Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cymdeithas a anghofiodd sut i wrando

10 Rhagfyr 2019 | gan Matthew Rees

Roeddwn i ar drên yn ddiweddar, yn wynebu dyn oedd yn amlwg yn mwynhau ei ymddeoliad. Wrth i’r trên dynnu allan o’r orsaf fe ymgartrefodd yn ei sedd, a dechrau darllen ei lyfr cyn codi ei law i’w glust i dynnu ei gymorth clyw allan. Roedd y dyn yn benderfynol o gael ei adael mewn heddwch wrth iddo geisio dileu’r byd o’i gwmpas.

Ar ôl gwylio’r digwyddiad hwn gyda rhywfaint o ddifyrrwch, dechreuais fyfyrio ar sut mae ein cymdeithas hefyd wedi dod yn eithaf da am ddiffodd ei chymorth clyw.

Yn ôl pob tebyg, roedd y dyn yn edrych am ychydig o dawelwch. Ond y gwir amdani yw, os edrychwn arnom ein hunain, bod ein cymdeithas wedi colli’r gallu i wrando ar ein gilydd a’r hyn rydym yn ceisio’i ddweud wrth ein gilydd.

Wrth i ni geisio dileu’r byd o’n cwmpas, rydyn ni’n gallu golygu ein bywydau, gan anghofio’r hyn nad ydyn ni eisiau ei dderbyn a glynu wrth y pethau rydyn ni am eu credu.

Pan rydyn ni’n stopio gwrando, rydyn ni’n colli ein gallu i ddeall ein gilydd, wrth i ni siarad heibio i’n gilydd neu ynysu ein hunain o’r hyn nad yw’n cyd-fynd â’n syniadau am y byd, rydyn ni’n datblygu golwg gwyrdroëdig o’r byd o’n cwmpas.

Yn ei lyfr, Perils of Perception, mae Bobby Duffy, cyn-gyfarwyddwr y cwmni ymchwil cymdeithasol Ipsos MORI, yn amlinellu sut mae canfyddiadau cyhoeddus yn aml yn bell iawn o’r realiti. Er enghraifft, pan ofynnwyd i aelodau’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig am ddiweithdra yn y DU, amcangyfrifodd y rhai a ofynnwyd bod 18% o bobl o oedran gweithio yn ddi-waith yn y DU tra mewn gwirionedd, ar adeg yr arolwg, dim ond 4% o bobl o oedran gweithio oedd yn ddi-waith.

Mae Duffy hefyd yn nodi bod y dystiolaeth yn dangos bod pleidleiswyr wedi’u gwreiddio’n fwyfwy yn eu gwersylloedd gwleidyddol eu hunain. Gellir gweld y polareiddio hwn yn y ffordd y bu ychydig iawn o symud ym marn y wlad ar Brexit yn ystod y tair blynedd ers cynnal y refferendwm.

Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd 52% o’r wlad o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd a 48% o blaid aros yn yr Undeb. Mae’r arbenigwr John Curtis o Brifysgol Strathclyde, wedi nodi bod pleidleiswyr wedi aros yr un mor rhanedig dair blynedd i ddiwrnod y refferendwm. Nododd pôl piniwn ym mis Mehefin 2019 y byddai 88% o’r rhai a bleidleisiodd i ‘aros’ yn 2016 yn gwneud hynny eto pe bai refferendwm arall yn digwydd, gyda dim ond 8% wedi newid eu barn. Yn yr un modd, byddai 87% o’r rhai a bleidleisiodd i ‘adael’ yn 2016 yn pleidleisio i ‘adael’ eto yn 2019 gyda dim ond 8% wedi newid eu barn.

Y gwir amdani, er 2016, yw nad yw mandad y refferendwm wedi gwneud llawer i feddalu barn y rhai sydd am aros, tra nad yw bygythiadau ‘dim cytundeb’ wedi gwneud fawr ddim i feddalu safbwynt y rhai sy’n dymuno gadael yr Undeb Ewropeaidd. Er gwaethaf trafodaeth a dadl ddi-stop fwy neu lai ar fater Brexit dros dair blynedd, mae pobl wedi caledu yn hytrach na meddalu eu barn. Mae’n ymddangos nad oes neb yn gwrando ar ei gilydd.

Mae’r awdur enwog o Dwrci, Orhan Pamuk, sydd wedi treulio’i fywyd yn ysgrifennu mewn cyd-destun o bolareiddio parhaus rhwng y rhai a hoffai weld Twrci yn datblygu i fod yn wladwriaeth ddemocrataidd ryddfrydol a’r rhai a hoffai weld y wladwriaeth yn dyfnhau ei thraddodiad Islamaidd, wedi dysgu nad gwneud sŵn mewn cymdeithas fel hyn yw’r ffordd orau o reidrwydd o ddylanwadu ar y byd o’ch amgylch. Yn wir, mae wedi dweud: ‘I don’t like to make strong statements. I want to write strong novels’.

Mae’n ymddangos bod Pamuk yn gwerthfawrogi dangos credoau trwy waith a gweithredoedd – ei nofelau yn ei achos ef – yn hytrach na thrwy wneud datganiadau uchel. Yn wir, mae’n hawdd gwneud datganiadau ac yn aml gallant swnio’n dda, ond mae’n hawdd eu hanghofio yn y sŵn neu eu hanwybyddu gan y rhai nad oes ganddynt ddiddordeb mewn clywed safbwynt arall.
Felly, os yw Pamuk yn cynghori yn erbyn datganiadau, sut ydyn ni i ymgysylltu’n adeiladol ag eraill?

Mae llyfr Iago yn cynnig cyngor ar sut i ymgysylltu ag eraill ym mhennod gyntaf y llyfr lle mae’n dweud:‘Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio’ (Iago 1:19).

Mae Iago yn ein cynghori i wrando’n gyntaf, i gymryd amser i ystyried yr hyn a ddwedwyd yn hytrach nag ymateb ar unwaith, a phan ymatebwn ein bod yn gwneud hynny mewn modd adeiladol sydd ddim yn cynnwys dicter, oni bai bod hynny’n hollol angenrheidiol.

Gellir defnyddio’r cyngor hwn hefyd i’n helpu i feddwl am sut y gallem ddweud wrth eraill am ein ffydd. Yn wir, er mwyn bod yn ddilys pan fyddwn yn ymgysylltu ag eraill mewn ffordd sy’n cyflwyno ein ffydd, mae’n rhaid i ni wrando ar eu safbwynt hwy yn gyntaf.

Heb wrando, ni ddaw fawr o ddealltwriaeth. Heb ddeall, mae’n annhebygol y byddwn yn rhannu empathi â’r rhai rydyn ni’n ymgysylltu â nhw. Heb wrando ar eraill, mae’n anodd cyflwyno ein ffydd mewn unrhyw fath o ffordd ddilys.

Rydym yn aml yn dadlau fel Cristnogion sut y dylem gydbwyso dweud wrth eraill am ein ffydd trwy ein geiriau a dangos ein ffydd trwy ein gweithredoedd, ond efallai fod angen i ni ychwanegu dimensiwn arall at y ddadl hon: gwrando.

Sut gallwn ni gydbwyso dull iach o ddangos ein ffydd trwy weithredoedd, dweud wrth eraill am ein ffydd trwy eiriau a hefyd sicrhau ein bod yn gwneud hynny yn y ffordd orau posibl trwy wrando ar y person rydyn ni’n ymgysylltu ag ef neu hi? Yn y drydedd gydran hon y gall y ddwy gyntaf ddatblygu dilysrwydd y mae eu hangen cymaint ar ein cenhadaeth os yw’n mynd i dorri trwodd yn yr unfed ganrif ar hugain.

Boed mewn perthynas â’n gwleidyddiaeth neu wrth rannu ein ffydd, mae gwir angen i ni ddechrau gwrando eto. Efallai ei bod hi’n hen bryd i ni ailafael yn ein cymorth clyw.