Sut y byddwch chi’n mynd i’r Eisteddfod eleni? Mewn car neu fws? Ar feic neu ar droed? Oes rhywun wedi meddwl am fynd mewn cwch?
Byddai hynny’n osgoi’r tagfeydd, fwy na thebyg, a’r perygl o gymryd y tro anghywir wrth ddilyn afon Conwy o’r môr i Lanrwst. Ynghyd â’r golygfeydd ysblennydd, byddai mantais arall i’r daith hon, sef cyfle i olrhain cysylltiadau’r ardal â’r Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru a hynny trwy bedwar o’i sylfaenwyr. Wrth fynd o dan bont Conwy a rhyfeddu at furiau cadarn castell Conwy ar y dde, dychmygwch y lôn sy’n arwain y tu ôl i’r castell i bentref Y Gyffin, man geni’r Esgob Richard Davies. Wedyn ymlaen nes cyrraedd pont Llanrwst, lle bu William Salesbury yn byw am y rhan fwyaf o’i oes a lle ganed Edmwnd Prys.
Ar ôl mwynhau ychydig o’r Eisteddfod, beth am ddychwelyd i’r afon a theithio ymhellach i gymer afon Lledr? Dilynwch honno a’i llednant gyntaf ar y chwith (anaddas i gychod mawr) nes dod i Dŷ Mawr, Wybrnant, cartref William Morgan (aelod o fwrdd y Cylchgrawn, Nathan Munday, yw warden newydd y tŷ ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Wedyn ewch gyda’r llif yn ôl i Lanrwst a chwilio am yrrwr caredig iawn i fynd â chi ryw ugain milltir heibio i Lansannan (lle ganed William Salesbury) ac ymlaen i Lanelwy, lle bu Richard Davies a William Morgan yn esgobion, a lle bu Edmwnd Prys yn ganon. Yma, ger y Gadeirlan, y gwelwch gofgolofn i’r Diwygwyr Cymreig, yn ogystal â bedd William Morgan. Ond pwy oedd y rhain? Mae llawer wedi ei ddweud am eu cyfraniad i ddatblygiad a goroesiad y Gymraeg, felly dyma olwg gyflym ar eu cyfraniadau ysbrydol sydd o berthnasedd i ni heddiw.
Richard Davies (1506-81): Yr Eglwys
Mae hanes Richard Davies yn cyd-blethu ag un William Salesbury. Cafodd ei addysg gynnar gan ei deulu a mynd, maes o law, yn fyfyriwr i Rydychen. Yma, fel Salesbury, y daeth i ffydd, ac wedyn dechrau ar ei weinidogaeth yn swydd Buckingham a oedd yn gadarnle Protestannaidd ar y pryd. Yn hytrach nag ildio i’r drefn newydd o dan y Frenhines Mari, dewisodd Richard Davies ymuno â’r alltudion Anglicanaidd ar y Cyfandir yn Frankfurt. Y cysylltiadau a wnaeth yn ystod y cyfnod hwn sy’n esbonio pam y cafodd y clerigwr cymharol ddi-nod hwn ei ddyrchafu’n esgob yn fuan ar ôl esgyniad Elisabeth i’r orsedd, yn gyntaf yn Llanelwy ac wedyn yn Nhyddewi.
Er iddo gyfrannu’n llai i destun y Testament Newydd na Salesbury, hebddo, a siarad yn ddynol, mae’n anodd credu y byddai gennym Destament Newydd. Bu’n allweddol yn yr ymdrechion i basio Deddf 1563 a sianelodd egnïon Salesbury, a’i alluogi i orffen ei gyfieithiad o’r Testament Newydd trwy roi llety iddo, cyfieithu rhai o’r llyfrau, a threfnu bod un arall o glerigwyr yr esgobaeth (Thomas Huet)yn cyfieithu Llyfr y Datguddiad. Gyda Richard Davies, daeth y cyfieithu’n rhan o genhadaeth yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, a gall Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr ddysgu oddi wrth ei weledigaeth.
William Salesbury (1520?-1584?): Y Testament Newydd
Mae’n bosibl i Salesbury gael addysg yn Lloegr cyn mynd i’r brifysgol yn Rhydychen lle troes yn Brotestant. Roedd yn ieithydd tan gamp; yn ôl y sôn, erbyn ei ugeiniau, yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, roedd yn rhugl ei Ladin, Groeg, Hebraeg, Ffrangeg ac Almaeneg, ac o’r herwydd, gallai ddarllen y gwahanol gyfieithiadau Protestannaidd o’r Beibl a dod i farn bersonol ar sail y testunau gwreiddiol.
Pan olynwyd Harri VIII gan ei fab Protestannaidd Edward VI yn 1547, cafodd Salesbury gyfle i fynegi ei wrthwynebiad sylfaenol i athrawiaeth yr offeren yn ei waith polemaidd The Batterie of the Pope’s Botereulx (1550). Flwyddyn wedyn cyhoeddodd ei ymgais gyntaf ar gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, Kynniver llith a ban, a oedd yn cynnwys y darnau hynny a ddefnyddid yn ffurfwasanaeth Eglwys Loegr. Pwysodd ar esgobion Cymru i roi sêl eu bendith ar ei gyfieithiad, ond araf fu’r ymateb ac erbyn 1553, roedd Mari wedi esgyn i’r orsedd, ac yn benderfynol o adfer yr ‘hen ffydd’.
Yn 1558, bu farw Mari, i’w holynu gan ei hanner chwaer Elisabeth, a daeth Cymru a Lloegr yn wledydd Protestannaidd o’r newydd. Ar ôl pasio’r ddeddf yn gorchymyn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, yn 1563, gwahoddwyd Salesbury gan Esgob newydd Tyddewi, Richard Davies, i’w balas yn Abergwili lle bu’n brif gyfieithydd y Testament Newydd a gwblhawyd erbyn 1567. Hwn oedd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf erioed o’r Testament Newydd Groeg yn ei gyflawnder. Mae pob cyfieithiad Cymraeg, ac yn wir pob ymgais i gyhoeddi neges y Testament Newydd yn Gymraeg, yn adeiladu ar lafur Salesbury.
William Morgan (1541?-1604): Yr Hen Destament
Roedd Deddf 1563 yn gorchymyn cyfieithu’r Beibl cyfan i’r Gymraeg, ac eto dim ond y Testament Newydd a’r Salmau a gwblhawyd erbyn 1567. Yn ôl un adroddiad, gwnaeth William Salesbury a Richard Davies ffraeo ar gyfieithiad un gair, a dyna ddiwedd ar y cydweithio. William Morgan a orffennodd y gwaith. Yn fab i is-denantiaid i Wynniaid Gwedir, trwy garedigrwydd teulu Gwedir y cafodd yr addysg a’i galluogodd i ymrestru yng Ngholeg blaengar Ieuan Sant yng Nghaer-grawnt yn 1565.
Yn 1571 dechreuodd ar ei astudiaethau B.D. Am saith mlynedd, ynghyd â gweithiau’r Tadau a phrif ddiwinyddion y Diwygiad, byddai’n astudio’r holl Ysgrythurau yn fanwl yn Hebraeg, Aramaeg a Groeg, gan ystyried yr holl gyfieithiadau ac astudiaethau testunol oedd ar gael, a hynny wrth draed rhai o awdurdodau pennaf y byd. Tybed faint o gyfieithwyr modern sy’n cael y fath baratoad trwyadl? Byddai’n parhau â’r gwaith hwn yn ystod ei wahanol orchwylion clerigol yng Nghymru nes gorffen yn 1588. Yn ogystal â dileu rhai o ddiffygion Testament Newydd 1567 a diwygio’r Salmau, cyfieithodd weddill yr Hen Destament, ar ei ben ei hun dros flynyddoedd lawer, a bu farw mewn dyled yn 1604 am iddo dalu llawer o’r costau argraffu o’i boced ei hun. Gwnaeth hyn er mwyn i’r Cymry gael gafael ar ‘holl gyngor Duw’. Onid yw’r aberth hwn yn condemnio ein tuedd i esgeuluso llawer o’r Hen Destament?
Edmwnd Prys (1544 – 1624): Addoliad
Un o newidiadau mawr y Diwygiad Protestannaidd oedd y pwyslais ar addoliad cynhwysol. O dan y drefn Gatholig, gwylwyr oedd y gynulleidfa a’u ffydd oddefol yn canolbwyntio ar offeiriad a oedd yn eu cynrychioli gerbron Duw. I Luther a’i ddilynwyr, roedd pob crediniwr yn offeiriad gerbron Duw (gweler 1 Pedr 2:5, 9), a’i ffydd yn weithredol; felly roedd angen cynnwys y gynulleidfa gyfan yn yr addoliad. Un ffordd o wneud hynny oedd canu. Yn yr eglwysi Calfinaidd datblygodd yr arfer o ganu Salmau a ledodd i Eglwys Loegr yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Bu galw am gyfieithu’r Salmau i’r Gymraeg, a gwnaed rhai ymdrechion yn y mesurau caeth, ond roedd yn anodd i gynulleidfaoedd eu canu, ac roedd gofynion cerdd dafod yn golygu hepgor llawer o’r cynnwys gwreiddiol. Erbyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd rhai Anglicaniaid blaenllaw yn argyhoeddedig mai’r mesurau rhydd oedd y rhai mwyaf addas ar gyfer mydryddu’r Salmau.
Un o gyd-fyfyrwyr William Morgan yn Ngholeg Ieuan Sant, Edmwnd Prys, a gyflawnodd y gamp hon, gan gyhoeddi ei Salmau Cân yn 1621. Yn 1576, daeth yn Archddiacon Meirionnydd a symudodd i’r Tyddyn Du, Maentwrog, lle bu’n byw am weddill ei oes. Y gred draddodiadol oedd iddo fydryddu’r Salmau ar sail yr Hebraeg (fel y gwnaeth Gwynn ap Gwilym yn ystod y ganrif hon) ond mae ymchwil manwl Adrian Morgan wedi dangos mai addasu cyfieithiad soniarus William Morgan a wnaeth yn hytrach. Bid a fo am hynny, haedda ei le yn dad emynyddiaeth Cymru. Gyda’r Salmau daeth ystod o brofiadau duwiol – gobaith, llawenydd, galar, ymbil – yn gân i genedlaethau o addolwyr Cymraeg. Nac anghofier mai’r Salmau Cân oedd llyfr emynau Annibynwyr Cefnarthen lle magwyd Williams Pantycelyn.
Er pwysiced egluro dysgeidiaeth y Beibl yn gywir ac yn ddealladwy, er mwyn atal y gwirioneddau hyn rhag mynd yn hollol ddiffrwyth, rhaid cael adlais i’r ddysgeidiaeth yn ein calonnau.