Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Mynyddoedd y Beibl: Ararat

11 Rhagfyr 2019

Golau llachar. Awyr iach. Y drysau’n agor o’r diwedd. Dyna olygfa hyfryd i deulu sydd wedi hen arfer ag aroglau’r anifeiliaid a’r tywyllwch – carcharorion oll am ddyddiau. I ddweud y gwir, mae’n debyg bod Noa’n ofni’r tawelwch wrth iddo gerdded allan o flaen ei feibion. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth sathru’r ddaear eto. Does dim sŵn cicada yn y cefndir. Does dim adar yn canu chwaith. Cynfas gwyn. Newydd. Gobaith neu berygl?

 

Mae’r anifeiliaid yn awchu am eu rhyddid. Mae’n rhaid bod y teulu’n barod i droedio’r copaon hefyd. Efallai fod y tir yn wlyb a’r cregyn a’r tywod wedi symud i’r copaon. Efallai bod gwymon a môr-forynion yn cysgu ar y graig. Beth sy’n sicr yw bod y llethrau wedi newid yn sydyn ar ôl y fath erydiad goruwchnaturiol – tswnamis, y tonnau – dwrn Duw ar ddaear syrthiedig. Yn wahanol i ddringwyr eraill y Beibl, mae’r teulu hwn wedi hwylio i gopa Ararat – mynydd wedi’i leoli ger Armenia.

Doedd dim angen dringo. Doedd dim angen gwneud dim byd ond addoli a dweud diolch.

Mae mynyddoedd y Beibl yn arbennig i mi fel Cristion a dringwr. Fydd y gyfres hon yn canolbwyntio ar rai o’r llefydd uchel hyn a gofyn pam a sut mae’r ucheldiroedd yn cael cymaint o sylw yn yr ysgrythur. Yn Genesis, fel y gwelwn gyda Noa, mae Duw (fel arfer) yn cymdeithasu â’i bobl mewn llefydd uchel. Rydyn ni’n gwybod bod yr Argwlydd, fel rhiant neu athro caredig, yn dewis defnyddio’r offer clyweled naturiol hyn er mwyn pwysleisio gwirioneddau ysbrydol. Y sêr a’r tywod gydag Abram; y gwaed ar ddrysau Gosen; yr oen perffaith gan Abel; heb sôn am yr holl fynyddoedd di-ri. Roedd ein Harglwydd Iesu Grist hefyd yn ddringwr. Yn aml, roedd yr Iesu yn dianc i lefydd uchel er mwyn cymdeithasu a siarad hefo’i Dad. Roedd yr Iesu hefyd yn defnyddio’r byd naturiol i esbonio ei ddamhegion a’i bregethau. Felly, mae’n addas i ni wneud yr un peth.

Mannau Uchel – Sefyllfa Druenus

Mae Ararat yn uchel. Mae Duw hefyd yn uwch na’r creadur. Mae mor sanctaidd ydyw fel na all gymysgu gyda phechaduriaid. Yn y penodau cyn y Dilyw, gwelwn sut mae Duw yn dewis barnu dynolryw gan ‘aml oedd drygioni dyn ar y ddaear’ (Gen. 6:5). Tu hwnt i ddynolryw. Yn Eden, roedd Duw yn cerdded gydag Adda ac Efa yn yr ardd – ar yr un lefel fel petai. Ond ar ôl y Cwymp, mae Duw yn uwch na dyn oherwydd mae’n amhosibl i’r Arglwydd gymdeithasu â phechod. Roedd Duw yn dangos iddyn nhw fod angen pont rhyngddo ef a dyn; rhwng yr iseldiroedd a’r ucheldiroedd.

A Duw a gofiodd Noa

Jehovah Jireh – mae Duw yn cysuro’r saint yn yr Hen Destament. Dychmygwch yr ofn a’r pryder yn dilyn y Dilyw. Beth mae Duw am ei wneud gyda’r teulu bach hwn? Oes gobaith? Yn sicr.

Mae Duw yn arwain yr arch at Ararat. Mae’r fan yn dangos bod Duw yn cofio ei etholedigion ac yn barod, ac yn frwdfrydig i’w hachub. Dyma’r arch yn aros ar fan diogel. Mae hynny’n ddarlun i Noa fod Duw yn cofio ac yn gorffen y gwaith. Derbyniodd yr hen broffwyd ddarlun ar ôl darlun o briodoleddau cyson Duw. Duw sy’n ei achub rhag y storm. Duw sy’n ei warchod. Duw sy’n dod ag ef i’r llefydd uchel er mwyn cael cymdeithas. Duw sy’n galluogi dyn i gymodi ag ef. Haleliwia!

Dweud diolch

Mae Noa, felly’n, cynnig aberth ar allor.
A Noa a adeiladodd allor i’r Arglwydd, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor (Gen. 8:20).

Pan rwy’n gweld y carneddau ar gopaon Ffrainc neu Gymru, dychmygaf yr hen allorau. Doedd dim angen i Noa wneud dim ond dweud diolch. Cynigodd aberth glân. Cafodd Noa ei achub o’r storm a dangosodd yr offrwm cynnar hwn fod aberth yn angenrheidiol. Mae diolchgarwch hefyd yn angenrheidiol. Dyma oedd y patrwm o’r dechrau. Roedd yr Arglwydd wedi dangos i Adda yn y dechreuad bod aberth yn bwysig pan osododd y patrwm yn Eden. Roedd angen dillad i orchuddio’r cwpl a bu farw anifail ar gyfer hyn.

Beth amdanom ni? Sut allwn ni ddianc rhag y storm ac ailddechrau’r hen ffyrdd a chael cymdeithas â Duw? Roedd angen aberth glân arall. Yr Oen perffaith, Iesu Grist; cariodd fy mhechod i – a Noa hefyd – yr holl fordd i Galfaria. Diolch i Dduw am y dringwr hwnnw! Fe ddringodd Galfari ar fy nghyfer i a bodlonodd ef am byth oherwydd yr aberth unigryw hwnnw. Haleliwia!

Yr Enfys

Ac yna, dewisodd Duw ddangos rhywbeth arall i Noa. Unwaith y derbyniwyd yr offrwm, rhoddodd enfys yn arwydd o’r cyfamod. Ni fyddai Duw yn barnu yn yr un modd eto. Dangosodd Duw ei drugaredd ar lethrau Ararat. Fel yr achos hwn, roedd addewid yn dilyn aberth Iesu. Pan ddaeth yr Iesu i’r nefoedd wedi gorchfygu marwolaeth a’r diafol, gwelodd Duw fod y gwaith wedi ei orffen a’r carcharorion nawr yn rhydd. Talwyd y pris â gwaed yr Iesu. Sicrhaodd Iesu fywyd tragwyddol i bawb sy’n credu. Dyna i chi enfys well. Dyna hyfryd clywed ‘da iawn fy ngwas da a ffyddlon’ wrth i ni ddod i’r nefoedd. Mor hyfryd yw olrhain y gwaith mawr hwn ar gopaon hynafol Ararat.