Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gweddïo dros ein Gwlad

9 Rhagfyr 2019 | gan Gwyon Jenkins | Rhufeiniaid 10

Roedd gweddïo yn hollbwysig i Paul, mae’n esiampl dda i’w dilyn.

Gwelwn hyn yn Rhufeiniaid 10:1-7:

Fy nghyfeillion, ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth. Gallaf dystio o’u plaid fod ganddynt sêl dros Dduw. Ond sêl heb ddeall ydyw. Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a’u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw. Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy’n credu y daw cyfiawnder Duw. Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: “Y sawl sy’n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt.” Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: “Paid â dweud yn dy galon, ‘Pwy a esgyn i’r nef?'” — hynny yw, i ddwyn Crist i lawr — “neu, ‘Pwy a ddisgyn i’r dyfnder?'” — hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw. Ond beth mae’n ei ddweud? “Y mae’r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon.” A dyma’r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef: “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â’th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.” Oherwydd credu â’r galon sy’n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â’r genau sy’n esgor ar iachawdwriaeth. Y mae’r Ysgrythur yn dweud: “Pob un sy’n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.” Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy’n rhoi o’i gyfoeth i bawb sy’n galw arno. Oherwydd, yng ngeiriau’r Ysgrythur, “bydd pob un sy’n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.” Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae’r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy’n cyhoeddi newyddion da.” Eto nid pawb a ufuddhaodd i’r newydd da. Oherwydd y mae Eseia’n dweud, “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?” Felly, o’r hyn a glywir y daw ffydd, a daw’r clywed trwy air Crist.

Beth yw ein gobaith am ein cenedl? Mae llawer o atebion: llwyddiant chwaraeon, gwleidyddiaeth, rhyddid i addoli yn parhau ac yn y blaen. Wel, un peth pwysig dros ben i ni Gristnogion Cymraeg yw gweld pobl yn dod i adnabod Iesu Grist. Duw yn ei ddoethineb a’i ragluniaeth sydd wedi peri ein bod ni’n byw yng Nghymru heddiw. Felly mae’n iawn bod baich gyda ni dros gyflwr ysbrydol Cymru. Gwrandewch ar Paul: Rhuf. 9:3, ‘Gallwn ddymuno i mi fy hunan fod dan felltith, ac yn ysgymun oddi wrth Grist, pe bai hynny o les iddynt hwy, fy nghyd-Iddewon i.’ Dymuniad calon Paul oedd gweld pobl o’i genedl yn cael eu hachub. Felly gweddïwch y bydd pobl yng Nghymru yn cael eu hachub.

Sylwer:

Dymuniad calon Paul (ad.1):

‘Ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth.’ Roedd Paul yn hapus dros ben yn pregethu’r efengyl i’r Groegiaid a gweld llawer yn cael eu hachub, ond roedd yn hiraethu gweld llawer o’r Iddewon yn dod i gredu yn yr Iesu. Mae’n iawn bod baich gyda ni i weddïo dros y byd, ond gweddïwch hefyd dros Gymru – y bydd llawer yn dod i gredu. Felly gweddïwch dros Gymru.

Iachawdwriaeth yw galw ar enw yr Arglwydd (ad.13):

‘bydd pob un sy’n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.’ Bid a fo am anrhydeddau’r Iddewon, eu hangen mwyaf oedd ‘galw ar enw yr Iesu’. Beth bynnag yw ein breintiau ni fel cenedl, angen mwyaf pobl yw galw ar enw yr Arglwydd. Nid traddodiad capel, na thraddodiad crefyddol sy’n achub eneidiau. Iesu yn unig sy’n achub a cyfiawnhau pechaduriaid. Felly gweddïwch y bydd dynion, gwragedd, merched a bechgyn yn galw ar enw yr Arglwydd mewn eglwysi, ysgolion, prifysgolion, gwersylloedd, eisteddfodau, ymgyrchoedd. Ond beth sy’n rhaid digwydd fel bod pobl yn galw ar Iesu?

Y mae ffydd yn dod wrth glywed trwy Air Crist (ad.17):

‘Felly, o’r hyn a glywir y daw ffydd, a daw’r clywed trwy air Crist.’ .Mae rhaid i rywun egluro, pregethu’r newyddion da. Rhaid ein bod ni’n gweddïo’n gyson a sylweddoli ein cyfrifoldeb: cyhoeddi, sôn wrth eraill am y newyddion da. Felly gweddïwch am ras a llawer iawn o gyfleoedd i rannu’r newyddion da gyda ffrindiau, cymdogion, pobl rydych chi’n gweithio gyda ni. Gweddïwch am gyfleoedd i wneud mwy o estyn allan gyda’r efengyl.
Felly dewch i ni weddïo! Gweddïwn dros Gymru, gweddïwch y bydd pobl yn galw ar enw’r Arglwydd, gweddïwn y byddwn yn cael llawer mwy o gyfleoedd i gyhoeddi’r newyddion da.