‘Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid’ yw anogaeth a gwahoddiad awdur Llyfr y Pregethwr (12:1). Ond mae hyn yn anodd yn yr oes sydd ohoni oes sy’n apathetig tuag at Grist neu’n gwadu bodolaeth Duw, oes sy’n anwybyddu gwirioneddau absoliwt ac sy’n dilyn emosiwn neu deimlad. Oes sy’n ysbrydol ond heb fod yn grefyddol, oes sydd â diddordeb mewn tegwch a chyfiawnder ond sy’n dirmygu moesau Beiblaidd. Oes sy’n annog pawb i fod yn nhw eu hunain, ond bod hynny ddim yn brifo neb arall. Oes gymysglyd, anwadal, dall a choll…fel pob oes a chenhedlaeth o’i blaen hi.
Fel aelodau o deulu Duw mae’n fraint ac yn ddyletswydd arnom i annog ein gilydd i fod yn oleuni’r byd yn enwedig i annog ieuenctid yn eu ffydd, a dyma beth yw bwriad Llwybrau.
Gwefan Gristnogol ar gyfer ieuenctid Cymru yw Llwybrau a’i nod yw cyflwyno Iesu Grist iddynt; eu cefnogi, eu hannog a’u harfogi i fyw pob agwedd o fywyd mewn perthynas â’u Harglwydd a’u Gwaredwr ac i ymchwilio beth mae dod â chlod i Dduw yn ei olygu ar wahanol lwybrau bywyd.
Mae Rhufeiniaid 12:1, 2 yn dweud wrthym ‘ar sail tosturiaethau Duw’ o achos gras, cariad a thrugaredd anhygoel Duw tuag atom, fe ddylem fyw yn wahanol, fe ddylem fod yn ‘aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly rhowch iddo addoliad ysbrydol. A pheidiwch â chydymffurfio â’r byd hwn, ond bydded i chi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.’
Felly wrth feddwl am gynnwys Llwybrau, yn gyntaf rydym yn ceisio pwyntio pobl at dosturiaethau Duw, dangos cymaint mae e wedi ei wneud trosom drwy Iesu a gweld mai dyma yw sail pob gweithred, meddwl, agwedd, barn, perthynas a phob penderfyniad yn ein bywydau bob dydd. Yna, rydym yn ceisio rhoi help ymarferol i fyw fel Cristion ifanc drwy gynlluniau ar gyfer darllen y Beibl, erthyglau am bynciau sydd o bwys, tystiolaethau a hanesion o Gymru a’r byd, neu roi dolenni at wefannau, caneuon, pregethau neu ddeunyddiau Cristnogol eraill sydd o ddefnydd.
Dywedodd Abraham Kuyper, diwinydd, gweinidog a phrif weinidog yr Iseldiroedd ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf:
‘nid oes un fodfedd sgwâr ar draws holl diriogaeth ein bodolaeth ddynol nad yw Crist, Penarglwydd popeth, yn gweiddi drosti: “Fi piau hon!”’
Rydym yn awyddus i ddangos mai Crist biau popeth, pob llwybr o’n bywyd. Felly mae ganddo rywbeth i’w ddweud am beth rydym yn ei wylio, sut rydym yn gwario’n harian, beth rydym yn ei wneud â’n hamser hamdden, sut rydym yn ymagweddu at waith, ein gwleidyddiaeth a’n gwyddoniaeth, ein perthynas ag eraill a’n postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Crist yn Arglwydd ar y cyfan ac mae Duw’r Tad wedi paratoi ffordd i ni gael perthynas ag ef er mwyn byw fel ei blant yn y byd hwn.
Ein baich a’n gweddi fel tîm Llwybrau yw y bydd rhai yn dod i adnabod Iesu yn Arglwydd a Gwaredwr, hyd yn oed drwy ddeunydd y wefan. Mae hefyd yn ddymuniad twf gennym y bydd Cristnogion ifanc yn dod i garu Gair Duw ac yn dechrau patrymu oes o ddarllen y Beibl a’i drysori. Wedyn caiff hyn oll effaith weledol ar eu bywydau. Byddant yn ‘tyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr wrth i chi rannu’r neges am y bywyd newydd gydag eraill’ (Phil. 2:14-16 beibl.net).
A wnewch chi ymuno â ni i weddïo am y gwaith hwn os gwelwch yn dda? Trwy ddilyn Llwybrau ar Twitter, Instagram, Facebook neu ymweld â’r wefan ei hun, mae deunydd Llwybrau yn cael ei weld gan gannoedd o bobl felly mae potensial mawr i egluro’r efengyl i bobl yn ogystal â chryfhau ffydd rhai ifanc.
Gweddïwch am ddoethineb i ddewis erthyglau, tystiolaethau a phynciau fydd o fudd i ieuenctid heddiw. Gweddïwch y bydd pobl ifanc yn defnyddio cynlluniau ar gyfer darllen y Beibl ac yn cymhwyso’r Gair i’w bywydau yn ddyddiol a gweddïwch y bydd Duw yn cael ei ogoneddu drwy’r wefan hon.
Os hoffech gysylltu â thîm Llwybrau gyda syniadau, cyfraniadau, cwestiynau neu awgrymiadau, mae’n bosib anfon e-bost at: neges@llwybrau.org