Ar ôl treulio dwy flynedd yn teithio’r moroedd ar long OM Logos Hope, mae Dyfan Graves wedi dychwelyd adref i Gaerdydd. Yn rhifynnau’r Cylchgrawn cawn ychydig o’i hanes ym mhorthladdoedd y byd, dyma’r trydydd a’r olaf.
Aberth Byw
Ambell waith rydych chi’n cwrdd â phobl sydd wir yn cael effaith fawr arnoch chi, pobl sy’n ymgorffori negeseuon pwysig ynglŷn â dilyn galwad Duw, a bod yn aberth byw iddo. Rydyn ni i gyd yn gwybod am enwau pobl fel hyn, megis Jim Elliott neu Corrie Ten Boom. Yn anaml rydw i wedi cwrdd â rhywrai fel hyn, sydd wir yn cyflwyno eu bywydau’n llwyr i ddwylo’r Arglwydd. Ond fe ddigwyddodd hynny i mi yn Curaçao pan y wnes i gyfarfod ag un ferch ifanc. Hoffwn ichi gael eich calonogi gan ei stori hi gymaint ag y ces i.
Digwydda’r stori yn ystod ymweliad y llong yr oeddwn yn gwasanaethu arni, yr MV Logos Hope, â Willemstad, prif ddinas ynys Curaçao sy’n agos i Venezuela. Ar y llong mae gennym gynhyrchiad theatrig o safon broffesiynol o stori C. S. Lewis, The Lion, The Witch and the Wardrobe. Gwyrth oedd llwyddo i gynnal cynhyrchiad theatrig cenhadol ar y llong, a hynny heb hanner yr incwm sydd gan longau pleser masnachol i wneud cynyrchiadau theatrig. Ta beth, stori i’w hadrodd rywbryd eto yw honno. Bues i’n rhan o’r cynhyrchiad, yn chwarae Peter Pevensie, un o’r prif gymeriadau. Bwriad y sioe oedd defnyddio’r gelfyddyd i rannu’r efengyl, gan mai drama ar y cyd â rhannu neges sy’n hynod o bwerus oedd hon; yn enwedig i’r bobl ifanc hynny sy’n fwy cyfarwydd â chyfathrebu negeseuon dwfn trwy gelfyddyd na rhesymeg.
Yn ystod y flwyddyn yr oeddwn i’n rhan o’r cynhyrchiad, gwelodd dros 10,000 o bobl y sioe, gan gynnwys pobl na fyddai wedi ymweld â’r llong fel arall. Ar ddiwedd y sioe, byddem yn mynd allan i gysylltu â phobl. Bob dydd gwelsom Dduw’n defnyddio’r sioe i siarad yn ddwfn â phobl, a hyd yn oed dod â phobl i ffydd! I mi yn bersonol, fe ddefnyddiodd Duw’r sioe i fy ngalw i ddechrau cenhadaeth ddrama yng Nghymru, a dwi’n awyddus i bobl ymuno â mi yn hyn.
Wrth edrych ar y sioe benodol hon yn Curaçao, fe agorodd ddrws i gyfeillgarwch syfrdanol â merch yn ei harddegau a ddaeth i wylio’r sioe. A chithau nawr yn deall y cefndir, am y tro olaf yn y gyfres hon o erthyglau, dewch gyda mi yn ôl mewn amser i 2017 i glywed y stori.
28 Chwefror 2017
Roedd ddydd Sadwrn y 25ain yn ddiwrnod arbennig – cynnal cynhyrchiad Narnia eto, ond y tro hwn ei gynnal dair gwaith. Y tro cyntaf i blant mewn angen (a datblygu perthynas dda â’r mentrau sy’n gofalu am y plant, y bydden ni’n cydweithio â nhw tra byddai’r llong yma). Roedd y ddau dro arall i’r cyhoedd. Gyda theatr llawn dop ar ein perfformiad olaf daeth diwrnod 14 awr i ben! Duw roddodd y nerth i ni barhau. Ac nid dyna’r unig beth ddigwyddodd – dyma oedd y tro olaf i naw o’r cast i berfformio gyda’r sioe, a hefyd yr hen bypedau! Wedi hyn, byddem yn defnyddio pypedau newydd, a nifer o actorion newydd yn ymuno â ni. A minnau, gyda thua naw eto, yn aros gyda’r sioe. Gwych!
Cefais ambell sgwrs dda â phobl ar ddiwedd y sioe – y rhan fwyaf yn Gristnogion – a chyfle i weddïo gyda nhw. Ac wrth weddïo gydag un wraig am ei theulu, dwi’n siŵr y gwelais i ddagrau yn ei llygaid! Cwrddais i hefyd â dwy fenyw neis – Anais sy’n 19 oed o Venezuela, a Shana ei modryb, o Venezuela, a oedd yn byw yn Curaçao. Ces i sgwrs dda â nhw, a’u hannog a gweddïo gyda nhw, ac yna eu gwahodd i’r llong eto ddydd Llun.
A pwy ddaeth ddydd Llun? Dyna nhw, yn cadw at eu gair! Rhoddais i daith dywys hir, a chael pryd bwyd gyda nhw, a Zaya, ffrind Asyriaidd o Sweden. Er nad yw Anais yn gallu siarad fawr ddim Saesneg, mae Shana yn gallu, ac wedi cyfieithu i mi. Pobl ryfeddol! Yn wreiddiol o Curaçao, symudodd tad Shana i Venezuela gyda’i theulu. Yn hwyrach symudodd Shana yn ôl i Curaçao, ac yn 1999 daeth yn Gristion – daw o deulu traddodiadol Gatholig. ’Dyw ei pherthynas hi ddim yn dda a’i theulu am ei bod yn Gristion efengylaidd. Er hynny, daeth Anais yn Gristion efengylaidd yn ddiweddar hefyd!
Mae Anais yn fyfyriwr meddygol, ond heb wybod pryd y bydd hi’n gorffen, oherwydd bod rhyfel yn Venezuela ar y foment, ac oherwydd y streiciau gan yr athrawon oherwydd diffyg cyflog, mae gwerth chwe mis o ddysgu’n cymryd blwyddyn, a chwe blynedd yw hyd swyddogol ei chwrs meddygol. Lle peryglus iawn yw Venezuela ar hyn o bryd, gyda rhyfel cartref yn digwydd yno, ac mae nifer o bobl o Venezuela wedi ffoi i nifer o wledydd yn y Caribï ac i wledydd eraill yn Ne America. Ond galwodd Duw hi i aros yn Venezuela, gorffen ei gwaith yn y brifysgol, a bod yn olau i Grist yn y tywyllwch. Am nerth! A doedd dim ofn yn ei llais wrth ddweud hyn, neu roedd hi’n ei guddio’n dda.
Cefais fy syfrdanu gan ei dewrder – a dwi’n gwybod bod Duw yn ei nerthu hi. Roedd hi’n ystyried dod i’r llong rywbryd – ac felly cyd-ddigwyddiad gan Dduw yw hi fod y llong yn Curaçao ar yr un pryd â’i hymweliad hi yma. A hwn oedd ei thro cyntaf ar un o longau OM.Cyd-ddigwyddiad gwyrthiol arall gan Dduw oedd gwneud yn siŵr, pan glywodd ei bod angen dychwelyd adref i Venezuela yn gynharach nag y bwriadodd, taw nos Fawrth oedd y dydd hwnnw ac nid ddydd Llun, gan sicrhau ei bod yn gallu ymweld eto.
Cawsom amser da yn annog ein gilydd, a soniais i am Gymru a’r angen ysbrydol yno, a dangos lluniau o Gymru, fy nheulu a fy ninas i – Caerdydd. Rhoddodd Anais a Shana anrheg i mi – crys Curaçao hyfryd. Mae hynny’n dangos eu gwerthfawrogiad o’n cymdeithas – clod i Dduw! Ac yna prynais i’r llyfr The Logos Story, am hanes dechrau llongau OM a’r llong gyntaf, Logos, er mwyn iddi gael anogaeth a dysgu Saesneg trwyddo. Clod i Dduw am gysylltiad da – a phan ffarweliais i â hi, teimlais i’n drist. Roedden nhw’n teimlo fel chwiorydd i mi. A dyna ydyn nhw – chwiorydd yng Nghrist.
Ysbrydoliaeth
Ers i mi ysgrifennu’r uchod yn fy nyddiadur, dwi wedi llwyddo i gadw mewn cysylltiad â hi. Bydda i’n gorffen yr erthygl hon gyda dyfyniad ganddi sydd werth ei ddarllen i’ch ysbrydoli, gan ferch ifanc 19 oed sy’n fodlon mynd i mewn i sefyllfa beryglus a chael ei bywyd hi wedi ei droi wyneb i waered, lle gallai gael ei lladd unrhyw bryd, ond sy’n dal i wneud hynny oherwydd ei ffyddlondeb i alwad Duw ar ei bywyd hi, i fod yn olau yn y tywyllwch. O! na chaem ninnau yng Nghymru agwedd debyg. Bydded i hyn fod yn anogaeth i unrhyw un sy’n mynd trwy gyfnod anodd yn ei fywyd ar y foment. Bydded iddo fod yn sialens i bob un ohonom sydd â galwad debyg ar ein bywyd, i fod yn oleuni i Grist yn y tywyllwch.
‘Fodd bynnag, nid wyf yn colli gobaith na ffydd. Pa reswm fyddai gen i i gredu yn Nuw pan fo popeth yn dda? Mae’n hawdd credu pan wyf fi’n ddiogel, ond mae ymddiried mai Ef sy’n rheoli’r llong tra rydym ni yn y storm yn benderfyniad ffydd go fawr. Er nad wyf fi nawr yn deall popeth sy’n digwydd, fe wn i fod ei gynlluniau Ef yn well na’n rhai ni. Fe adawaf fy mywyd yn ei ddwylo Ef.’