Peidiwch ag anfon eich atebion i’r cwestiwn uchod i’r Cylchgrawn! Fe allech chi dynnu sawl blewyn o drwyn sawl gweinidog – gan fy nghynnwys i! Ond pam codi’r cwestiwn? Gan dynnu’m tafod o’m boch dwi am ofyn: Beth yw gwaith gweinidog wrth geisio bugeilio yn yr eglwys? Peidiwch â throi’r dudalen! Nid erthygl sych, ddiflas ar gyfer gweinidogion yw hon. Mae’n rhaid i ni fel pobl yr Arglwydd wybod beth y dylem ddisgwyl wrth i’r gweinidog geisio gofalu amdanom. Yn ogystal, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ofalu am a chysuro’n brodyr a’n chwiorydd yn ein heglwysi. Felly, beth ddylem ddisgwyl wrth weld gwaith bugeilio yn yr Eglwys?
Gormod o sgons?
Wrth siarad am fugeilio yn yr eglwys mae’n rhaid i ni ofyn beth yw nod bugeilio, ac er mwyn ateb y cwestiwn mae’n rhaid gofyn cwestiwn arall: Beth yw nod Duw ar gyfer ei bobl? Meddai Jwdas yn ei Epistol, ‘Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadw rhag syrthio, a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant, iddo ef yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr a byth bythoedd!’ (Jwdas 24-5). Nod Duw ar gyfer ei bobl yw cadw ei bobl rhag syrthio, a’u cyflwyno’n ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant. Mae Duw am gadw ei bobl iddo’i hun yn dragwyddol.
Dwi’n siŵr fod yna Anti Jên yn eich capel chi – des i ar draws nifer ohonyn nhw. Dwi wrth fy modd yn ymweld â nhw, bwyta sgons, yfed te a siarad am bopeth dan haul! Ond a ydw i wedi eu bugeilio? Ydy fy mwriad i yr un bwriad â bwriad Duw i gadw ei bobl a’u cyflwyno’n dragwyddol iddo’i hun? Peidiwch â chamddeall – mae yna le i small talk. Falle fod Anti Jên heb weld neb drwy’r wythnos, ac mae angen iddi siarad am bopeth dan haul ac mae angen i fi gymeradwyo ei sgons hi! Ond os mai dyma’r unig beth dwi’n ei wneud, a ydw i wedi ei bugeilio’n gywir? Beth yw bwriad Cristnogaeth go iawn? Duw’n achub ac yn cadw pobl yn dragwyddol iddo’i hun. Wrth geisio esbonio gwir grefydd dywed Hugh Martyn yn ei lyfr, The Abiding Presence: ‘Objectively, or from without, it brings to bear upon you personally, the claims of a personal God. And subjectively, or inwardly, it makes your person a living temple of the living God.’ Hynny yw, gwir grefydd yw gwirionedd absoliwt digyfnewid Duw yn dod yn brofiad personol go iawn i ni gan wneud person yn deml fyw i Dduw. Ond alla i ddim plannu gwirioneddau absoliwt Duw yng nghalonnau pobl. Galla i gyflwyno a rhannu’r gwirioneddau wrth bregethu ac ymweld ag unigolion. Ond creu person i fod yn deml i Dduw? Amhosib! Dim ond Duw – Duw yr Ysbryd Glân – a all wneud hynny.
Magu cymeriad, nid magu bola!
Efallai y byddai rhywun yn dweud: Os mai gwaith yr Ysbryd Glân yw geni a meithrin pobl i Dduw – mi wna i roi’r ffidil yn y to. Mi wna i fwynhau sgons Anti Jên, ond alla i ddim gwneud mwy. Ond wrth edrych ar gymeriadau’r Testament Newydd mae ’na anogaeth i ni wrth ddeall fod yr Ysbryd Glân yn defnyddio pobl yr Eglwys i fugeilio’r Eglwys.
Edrychwch ar Barnabas. Dw i ddim yn gwybod a oedd Barnabas erioed wedi magu bola, ond yn sicr roedd wedi magu cymeriad sanctaidd/ysbrydol, lle’r oedd yr Ysbryd Glân yn gweithio drwyddo. Yn Actau 11, mae’r efengyl wedi cyrraedd Antiochia, ac mae’r eglwys yn Jerwsalem yn anfon Barnabas i sicrhau fod Duw ar waith yno. Pa fath o gymeriad oedd Barnabas? ‘Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu’n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon: achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd’ (Actau 11:23-4). Ry’n ni’n gweld sensitifrwydd Barnabas wrth iddo ddeall fod Duw ar waith, o achos ei gymeriad a’i fod yn llawn o’r Ysbyd Glân. Mae Barnabas yn bugeilio’r Eglwys, yn gwneud gwaith ysbrydol, am ei fod yn llawn o’r Ysbryd Glân.
Dwi’n eich clywed chi’n dweud: ‘Ie, ond Barnabas oedd hwnnw a Llyfr yr Actau yw hwnnw – dw i ddim yn y league yna.’ Dw i ddim yn anghytuno – mae ’na elfennau rhagorol, unigryw o waith yr Ysbryd i’w gweld yn Llyfr yr Actau. Yr Ysbryd Glân yw Trydydd Person y Drindod, mae’n Dduw, yn sofran a hawl ganddo i weithio ar ba bynnag raddfa a fyn. Gall weithio drwy seindorf diwygiad neu drwy gloch cyfarfod ‘arferol’ bore Sul. Ond peidiwch â mynd i guddio tu ôl i sgons Anti Jên! Gwae ni i beidio magu cymeriad sydd o dan rym yr Ysbryd Glân. Oherwydd heb wadu sofraniaeth yr Ysbryd i weithio fel y myn ar adegau ac achlysuron arbennig, mae’n wir fod pob gweinidog, pob Cristion, yn llawn o’r Ysbryd Glân. A phwy yw’r Ysbryd Glân? Trydydd Person y Drindod. Wrth briodi wnes i ddim derbyn hanner, neu chwarter Katherine: fe wnes i dderbyn y cyfan ohoni. Wrth i Dduw y Tad, drwy’r Arglwydd Iesu Grist, roi’r Ysbryd Glân, fe wnaeth roi holl berson yr Ysbryd Glân i ni. Meddai Donald Macleod yn ei lyfr A Faith to Live By: ‘…the Holy Spirit is a Person and therefore there is no possibility of our receiving simply part of the Holy Spirit. We receive the whole Holy Spirit, in the fullness of His divine personality and in the fullness of His activity.’ Dydy Duw ddim yn gybydd neu’n fên a dim ond yn rhoi hanner yr Ysbryd i’w bobl.
Cerdded yn agos i’r Ysbryd.
Beth yw’r anogaeth wrth ddringo i’r pulpud neu wrth wrando ar bregeth? Beth yw’r anogaeth wrth ymweld ag Anti Jên? Mae Duw wedi rhoi’r cyfan o’r Ysbryd i’w bobl. Dyma’r anogaeth wrth weld gwaith bugeilio yn yr Eglwys. Does dim diffyg o ochr Duw.
Ond gadewch i ni fod yn onest, dyw ein profiad o fyw fel Cristionogion ddim yn adlewyrchu hynny. Dydyn ni ddim yn brofiadol o fwynhau llawnder yr Ysbryd. Dwi’n syrthio, yn pechu ac yn tristáu’r Ysbryd Glân. Ry’n ni’n gallu bod yn styfnig yn ein pechod, ac o achos ein pechod yn gwadu grym Duw heb fwynhau llawnder yr Ysbryd Glân yn ein bywydau.
Un o’m breuddwydion mawr i yw cael Harley Davidson – creisis canol oed go iawn! Dychmygwch fod y freuddwyd yn dod yn wir a bod yr Harley Davidson cyfan yn y garej! Cwestiwn: Oes gen i Harley Davidson? Oes! Ydw i’n ei ddefnyddio fe? Na. Dwi’n rhy brysur. Ambell waith fe wna i eistedd arno fe ac esgus mynd am sbin. Ond dyw’r beic byth yn cael ei ddefnyddio. Mae tebygrwydd wrth ystyried yr Ysbryd Glân ym mywyd y Cristion.Does dim diffyg o safbwynt rhodd Duw. Mae’r Ysbryd wedi ei roi yn gyflawn i bob Cristion. Ond, o achos ein baglu cyson, ein styfnigrwydd wrth bechu, dydi ni ddim yn mwynhau llawnder yr Ysbryd yn ein profiad. Yr her i bob Cristion, gan gynnwys gweinidogion, yw cerdded yn agos i’r Ysbryd. Sut mae cerdded yn agos i’r Ysbryd? Byddai’r hen saint yn defnyddio’r term ‘moddion gras’. Hynny yw, darllen y Gair, gweddïo yn bersonol ac o fewn ein heglwysi, gwrando ar bregethu, a chymryd Swper yr Arglwydd. Dyma’r moddion mae’r Ysbryd yn ei ddefnyddio i’n cadw i gerdded yn agos iddo ef. Wrth i ni gerdded yn agos i’r Ysbryd, byddwn yn sensitif i’n pechod personol, a nerth yr Ysbryd yn marweiddio’r pechod.
Mae gyda ni gysur mawr wrth ymgymryd â gwaith bugeiliol yn ein heglwysi: mae’r Ysbryd Glân wedi ei roi yn llawn! Ond gyda’r cysur, daw her. Os ydyn ni am fod o unrhyw werth yn helpu’n brodyr a chwiorydd yn y ffydd, yn meithrin eu perthynas â’r Arglwydd, mae’n rhaid i ni feithrin cymeriad ysbrydol ein hunain –cymeriad lle rydym yn mwynhau’n brofiadol agosatrwydd yr Ysbryd Glân. Falle fod bwyta sgons ac yfed te yn haws na magu cymeriad Cristnogol, ond rhaid i ni beidio â gwneud esgusodion.Mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni i fugeilio’r Eglwys.