Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gofynamyrysbryd

11 Rhagfyr 2019 | gan Geoff Thomas

Ac yr wyf fi’n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Oherwydd y mae pawb sy’n gofyn yn derbyn, a’r sawl sy’n ceisio yn cael, ac i’r un sy’n curo agorir y drws. Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i’w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn? Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion? Am hynny, os ydych chwi, sy’n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i’ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn ganddo (Luc 11:9-13).

Addewid i Blant Duw

Cynigia Luc 11 gyfres o addewidion sy’n cynyddu mewn gwresogrwydd a serch, ond nid addewidion i bawb yw’r rhain. Byddai’n ffôl rhoi hysbysfwrdd y tu allan i’n heglwys ni yn dwyn y geiriau: ‘Gofynnwch ac fe roddir i chwi’. Gallai rhywun sy’n gyrru heibio i’r arwydd ystyried mai addewid iddo ef yw hon. Gallai feddwl, ‘Gofyn a chael? Braf iawn. O’r gorau, rwy’n mynd i ofyn am arian i hedfan ar wyliau i Las Vegas. Rwy’n mynd i ofyn am gael ennill y loteri nos Sadwrn.’

Nid addewid ffwrdd â hi yw hon. Sylwch sut mae’n cael ei chyflwyno’n ofalus yn y tesun, sy’n dweud, ‘Gymaint mwy…’ (ad. 13). Mae Iesu’n dweud y geiriau hyn wrth ei ddisgyblion yn rhan o’i ddysgeidiaeth ar weddi. Mae ei ddilynwyr wedi gofyn iddo sut i weddïo, a dyma fe’n dysgu iddyn nhw beth fydd eu Tad nefol yn ei wneud i’w blant. Os ydych chi’n blentyn i Dduw, addewid i chi yw hon. Os ydych chi’n ddisgybl i Iesu Grist ac wedi ei dderbyn ef yn Feseia ac yn Waredwr, rydych wedi cael yr hawl i’ch galw eich hun yn blentyn i Dduw. Duw yw eich Tad nefol. Addewid i chi yw hon, ac nid i’r di-gred.

Nid galwad efengylu i geisio Crist yw hon. Nid ni sy’n ceisio Crist. Fe sy’n ein ceisio ni. Mae’n ein ceisio ni trwy dystiolaeth ffrindiau, trwy bregethu’r efengyl, trwy gynnig maddeuant a glanhad trwy Grist, trwy weddïau rhieni, yn y Beibl a llyfrau Cristnogol, mewn rhagluniaethau lu sy’n mynd â blas pethau’r byd, wrth gael boddhad yng nghwmni Cristnogion. Ym mhob un o’r pethau hyn, mae Crist yn chwilio amdanom ni.

Nid yw Iesu Grist yn rhywun y mae’n rhaid i chi chwilio amdano fe petai ar goll mewn lle dirgel megis ogof ym mynyddoedd yr Himalaya. Nid yw’r Ceidwad mor bell â hynny oddi wrthych. Mae’n chwilio amdanoch chi ar yr union funud hon. Ei eiriau wrth anghredinwyr yw, nid ‘Ewch i blymio’n ddyfnach i’ch profiad a’ch emosiynau eich hun.’ Yn hytrach mae’n dweud, ‘Dyma fi yma; dewch ata i nawr.’

Addewid yr Ysbryd

Felly, beth y dylem ni ofyn amdano fel Cristnogion? Dylem ofyn i Dduw gyflawni ei addewidion. Dylem ni ofyn yn gyntaf a oes gennym ni addewid? Ydy’r addewid honno wedi ei rhoi ar sail y ffaith ein bod ni’n blant i Dduw? Yr addewidion hyn yw’r cyfyngiadau ar rwymedigaethau Duw. Bydd Duw yn rhoi’r hyn y mae wedi ei addo, ond dim mwy. Er enghraifft, nid yw wedi addo ‘A’ ym mhob arholiad.

Gwnaeth Duw addewid am ei Ysbryd Glân (Joel 2:28-9).Mae’r adnodau hyn yn rhoi addewid arall am yr Ysbryd Glân. Mae’r Arglwydd Iesu yn dweud i bob pwrpas:

  • Mae chwant bwyd ar eich plentyn ac mae’n gweiddi, ‘Dad, rho bysgodyn i mi.’
  • Dyma chi’n ateb yn chwyrn, ‘Rhodda i rywbeth i ti,’ wrth luchio neidr tuag ato.
  • Mae’ch mab yn gofyn i chi am wy wedi ei ferwi, a dyma chi’n gollwng ysgorpion a’i gynffon bigog yn ei law.

Mae’r syniad yn wrthun i chi. Fyddech chi byth yn gwneud y fath beth i’ch plant. Ac eto mae’ch natur chi’n ddrwg. Gymaint mwy y bydd eich Tad nefol yn rhoi’r Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn ganddo? Mae’r Arglwydd yn rhoi addewid y bydd pwy bynnag sy’n gofyn am yr Ysbryd yn ei gael.

Nid yw’r Arglwydd yn dweud wrthym am ddyheu’n ingol amdano neu ildio’n llwyr iddo er mwyn ennill yr Ysbryd Glân. Nid yw’n dweud wrthym am gefnu ar bob pechod na bwrw’r cyfan ar yr allor neu ddyfalbarhau mewn gweddi er mwyn cael yr Ysbryd. Yr unig beth mae’n ei ddweud yw, ‘Gofynnwch amdano!’ a bydd y Tad yn ei roi i ni. Does dim angen ei dynnu o ddwylo’r Tad. Caiff yr Ysbryd ei roi; nid yw’n wobr i’w haeddu na’i hennill.

Gofyn am beth?

Gadewch i ni ofyn i Dduw gyflawni ei addewidion a rhoi’r canlynol i ni:
1. Nerth i fyw i Grist. Cyd-destun yr adnodau hyn yw pregeth gan Iesu ar y peth anoddaf i Gristion ei wneud: gweddïo. Mae Iesu yn dechrau trwy ddysgu Gweddi’r Arglwydd i’w ddisgyblion, ac wedyn yn rhoi dameg syml i ddod â gweddi’n fyw, ac i gloi, cynigia’r addewidion mawr fod Duw yn ein clywed ni pan fyddwn ni’n gofyn, yn ein gweld ni pan fyddwn ni’n ceisio, ac yn agor i ni pan fyddwn ni’n curo. Rydyn ni’n garedig i’n plant, ond mae’n Tad nefol yn fwy caredig fyth i’r rhai sy’n gofyn am ei Ysbryd.

Mae’r bywyd Cristnogol yn galed, heriol, blinedig a llafurus. Mae’r baich sydd gennym eisoes yn ddigon trwm, ond rhaid i ni hefyd ddwyn beichiau’r rhai sy’n wannach na ni. Mae’r Arglwydd Iesu yn rhoi egwyddor ar ben egwyddor i’r rhai sy’n byw yng Nghrist, yn yr eglwys, yn y teulu, a gerbron byd sy’n gwylio, gan ddweud mai hon yw’r ffordd i’r nefoedd. Pan glywodd y disgyblion y gofynion hyn, dyma nhw’n holi’n bryderus, ‘Pwy all fod yn gadwedig?’ Ateb Crist yw’r adnodau hyn: ‘Gofynnwch …ac fe gewch…Ceisiwch y gras i weddïo fel rydw i wedi ei ddysgu i chi, i ufuddhau i’r egwyddor hon ac i roi sylw i’r safonau hyn.’

Mor aml yr anghofiwn mai’r Ysbryd Glân sy’n rhoi’r nerth i ni fyw’r bywyd Cristnogol. Edrychwn ar ffordd sancteiddrwydd y Cristion, a chawn ein llethu gan ein diffygion, ‘Arglwydd, mae’n amhosibl i mi fod yn Gristion fel yna’, griddfanwn. ‘Dydw i ddim yn gallu bod yn bregethwr. Dydw i ddim yn gallu bod yn gymar o Gristion. Dydw i ddim yn gallu bod yn aelod eglwysig’. Roedd y Gwaredwr yn gwybod beth oedd ar feddwl pobl, felly dyma fe’n rhoi’r addewid anhygoel hon i’w calonogi: Gofynnwch, ceisiwch, curwch a chewch chi beth hoffech chi ei gael. Gofynnwch am Ysbryd Duw i’ch helpu.

2. Rhagor o’r Ysbryd. Gallwn alaru bod yr eglwys yn dirywio, a’n bod ni’n byw yn nydd y pethau bychain. Gallwn gynnal cyfarfodydd i drafod yr argyfyngau sy’n blino’r eglwys, ond dim ond un ateb sydd i’r problemau a wynebwn yn ein bywydau Cristnogol: Duw yr Ysbryd Glân. Dyna sydd gan Grist i’w ddweud wrth annog ei ddisgyblion, ‘Gofynnwch i Dduw anfon Duw atoch’. Ein hangen ni fel Cristnogion yw rhagor o’r Ysbryd. Mae arnom angen ei gysur, ei ddewrder, ei weinidogaeth galonogol, ei egni, ei ffrwythlonder, ei arweiniad a’i ddyfalbarhad. Nid ydym yn gweddïo am ragor o’r Ysbryd yn unig ar gyfer yr adfywiadau mawr trwy ddiwygiadau’r Ysbryd Glân. Mae arnom angen yr Ysbryd ar gyfer popeth a wnawn yn Gristnogion. Mae arnom angen yr Ysbryd ar gyfer pob penderfyniad a wnawn.

Mor aml y mae ein gweddïau’n tynnu’n groes i hanfod y bywyd Cristnogol. Rydyn ni’n anghofio, er mwyn i ni fod yn fuddiol yng ngwasanaeth Crist ac yn yr eglwys, bod rhaid i ni fynd trwy’r treialon sy’n boenus i’n cnawd. O’r herwydd, mae gweddïo am symud y treialon hyn yn brotest yn erbyn rhagluniaeth Duw tuag atom ni. Yn hytrach, rhaid i ni ddal ati i fynd at Dduw am gymorth. Ac mae e’n anfon ei Ysbryd i’n calonogi ac i’n galluogi i ddod trwyddi. Mae e’n gwybod yr hyn y mae arnom ei angen.