Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Hanes y gwaith gan Eleri Trythall (gweithiwr Trobwynt)

11 Rhagfyr 2019 | gan Eleri Trythall

Cefndir

Yn 2018 roeddwn i newydd orfod gadael y brifysgol yn Llundain gan fy mod wedi cael diagnosis iselder. Dechreuais weddïo am arweiniad gan Dduw ynglŷn â beth i’w wneud nesaf. Arweiniodd Duw fi i geisio am swydd hefo elusen Trobwynt. Dechreuais weithio i Trobwynt ym Medi 2018. Roedd y swydd yn un hollol newydd, er bod Trobwynt yn elusen sydd wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd. Roedd ymddiriedolwyr Trobwynt wedi penderfynu bod y swydd hon am ganolbwyntio ar ysgolion uwchradd yn unig.

Dechrau’r Gwaith

Roedd gan Trobwynt berthynas dda eisoes hefo’r ysgol uwchradd ym Mhorthmadog trwy’r Undeb Cristnogol sydd wedi cael ei gynnal yn yr ysgol ers dros ugain mlynedd. Rydw i hefyd yn gyn-ddisgybl o’r ysgol, ac felly roedd dechrau’r gwaith yno yn gymharol hawdd. Yn yr ysgol uwchradd ym Mhwllheli cymerodd fwy o amser i arfer a dod i nabod y plant a’r staff, ond roedd yr ysgol yn hynod o groesawgar ac yn falch o gael aelod ychwanegol o’r staff.

Gwaith yn yr ysgolion

Mae’r gwaith rydw i’n ei wneud yn amrywio rhwng y ddwy ysgol sy’n gwneud y gwaith yn ddiddorol iawn.
Yn Ysgol Glan y Môr ym Mhwllheli rydw i’n cefnogi’r ysgol ble bynnag y mae’r angen, felly rydw i’n rhoi cymorth mewn dosbarthiadau Mathemateg ac yn dysgu ambell wers Addysg Grefyddol. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddod i nabod nifer o blant yr ysgol ac felly rwyf wedi gallu eu gwahodd nhw i’r Undeb Cristnogol yn yr ysgol.

Yn Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog rwyf i’n gyfrifol am gaban o’r enw ‘Y Cob’ sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd â salwch meddwl. Mae’r plant yn gallu dod i’r caban yn ystod amser cofrestru yn y boreau er mwyn eu paratoi eu hunain ar gyfer y diwrnod sydd o’u blaenau. Mae rhai pobl ifanc hefyd yn cael eu gwersi yn ‘Y Cob’ os nad ydyn nhw’n teimlo’n ddigon hyderus i fynd i wers benodol, neu os bydd rhywbeth yn achosi poen meddwl iddyn nhw. Trwy’r gwaith hwn rydw i wedi dod i nabod nifer o bobl ifanc sy’n fregus ond sydd â chwestiynau pwysig fel; ‘Os yw Duw yn fy ngharu i, pam mae o’n gadael i mi ddioddef?’ Mae rhai o’r plant hyn wedi cael yr hyder i ymuno â’r Undeb Cristnogol ambell wythnos.

Undebau Cristnogol

Clod i Dduw bod yna bellach Undeb Cristnogol yn y ddwy ysgol rydw i’n gweithio ynddyn nhw!
Pan ddechreuais i weithio yn Ysgol Glan y Môr doedd dim Undeb Cristnogol yno. Ar ôl yr hanner tymor cyntaf yn yr ysgol, roedd Duw wedi agor cymaint o ddrysau, ac roedd hi’n amlwg ei bod hi’n amser cychwyn Undeb Cristnogol yn yr ysgol. Dechreuodd yr Undeb Cristnogol o dan yr enw ‘Cic Ysgol’. Yn yr wythnos gyntaf daeth dwy o ferched i’r clwb, ond roeddem yn gweddïo y buasai Duw yn dyblu’r niferoedd bob wythnos – a dyna’n union ddigwyddodd. Erbyn hyn mae rhwng 15 a 20 o bobl ifanc yn dod bob wythnos!

Fel rwyf i wedi sôn yn flaenorol, mae Undeb Cristnogol wedi bod yn Ysgol Eifionydd ers nifer o flynyddoedd ac mae Duw wedi bendithio’r grŵp yn fawr yn ddiweddar. Pan ddechreuais i yno roedd tua 15-20 yn mynychu’r clwb. Roedd llwyth o ferched yn dod a dim ond un bachgen, felly dyma benderfynu dechrau gweddïo y byddai bechgyn yn mynychu. Erbyn hyn mae tua 15 o fechgyn a 15 o ferched yn dod bob wythnos! Clod i Dduw! Yn yr Undeb Cristnogol rydyn ni wedi bod yn defnyddio adnodd gan ‘Undeb y Gair’ o’r enw ‘Stori Wir’ sy’n dilyn bywyd Iesu. Mae’r bobl ifanc yn llawn cwestiynau ac yn barod i fod yn hollol onest am beth maen nhw’n ei gredu.

Clybiau Cic

Rwyf i wedi cael y pleser o fod yn rhan o glwb Cic Tudweiliog lle mae nifer fechan, ond ffydlon, o bobl ifanc wedi bod yn mynychu. Eto, rydyn ni’n mynd trwy’r adnodd ‘Stori Wir’ ac mae’n wych gweld grŵp o bobl ifanc sydd mor agored i glywed sgwrs am fywyd Iesu.

Cwrs Ieuentid Coleg y Bala

Yn ystod hanner tymor Hydref a hanner tymor Chwefror, mae grŵp o blant a phobl ifanc wedi mynychu Cwrs Ieuenctid yng Ngholeg y Bala. Mae hyn wedi bod yn gyfle gwych i mi ddod i nabod y plant y tu allan i’r ysgolion. Yn ystod y cwrs, mae cyfle i’r bobl ifanc wneud amrywiaeth o weithgareddau a gwrando ar sgwrs o’r Beibl. Ar ôl y Cwrs Ieuenctid mae nifer o ferched wedi dweud eu bod nhw rŵan yn coelio yn Nuw ac wedi gofyn am Feibl yr un. Diolch i Dduw!