Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Blas o fendith

10 Rhagfyr 2019 | gan Eryl Davies

Gwaith yr Ysbryd yng Nghymru 1937 – 1955

Pregethodd Idris Davies, Rhydaman, yn y capeli yn ardal Llanpumsaint, Cynwyl, Llangeler a Chaerfyrddin yn 1937. Roedd ‘awel yr Ysbryd’ o gwmpas y capeli a nifer o bobl wedi dod i’r bywyd yn cynnwys Glyn Owen a oedd yn casglu newyddion ar ran y papur lleol.

Yr Ariannin

Aeth David Morris allan gyda’i wraig i’r Ariannin yn hwyrach yn y tridegau ar ran y Brodyr . Roedd ganddo faich i bregethu’r efengyl yn Gymraeg a Sbaeneg yno a daeth llawer o bobl i’r bywyd trwyddo fe yn y capeli a hefyd yn y carchar . Daeth Mam Isaias Grandis yn Gristion pan oedd Morris yn pregethu’r efengyl yng Nghanolbarth yr Ariannin yn y chwedegau.

Ond beth am ymgyrch y myfyrwyr yn Llanelli 1945? Fe gafodd dros gant o bobl eu hachub mewn wythnos a symudodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus iawn yno.

Cafodd y Parch. I. B. Davies ei ordeinio gan y Presbyteriaid yn 1939 a’i eglwysi cyntaf oedd Hermon, Maes-y-coed a Park, Trefforest, Pontypridd. Trodd nifer o aelodau a gwrandawyr at yr Arglwydd, yn cynnwys ‘Anti Bessie’ . Pan symudodd ‘ I.B. ‘ yn 1945 i Saltmead, Caerdydd, unwaith eto cafodd llawer o bobl y tu mewn a thu allan i’r capel dröedigaeth.

Symudodd I.B. i Gastell-nedd yn 1950 yn weinidog yn y Mission Hall. Bob nos Sul roedd dros fil o bobl yn mynychu’r gwasanaeth ac roedd yn amhosib cyfrif faint o bobl gafodd eu hachub yno a hefyd yn y Ffair lle’r oedd e’n pregethu. Nôl yng Nghaerdydd, pan ddechreuodd Dr Gwyn Walters ar ei weinidogaeth ym Memorial Hall, roedd y capel yn eitha bydol ar y pryd a heb lawer o bwyslais ar yr efengyl. Gadawodd hanner y gynulleidfa, ond cafodd yr hanner arall eu haileni dan weinidogaeth Gwyn! Roedd newid llwyr yn y pregethu a hefyd yn yr eglwys .

Blaenau Ffestioniog : 1950-5

Capel cynta Elwyn Davies oedd Jerusalem, Blaenau Ffestiniog. Roedd yr aelodau eisiau clywed Gair Duw a hefyd yn gweddïo dros y gwaith, gydag un diacon yn gweddïo’n aml gyda dagrau:
‘Ni allaf roddi fel y rhoddaist im; ‘Rwy’n gweld, yng ngolau’r groes, fy ngorau’n ddim’.
Yn arbennig daeth nifer sylweddol o blant a phobl ifainc i’r bywyd yn ystod ei weinidogaeth. Disgrifiodd Elwyn y fendith fel ‘awel o’r nefoedd’:
‘…O’r nef y daeth, tarddle y peth byw erioed….fel un a gafodd y fraint o fod yn bresennol…[gallaf dystio] mai yn anadl pur a dihalog yr un awelon dwyfol y gorwedd gobaith parhad tystiolaeth yr efengyl yn ein gwlad.'(1)

Bala 1952

Roedd ymgyrch yn y Bala dros y Pasg dan arweiniad y Parch I.D.E. Thomas gydag Elwyn Davies ac Arthur Pritchard yn helpu. Erbyn y drydedd noson, fe dorrodd bendith allan a daeth nifer o bobl leol at yr Arglwydd. Roedd rhaid trefnu wythnos ychwanegol o gyfarfodydd. Dywedodd rhai hen bobl oedd yn cofio Diwygiad ’04 bod ymgyrch 1952 yn debyg i amser ’04!

Treffynnon 1954

Pregethodd Billy Graham yn Harringay, Llundain bob nos, heblaw ar y Sul, am dri mis gan ddechrau ar y cyntaf o Fawrth 1954. Rhedodd trên arbennig un Sadwrn o Gaergybi i Lundain ar gyfer y cannoedd yn y Gogledd a oedd eisiau clywed yr Americanwr. Roedd tua chant o bob oedran yn disgwyl y trên, er enghraifft, yn Nhreffynnon yn unig, a thuag ugain o aelodau Eglwys Bresbyteraidd Saesneg Treffynnon wedi gwneud proffes a hefyd rhai gwrandawyr. Newidiodd yr eglwys dros nos !
Symudodd Glyn Owen i Wrecsam yn weinidog yn 1954.Erbyn mis Hydref, pregethodd yn rymus iawn bob nos am wythnos mewn ymgyrch yng nghapel Presbyteraidd Saesneg Treffynnon ac roedd dros chwe deg o bobl wedi derbyn y Gwaredwr neu wedi ailgysegru eu hunain i’r Arglwydd erbyn diwedd yr wythnos. Roedd rhaid symud y cwrdd olaf i gapel arall er mwyn cael lle i bawb. Fe ddwedwyd fod ‘presenoldeb Duw yn rhyfeddol ar y noson olaf a theimlodd Glyn Owen fod yna syched gan y bobl leol am Dduw. Cafodd y capel Presbyteraidd Saesneg ei newid yn llwyr ar ôl yr wythnos honno.

Bendith Duw

Fel y gwelson ni, roedd bendith Duw yn amlwg mewn rhai capeli ym mhedwar-, pump-, chwech- a saith degau a dim ond rhai enghreifftiau a nodaisi yma. Gallwn gyfeirio at fwy o gapeli a phregethwyr, ond rhoi blas yn unig rwy’n ei wneud yn yr erthygl hon, am yr hyn a wnaeth Duw yn y gorffennol . Duw oedd yn gyfrifol am y fendith ac yng nghyd-destun gweddi a phregethu’r efengyl yn ffyddlon.
Yr hyn a wnaeth Duw yn y gorffennol, mae E’n medru ei wneud unwaith eto heddiw. Mae angen dibynnu’n llwyr arno Fe a pharhau mewn gweddi.

(1) John Emyr (gol.), Porth yr Aur : Cofio J..Elwyn Davies (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2011), 124-5.