Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Mynyddoedd y Beibl: Mynydd y Gweddnewidiad

11 Rhagfyr 2019 | gan Nathan Munday

Nid dilyn chwedlau wedi eu dyfeisio’n gyfrwys yr oeddem wrth hysbysu i chwi allu ein Harglwydd Iesu Grist a’i ddyfodiad; yn hytrach, yr oeddem wedi ei weld â’n llygaid ein hunain yn ei fawredd. Yr oeddem yno pan roddwyd iddo anrhydedd a gogoniant gan Dduw Dad, pan ddaeth y llais ato o’r Gogoniant goruchel yn dweud: ‘Hwn yw fy Mab, fy Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.’ Fe glywsom ni’r llais hwn yn dod o’r nef, oherwydd yr oeddem gydag ef ar y mynydd sanctaidd. 2 Pedr 1:16-18

 

Dyna i chi adnodau gwerthfawr gan ddringwr Beiblaidd. Fel arfer, mae carreg ar gopa mynydd sy’n dangos eich bod chi wedi cyrraedd y copa. Mae’n gysur fel arfer. Weithiau mae’r olygfa’n hyfryd hefyd, ond weithiau rydych chi’n cael eich gorchuddio gan gwmwl neu niwl (profiad cyffredin i nifer ohonoch chi, rwy’n siŵr, wrth ddringo’r Wyddfa). Rwyf wedi gweld llawer o bethau rhyfedd wrth fynydda: geifr yn llyfu fy llaw yn Andorra; dynion yn canu yn y cymylau; pobl yn gweiddi rhyw eiriau Hebraeg ar gopaon Romania; a goleuadau’n chwarae triciau yn America! Ond, ches i erioed brofiad fel Pedr, Iago ac Ioan ar Fynydd y Gweddnewidiad.

Tystion. Rheswm am ddioddef. Gwirionedd. Nid chwedl. Dyma eiriau sy’n amlwg wrth fyfyrio ar yr ysgrythur uchod. Bu farw’r dringwr hwn (Pedr) yn y pen draw, gan wybod nad chwedl oedd ei fforddwr ar y bryn y diwrnod hwnnw. Duw oedd wedi ymgnawdoli: yr Arglwydd Iesu Grist. Mewn ffordd, dyddiadur dringo yw’r adnodau hyn; dyddiadur sy’n sôn am fynydd unigryw a phwysig i ni gyd!

Fe welon nhw wyneb yr Arglwydd fel yr haul. Roedd ei wisg yn wyn fel goleuni ac ymddangosodd Elias a Moses wrth ei ochr! Profiad anhygoel! Dim syndod fod Pedr, druan, yn ei ddynoliaeth, wedi trio adeiladu rhyw loches ar eu cyfer. Roedd rhaid iddo wneud rhywbeth. Ond yn y pen draw, llais Duw sy’n tawelu’r pysgotwr. Ac yna, mae Iesu’n dod ato ac yn dweud: ‘peidiwch ag ofni’. Ac wrth iddyn nhw godi, ac agor eu llygaid, dim ond ef oedd yno – eu fforddwr a’u gwaredwr.

Yr oeddem yno

Beth ddigwyddodd ar gopa’r mynydd sanctaidd? Fe welon nhw fawredd yr Iesu yn ei ogoniant. Profiad. Tystio i rywbeth y tu hwnt i ddynoliaeth y Rabbi. Mae rhai capelwyr yng Nghymru yn parhau i feddwl am yr Iesu fel y fforddwr a dyn yn unig. Ydych chi’n darllen y geiriau wrth ganu’r emynau? Dydy mynychu’r capel ddim yn sicrhau bywyd tragwyddol. Os yw’r Iesu’n parhau i fod yn esiampl yn unig, does dim gobaith. Mae angen i chi ei weld ef o’r newydd yn Dduw ac yn waredwr.

Mae’n ddyn, yn sicr. Rydyn ni’n gweld hynny ar y diwedd pan mae’n cyffwrdd â nhw.Mae’n ddyn i gydymdeimlo â chi ac mae’n ddyn i farw drosoch chi. Ond, mae’n Dduw hefyd. Mae ei wyneb fel yr haul; dyma’r un gogoniant duwiol sy’n ymddangos yn Exodus 34 pan fod croen Moses yn disgleirio ar ôl wynebu’r Arglwydd. Mae angen i bawb droedio i fyny’r un llwybr â Phedr, a sylweddoli mai dyn a Duw yw’r Iesu.

Pwy sy’n rhoi’r anrhydedd a’r gogoniant yma iddo? Duw’r Tad. Mae Pedr yn clywed y llais o’r nefoedd ac yn gallu datgan yn hyderus: ‘yr oeddem yno!’ Mae pobl yn gwadu ac yn dweud mai chwedl oedd bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu. Ond mae Pedr yn ateb: ‘Yr oeddem yno’. Roedd Pedr yn barod i aberthu ei fywyd oherwydd iddo weld gogoniant Duw yn yr Iesu. Nid ‘yno’ yn unig, ond sylwch ar yr adnodau: ‘yr oeddem yno’, ‘yr oeddem wedi ei weld’, ‘yr oeddym gydag ef’ a ‘chlywsom ni’r llais’. Ydy hyn yn ddigon i chi? Mae’r synhwyrau i gyd yn tystiolaethu bod Duw wedi ymhyfrydu yn ei Fab.

Hwn yw fy Mab

Rwyf wedi bod ynghanol stormydd ar gopaon a does dim byd gwaeth na chlywed y taranau a gweld llach y mellt. Mae’n arswydus gweld y mellt yna’n llithro lawr y bryn ar yr un lefel â chi! Dwi’n deall pam syrthiodd y dynion i’r ddaear wrth glywed y llais duwiol yn dod o’r nef (Math. 17:6). Ond, dyna i chi eiriau i’w clywed ymhlith yr ofn.

Mae Duw yn datgan mai Iesu yw ‘fy Mab’ ac mae’n rhoi gorchymyn i’r disgyblion wrando arno ef: ‘gwrandewch arno’. Mae Pedr yn ailadrodd y thema hon yn yr Actau gerbron y Cyngor:
Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo. (Actau 4:12)

Sicrwydd. Nid chwedl. Mae Pedr yn gwybod hyn oherwydd ei fod wedi clywed Duw ei hun yn rhoi’r enw hwn i ddynolryw. Iesu yw eich gobaith chi; nid eich teulu; nid eich duwiau estron; nid eich iechyd neu eich arian; ac nid eich cenedl chwaith! Does dim byd arbennig (o ran materion ysbrydol) os ydych chi’n Gymro neu’n Gymraes. Iesu yw’r ‘ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi’ (Ioan 14:6). Mae Duw yn ymhyfrydu yn yr Iesu ac yn rhoi gorchymyn i ni ei dderbyn. Doedd dim pechod ynddo ef: ‘dyma’r un sy’n cymryd ymaith bechod y byd!’ (Ioan 1:29)

Mae’n olrhain, hefyd, o’r geiriau fe fyddwn ni, Gristnogion, yn eu clywed pan ddaw’r dydd i ni wynebu’r Arglwydd. Fydd Duw yn gweld cyfiawnder ei Fab o’i flaen. Haleliwia! Dyna i chi wrthgyferbyniad i Galfaria. Yno, roedd yn rhaid i Dduw droi ymaith oddi wrth yr un yr oedd yn ymhyfrydu ynddo. Pam? Wel, roedd Iesu’n marw yn ein lle. Roedd Iesu wedi cymryd ein pechodau – na, mae’n fwy na hynny – ‘gwnaeth Duw ef yn un â phechod’ (2 Corinthiaid 5:21) ar ein cyfer ni, er mwyn i Dduw ymhyfrydu ynom ni. Dyna i chi efengyl! Dyna beth yw Cristnogaeth go iawn. Beth fydd ymateb Duw pan fyddwch chi yn ei wynebu? Ydy chi wedi derbyn yr Iesu?

Daeth Iesu atynt

Dydy’r Arglwydd ddim yn aros yn ei ogoniant dwyfol. Roedd hawl ganddo i wneud hynny, ond mae cariad yn ei atal ef rhag gwneud. Mae’n dod atyn nhw gyda thrugaredd a chysur.

Diolch i ti am ddod ataf fi, hefyd, pan oeddwn mewn tywyllwch.

Diolch i ti am ddod o’r nefoedd a marw yn fy lle.

Diolch i ti am yr efengyl sanctaidd.

I orffen, mae’r Iesu yn addo bod gyda ni’n wastad, ‘hyd ddiwedd amser’ (Mathew 28:20). Dyma addewid werthfawr ar ddiwedd y llyfr. Wrth i chi droedio llwybrau’r ddaear, mae’r Iesu yn addo bod yn fforddwr ac yn fugail da. Derbyniwch ef a dilynwch, gan gadw eich golwg ar yr Iesu.