Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Beth oedd mor arbennig am Henry Rees?

10 Rhagfyr 2019 | gan Gwyn Davies

‘Yn Henry Rees y cyrhaeddodd y pulpud y perffeithrwydd uchaf a gyrhaeddwyd erioed yn ein gwlad, ac nid ydym ni yn gwybod am neb, mewn unrhyw wlad nac oes, ag y byddem yn barod i gydnabod ei bregethau… yn rhagori ar yr eiddo ef.’
Owen Thomas, prif hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, biau’r geiriau. Ac nid ef oedd yr unig un i feddwl felly. Ceir geiriau tebyg gan William Rees (‘Gwilym Hiraethog’, sef brawd Henry Rees); a dangosodd Geraint Gruffydd mai Henry Rees oedd y delfryd o’r hyn y dylai pregethwr fod, ym marn Daniel Owen.
Pwy oedd yr Henry Rees yma? Nid oes fawr ddim i’w ddweud am ei fywyd fel y cyfryw. Fe’i ganwyd yn 1798 ym mhlwyf Llansannan yng Nghonwy (yr hen sir Ddinbych), ond yn Lerpwl y treuliodd ef a Gwilym Hiraethog y rhan fwyaf o’u bywyd gweinidogaethol. Ar ôl marw John Elias yn 1841, Henry Rees a ystyrid yn arweinydd y Fethodistiaid yng ngogledd Cymru hyd at ei farwolaeth yn 1869 – union 150 o flynyddoedd yn ôl. Yn wir, yn 1864 ef oedd llywydd cyntaf y Gymanfa Gyffredinol a unai Methodistiaid y Gogledd a’r De. Erbyn hynny nid oedd neb yn uwch ei barch na’i ddylanwad ymhlith Methodistiaid Cymru gyfan.
Ond i’w gyfoedion, ei bregethu oedd y peth mwyaf hynod amdano. Pam, tybed?

Ei ddaliadau

Rhaid inni ddechrau gyda’i ddaliadau diwinyddol. Wele grynodeb Griffith Parry:
Ar gynllun yr hen athrawiaethau stern a grand, cedyrn a gogoneddus hyn, athrawiaethau Paul a’r Apostolion; Awstin, Anselm a Calvin; . . . Dr [John] Owen, Jonathan Edwards, a [Thomas] Chalmers; Piwritaniaid Lloegr, Cyfamodwyr Scotland, a Thadau Methodistiaeth Cymru – ar yr hen linellau mawrion hyn y lluniwyd Mr Rees fel Cristion ac fel pregethwr.
Dyna linach ysbrydol anrhydeddus iawn! A dyma’r daliadau sydd ar hyd y blynyddoedd wedi eu hanrhydeddu gan yr Ysbryd Glân. Ond o blith yr enwau uchod mae un yn sefyll allan. A dyfynnu Henry Rees ei hun:
Bu cyfarfod â’r Dr [John] Owen …yn foddion i ffurfio cyfnod newydd yn fy mywyd, fel cristion ac fel pregethwr …. Bob amser y darllenaf ef caf feddyliau uwch am Grist, fy nghyffroi i ymdrech adnewyddol yn erbyn pechod, a’m cyfarwyddo hefyd pa fodd i ymdrechu yn gyfreithlon a llwyddiannus.

Llawfeddyg y galon

Bu dylanwad John Owen yn eithriadol o drwm ar ei bregethau, yn enwedig o ran y modd y cymhwysai ddysgeidiaeth y Beibl yn fanwl a thrwyadl i galonnau ei wrandawyr. Wele Griffith Parry yn disgrifio Henry Rees fel llawfeddyg ysbrydol wrth ei waith:
Ni welsom neb erioed yn gallu gwneud y fath havoc ar y galon ddynol! …âi mewn yn hyf i’w hystafelloedd dirgelaf, cyhoedda ei chyfrinachau mwyaf cudd, olrheinia hi yn ei llwybrau mwyaf troellog a’i hystrywiau mwyaf twyllodrus, nes dinoethi’r dyn oddi mewn, ei ddatguddio iddo ei hunan, a pheri iddo gywilyddio yn yr olwg arno ei hunan! …bydd ei eiriau yn chwalu gau noddfeydd y pechadur anedifeiriol, yn difa ei wag esgusodion, yn dinoethi dirgeloedd ei galon ….nes y bydd, wedi ei lwyr ymlid o bob lloches, yn cael ei ‘gyd-gau’ i ffydd yr Efengyl.
Nid annheg fyddai dweud nad oes gormod o bregethu o’r math hwnnw y dyddiau hyn. Ac nid peth annisgwyl felly yw lefel isel o ysbrydolrwydd, ar ffurf agwedd lac ac ysgafn at bethau Duw. Yn wir, mae rhagor o gwestiynau pwysig yn codi yma: mae lle i ofni fod pwyslais ar elfennau mor allweddol ag argyhoeddiad personol o bechod ac edifeirwch yn amlwg absennol o rai o’r dulliau efengylu sy’n boblogaidd yn ein plith. Mae’n bosibl iawn na fyddai Henry Rees – heb sôn am John Owen! – yn barod i gydnabod llawer o’r hyn sy’n mynd dan enw Cristnogaeth heddiw.
Dyfnder a manylder ei adnabyddiaeth o’i galon ei hun– ac felly o galon ei wrandawyr–oedd nodwedd amlycaf ei bregethu, ond roedd pethau eraill hefyd yn hynod amdano:

Paratoi trwyadl

Yn gyntaf, byddai’n paratoi ei bregethau’n fanwl ymlaen llaw. Henry Rees oedd y cyntaf ymhlith y Methodistiaid, onid ymhlith Anghydffurfwyr Cymru yn gyffredinol, i ysgrifennu ei bregethau’n fanwl, ac wedyn i gadw at yr hyn a ysgrifennwyd–nid trwy eu darllen ond trwy eu gosod yn gyfan ar ei gof. Nid sgerbwd amrwd o bregeth oedd ganddo; yn hytrach, rhoddai sylw nid yn unig i’w chynnwys ond hefyd i’r geiriau mwyaf addas i gyfleu’r cynnwys hwnnw. (Canlyniad hyn yw’r ffaith fod ei bregethau’n dipyn mwy buddiol o ran eu darllen heddiw na phregethau eraill sy’n cael eu hystyried yn‘fawrion’ y pulpud. Yn y traddodi caed eu hynodrwydd hwy, a theimlir tipyn o siom o’u darllen mewn du a gwyn. Nid felly pregethau Henry Rees.)

Gweddi

Yn ail, byddai’n ymroi i weddi gyda’r bwriad o gael bendith Duw ar y bregeth. Ni ellir gwell na dyfynnu John Elias yn y cyswllt hwn:
Wel, nid ydyw o ryfeddod yn y byd fod Mr Henry Rees yma yn pregethu mor hynod ag y mae. Y mae o yn tynnu ei nerth oddi wrth yr Hollalluog. Yr oeddwn i heddiw, heb iddo ef feddwl dim, yn ei glywed rhwng pedwar a phump yn y bore, mewn ymbiliau dwysion gyda’i Dad nefol, am gael ei ysbryd i hwyl briodol at waith y dydd, ac am ei wyneb gydag ef ynddo.
Er pob paratoi, a phob ymgais i wneud y bregeth yn berthnasol i gyflwr calon y rhai a fyddai’n gwrando arno, gwyddai’n iawn mai dim ond gwaith yr Ysbryd Glân a fyddai’n newid pobl mewn gwirionedd. Mae geiriau ei frawd, Gwilym Hiraethog, yn arwyddocaol iawn: ‘Nid yw yn rhyfedd fod Henry yn well pregethwr na ni; mae efe yn fwy gweddïwr na neb y gwn i amdano.’

Duwioldeb

Yn drydydd, roedd ei bregethu’n mynd law yn llaw â’i fywyd. Yng ngeiriau hen frawd a fyddai’n cyd-deithio ag ef i bregethu, ‘nid ydyw yn ddim byd fel pregethwr, wrth ydyw fel Cristion.’ Cadarnheir hyn gan Owen Thomas: Henry Rees oedd ‘y dyn sancteiddiaf y daethom ni erioed i gyffyrddiad ag ef, a’r pregethwr perffeithiaf a glywsom erioed.’ Onid oes cysylltiad annatod rhwng y ddau beth yma? A yw’n bosibl cael pregethu dan eneiniad yr Ysbryd heb fywyd sy’n llawn o’r Ysbryd hwn?

Rhoi cyfrif

Yn olaf, roedd yn ymwybodol iawn ei fod yn atebol i Dduw am ei waith yn y pulpud. ‘Yr hwn sydd yn fy marnu i yw yr Arglwydd, ’meddai, a’r ‘hyn sydd bwysig i mi yw bod yn gymeradwy ganddo ef. ’Ei fwriad felly oedd nid difyrru nac arddangos ei ddoniau, ond llefaru dros Dduw wrth bobl ei oes. Gwyddai y byddai’n rhaid iddo roi cyfrif i’r Duw hwn am y modd y defnyddiai ei ddoniau. Oherwydd hynny roedd rhyw ddifrifoldeb a dwyster anghyffredin yn ei weinidogaeth, a’r nodweddion hyn yn eu tro yn cael eu cyfleu i’w wrandawyr.
Mae’n bosibl fod rhai o bregethau Henry Rees yn rhy hir. Mae’n bosibl fod ambell un yn rhy drwm i rai o’i wrandawyr. Mae’n bosibl hefyd iddo lacio rhywfaint ar gadernid ei ddaliadau diwinyddol gyda’r blynyddoedd, er nad i’r un graddau â’r rhan fwyaf o’i gyfoedion. Ond yr hyn sy’n sicr yw fod ei bregethau, chwedl un hen frawd, ‘yn annioddefol i gnawd’. Dyna oedd yn arbennig am ei bregethu. A chant a hanner o flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth, mewn awyrgylch crefyddol sy’n aml yn rhoi ei fryd ar apelio at deimladau arwynebol, onid oes taer angen y math hwn o bregethu arnom unwaith eto?

Nodyn: Ddiwedd yr haf cyhoeddwyd llyfr ar Henry Rees gan Goronwy Prys Owen. Y teitl yw Henry Rees: Tywysog ein Pregethwyr. Dyma’r gwaith pwysicaf ar Henry Rees ers cyhoeddi clasur Owen Thomas (dwy gyfrol, 1890). Cymdeithas Dydd yr Arglwydd/Modern Welsh Publications sy’n cyhoeddi’r llyfr, ac £8 yw’r pris.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf