Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Morgan Llwyd yr Efengylydd

10 Rhagfyr 2019 | gan Dewi Alter

Eleni rydym yn nodi 400 mlynedd ers geni y Piwritan enwog o Wynedd, Morgan Llwyd (1619-59). Cafodd ei eni yng Nghynfal-fawr yn sir Feirionnydd i deulu uchelwrol. Yn fab i fardd amatur, cafodd ei fagu mewn bro gyfoethog ei chysylltiad â’r traddodiad llenyddol Cymraeg, er enghraifft rhwng 1574 a 1623 bu Edmwnd Prys, y Dyneiddiwr, y bardd a mydryddwr y Salmau yn rheithor ym mhlwyf Maentwrog, lle bu teulu Morgan llwyd yn byw.

Yn 15 oed aeth Llwyd i Wrecsam i gael ei addysg. Dyma dref ers diwedd y ganrif flaenorol lle roedd Piwritaniaeth yn gryf, nodwedd cyffredin i nifer o drefi yng Nghymru a Lloegr ar hyd y Gororau. Ar y pryd, roedd Walter Cradoc, y Piwritan enwog yno, a thrwy ei weinidogaeth ef cafodd Llwyd ei dröedigaeth. Dyma ddigwyddiad pwysig iddo ac mae’n disgrifio’i fywyd ar ôl hynny yn gyfnod o ‘wahanol raddau o oleuni’.

Yn fuan wedi’i dröedigaeth ymunodd ag achos byddin y Senedd yn gaplan, a gwelodd nifer o frwydrau’r Rhyfel Cartref, yn bennaf yn Lloegr. Ym 1644 cafodd ei anfon yn ôl i ogledd Cymru fel pregethwr teithiol, ac ynghlwm wrth y gwaith o daenu’r efengyl yn ein gwlad.

Pregethodd Morgan Llwyd ar hyd gogledd Cymru a darparu ar gyfer anghenion ysbrydol pobl yr ardal. Ceisiodd gyrraedd pobl gyda’r efengyl mewn modd angerddol. Mae hynny i’w weld amlycaf yn ei ymdrechion, trwy gyfrwng llenyddiaeth, i achub eneidiau.

Fel llenor y cofiwn Morgan Llwyd yn bennaf heddiw. Roedd yn awdur toreithiog yn cyfansoddi barddoniaeth, emynau, a gweithiau rhyddiaith yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ond nid unrhyw lenor, dywed Geraint Gruffydd ‘y mae’n gwbl bosibl mai ef yw’r ysgrifennwr rhyddiaith mwyaf dawnus a gafodd Cymru erioed.’ Nid eithriad mo’i safbwynt.

Ei destun enwocaf yw Llyfr y Tri Aderyn a gyhoeddwyd ym 1653. Yma y ceir ymddiddan rhwng tri aderyn; eryr ansicr sy’n cynrychioli’r awdurdod seciwlar; brân reibus sy’n cynrychioli’r Anglicaniaid bydol sy’n derbyn cryn feirniadaeth gan y trydydd aderyn, y golomen, sef y Piwritaniaid sy’n cynrychioli’r efengyl a thystiolaeth Crist ar y ddaear. Mae’r tri yn trafod nifer o faterion cyfoes, gyda’r eryr yn holi ynghylch arwyddocâd datblygiadau cyfundrefnol, ac am bynciau diwinyddol fel gwirionedd y dull Piwritanaidd, sut i gael ffydd a mewnfodaeth – sef bod Crist yn trigo oddi mewn i’r credadun. Yma gwelwn ddyled Llwyd i ddiwinyddiaeth Jakob Böhme o’r Almaen. Gwelwn Morgan Llwyd yn tynnu ar y traddodiad Cymraeg o ddefnyddio anifeiliaid mewn rhyddiaith, a’r Beibl wrth ddefnyddio dau aderyn yn hanes Noa, a’u cyfuno, sy’n batrwm cyffredin mewn llenyddiaeth Gymraeg hyd heddiw.

Blwyddyn gynhyrchiol iawn i Morgan llwyd oedd 1653, cyhoeddau dau destun arall sy’n amlygu apêl efengylaidd y Piwritan anuniongred. Y ddau destun arall yw Llythyr i’r Cymry Cariadus a Gwaedd yng Nghymru, dau destun sy’n ymbil ar i’r Cymry i beidio â gwrthwynebu Duw a chael perthynas real sy’n pwyso’n drwm iawn ar ei galon. Ei ddymuniad oedd i Grist ddod yn realiti mewnol i’r genedl – ac fel cenedl y mae Morgan Llwyd yn annerch ei gynulleidfa.

Mae ystyr Morgan Llwyd i bob oes yn newid. Un tro roedd yn Biwritan y dylid bod yn amheus ohono. Wedyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg trodd i fod yn un o gyndadau’r genedl anghydffurfiol barchus a rhinweddol. Wedyn trodd i fod yn ddihangfa o filwriaeth yr ugeinfed ganrif. Canmolwyd ef yn gynrychiolydd grym dychymyg mewn llenyddiaeth ar ei gorau ac am athroniaeth astrus a threiddgar. Llawer o bethau a mwy yw Morgan Llwyd ond fel y dywed E. Gwynn Matthews ‘Efengylwr… oedd Morgan Llwyd yn y bôn.’

(Er gwybodaeth, mae ysgrif ddiddorol gan R. Geraint Gruffydd ar Morgan Llwyd yn y gyfrol Y Gair a’r Ysbryd (gol. E. Wyn James), sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Bryntirion – gweler yr adolygiadau)

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf