Pa fath o fagwraeth gawsoch chi?
Cefais fy magu ym mhentref Cefneithin, yr hynaf o bedwar o blant. Glöwr oedd fy nhad, a fy mam yn wraig tŷ. Roedd fy rhieni’n Gristnogion enwadol oedd yn mynychu capel y pentref (Tabernacl yr Annibynwyr). Roedd y cartref yn un hapus, ac rwy’n ddiolchgar iawn i Dduw am fy rhieni a fy magwraeth. Yn anffodus bu Mam farw pan oeddwn yn 15 oed, a fy nhad pan oeddwn yn 24.
Rwy’n briod â Ruth ac mae gennym ddwy ferch, Angharad a Bethan. Nyrs yw Ruth, ac mae hi’n gweithio yn Ysbyty Singleton, Abertawe, tra bod Angharad yn athrawes yn yr Ysgol Brydeinig Ryngwladol yn Bucharest. Priododd Bethan fis Ebrill ac mae hi’n cyfieithu (Cymraeg/Saesneg) ar gyfer Cyngor Caerfyrddin.
Sut daethoch chi’n Gristion?
Cefais fy magu i fynychu Capel yr Annibynwyr yng Nghefneithin. Rwyf wedi credu yn Nuw erioed, ond wnes i fyth glywed yr ‘efengyl’ yn ei phurdeb nes i mi weithio gyda dau ‘Gristion efengylaidd’ oedd yn mynychu’r Eglwys Apostolaidd yn y Tymbl. Fe rannon nhw neges yr efengyl gyda fi ac o ganlyniad i’w tystiolaeth fe roddais fy ffydd yng Nghrist fel fy Ngwaredwr.
Beth am yr alwad i’r weinidogaeth?
Unwaith i mi brofi tröedigaeth, teimlais alwad i fod yn weinidog Cristnogol, ac felly siaredais â fy ngweinidog ar y pryd am fynd i’r weinidogaeth gyda’r Annibynwyr. Ond cefais fy argyhoeddi ynglŷn â bedydd trochiad, ac yna ymunais â’r Eglwys Apostolaidd yn y Tymbl gyda fy nghydweithwyr. Pregethais am y tro cyntaf dri mis ar ôl fy nhröedigaeth. Ond ni chefais fy ordeinio’n weinidog am 14 blynedd arall.
Ble rydych chi wedi gweinidogaethu?
Dwi wedi bod yn weinidog ar ddwy ofalaeth. Un yng Nghaerfyrddin (1991-8) a’r llall yn Abertawe (1998 hyd heddiw).
Beth rydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd rwy’n Weinidog Hŷn yn Eglwys Gymunedol y Glannau, Abertawe.
Ydych chi wedi gweld unrhyw newidiadau dros y blynyddoedd?
Mae nifer o newidiadau wedi bod dros y blynyddoedd. Er fy mod i wedi bod yn ffodus iawn i weinidogaethu ar eglwysi oedd yn tyfu yng Nghaerfyrddin ac Abertawe, mae’r niferoedd sy’n mynychu eglwys yn gyffredinol wedi bod yn gostwng. Rwyf hefyd wedi gweld rôl y ‘gweinidog’ yn newid o fod yn un o fugeilio’r praidd i swydd reoli, wrth i’r eglwys leol orfod ymwneud yn fwy â gweithgareddau cymunedol nag y bu.
Beth sydd wedi bod o gymorth i chi yn y weinidogaeth?
Mae adnabod ‘galwad Duw’ wedi bod yn allweddol. Heb yr ymdeilad o ‘alwad’, rwy’n siŵr y byddwn wedi ildio’r awenau flynyddoedd yn ôl. Mae’r ffaith fy mod i wedi gallu rhannu beichiau a rhwystredigaethau gyda fy nghydweithwyr wedi bod yn hynod o werthfawr hefyd.
Beth sydd wedi bod yn anodd?
Y ddau brif anhawster rwyf wedi eu hwynebu yw
1. Ei chymryd hi’n bersonol pan fydd rhywun yn gadael yr eglwys
2. Diffyg ‘gras’ gyda’r Cristnogion mwyaf aeddfed tuag at y rhai ifanc sydd efallai’n ymddwyn ychydig yn wahanol. Rwyf wedi canfod bod rhai yn canolbwyntio gormod ar bethau eilradd.
Pa gyngor yr hoffech chi ei roi i unrhyw un sy’n dechrau yn y weinidogaeth heddiw?
Cofiwch fod arweinyddiaeth Gristnogol yn arweinyddiaeth gwas. Peidiwch ag ofni gweithredu newid, ond cyn gwneud unrhyw newidiadau mawr, sicrhewch eich bod wedi ennill calonnau’r bobl. Unwaith y byddwch wedi ennill y bobl, er efallai nad ydyn nhw o blaid y newid, gan eu bod wedi eich derbyn chi, byddan nhw’n derbyn y newid hefyd, er yn gyndyn ar adegau.
Oes gennych chi unrhyw obeithion i’r dyfodol?
Rwy’n credu yn yr ‘Eglwys’ a’i dyfodol. Ond, fel arweinwyr mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod ein dull o fod yn eglwys heddiw yn cysylltu â’r genhedlaeth rydym wedi cael ein galw i weinidogaethu iddi. Byddwn yn awgrymu y dylwn ni ystyried y canlynol er mwyn sicrhau bod yr eglwys yn ffynnu i’r dyfodol!
• Parodrwydd i gofleidio newid.
• Symud o gynaladwyaeth i genhadaeth.
• Bod yn fwy cyfoes a pherthnasol yn ddiwylliannol.
• Ailddarganfod pregethu sy’n creu cysylltiad.