraeg yn troi’n gariad at Grist.

Mae rhai Cymry Cymraeg sy’n dod i’r gwasanaeth yn bileri’r Gymraeg ym Merthyr ac yn aelodau ffyddlon o Ferched y Wawr. Maen nhw’n perthyn i’r genhedlaeth sy’n gyfarwydd ag emynau: roedd mynd i gapel Cymraeg yn rhan o’u magwraeth. Maen nhw’n ‘gwybod y geiriau heb adnabod y Gair’. OND maen nhw’n dod i glyw’r efengyl ac o dan ei dylanwad. Oherwydd hynny mae gobaith y bydd Duw yn ‘goleuo llygaid eu deall’.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi cawson ni ddathliad dwyieithog. Daeth tua hanner cant ohonom i fwynhau cawl, bara brith a phice ar y maen. Fe ganwyd ‘Sosban Fach’, ‘Oes Gafr Eto?’, ‘Calon Lân’ a ‘Hoff yw’r Iesu’. Rhannodd Arfon Jones yr efengyl yn Saesneg â ni a dangos o’r Beibl fod cenhedloedd wedi bodoli ers y Cwymp ac mai bwriad Duw oedd i bobl lanw’r ddaear. Pobl Park ddaeth gan mwyaf ac roedd hi’n hyfryd cael dathlu ein bod ni’n Gymry ym mhresenoldeb yr Arglwydd.

Does dim llawer o ddysgwyr na Chymry Cymraeg nad sy’n adnabod yr Arglwydd, wedi dod i’r oedfa Gymraeg eto, ond mae’n gyffrous bod gan Gymry Cymraeg a dysgwyr Merthyr gyfle i addoli yn y Gymraeg.

Plîs gweddïwch y bydd Arglwydd y Cynhaeaf yn rhoi cynhaeaf cyn bo hir. Yn y cyfamser, daliwn i hau’r had a gweddïo am haul a glaw ei drugaredd yn ddisgwylgar.