Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

A Oes Heddwch?

11 Rhagfyr 2019 | gan Annie Williams

Dyna fonllef tyrfa’r Eisteddfod yn diasbedain trwy y pafiliwn yn ateb – unwaith, dwy waith, teirgwaith – HEDDWCH. Ond er cadarned yr ateb ni roddwn fawr o sail iddo, oherwydd wedi’r cyfan, tyrfa sy’n ateb.
Y mae ‘llef ddistaw fain’ yr efengyl yn gofyn yr un cwestiwn, nid mor groch ond yr un mor groyw. Ni ddistawa ar ôl teirgwaith. Fe’i gofynnodd ar hyd y canrifoedd ac mae’n ei ofyn heddiw – ydyw yn ei ofyn i ti yn bersonol.

A oes heddwch rhyngot a’th Dduw?

Y mae Duw yn Dduw cyfiawn. A wyt yn barod i ddod wyneb yn wyneb ag Ef? A wyt yn gyfiawn ohonot dy hun? A wyt yn deilwng i ddod gerbron dy Greawdwr?

Na. Ni all Duw perffaith edrych ar bechod. Chwilia dy galon, edrych a oes ynddo ddim drwg. Etyb Gair Duw yn dy le, ‘Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw’ (Rhuf. 3:23).

Yr ydym i gyd yn euog o dorri’r gorchymyn cyntaf a’r mwyaf – ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl’. Hawdd gennym yw rhoi’r ail le Iddo, ie, weithiau fynd mor bell â’i anwybyddu a’i anghofio yn llwyr yn ein gwaith a’n pleserau. Rhaid, felly, fod anghydfod rhyngot a’th Dduw ac oherwydd hynny-
‘Y mae angen am faddeuant
Ar y da a’r gwael ynghyd.’

A oes obaith am faddeuant? A oes obaith am heddwch?

Diolch Iddo, y mae gennym Waredwr. Yn Ei gariad anfeidrol anfonodd Ei uniganedig Fab i wneud cymod rhyngom ag Ef ei Hun.
‘Cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno Ef.’ Concrodd Crist bechod ar y groes a thrwy ffydd yn Ei fuddugoliaeth Ef, cawn ninnau faddeuant a heddwch tuag at Dduw’ (Rhuf. 5:1).

A oes heddwch rhyngot a’th gyd-ddyn?

‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Dorraist ti’r gorchymyn hwn rhyw dro? Oni fuasai’r byd yn lle ardderchog i fyw ynddo pe gallem ei gadw. Sylwn ar gymdeithas o’n cwmpas a chawn friw i’n calon. Gwelwn, darllenwn a chlywn o ddydd i ddydd am rywun neu’i gilydd yn methu cytuno â’i gyd-ddyn; methu maddau; methu caru; methu cyd-fyw’n heddychlon. Beth sydd o’i le? Ai tybed nad ydym eto wedi adnabod Duw a’i hedd? Heb hyn ni ellir byth obeithio am gadw’r gorchymyn, ond ardderchog yw gwybod fod Crist ein Gwaredwr, yr Hwn a’n cymododd â Duw, yn ein clymu â’n gilydd hefyd, yn rhwymyn ei gariad angerddol. Ynddo ef a thrwyddo ef yn unig y gallwn wir garu cymydog. Dyna unig obaith caru gelyn.
A oes Heddwch rhyngot a thi dy hun? ac yn dy fywyd dy hun?

Wedi dod i gymod â Duw trwy werthfawr waed Crist, ac wedi dod i garu dy gyd-ddyn pwy bynnag a fo trwy rwymau ei gariad Ef, yna daw tangnefedd Duw i lifo fel afon drwy dy fywyd. Ffrwyth ymgysegriad llwyr i’r Iesu yw’r heddwch a’r llawenydd amlwg a welir ym mywyd ei blant ef heddiw.

Anhepgor heddwch perffaith yw sicrwydd. Y mae gan y Cristion sicrwydd pendant seiliedig ar Air Duw. Dyna sylfaen ei ffydd ac fe saif ei Air ef dros byth.

Pwy na chanai gyda’r emynydd
‘Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano,
Y nefol hedd a ddaeth trwy ddwyfol loes.’

A oes Heddwch?

Y mae Iesu Grist yn haeddu cael ei goroni yn ben yn dy fywyd. Haedda ei gadeirio ar orseddfainc dy galon. Gogoniant i’w Enw, Dywysog Tangnefedd.

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Y Cylchgrawn Efengylaidd, Gorffennaf-Awst 1949 (rhifyn Eisteddfod Dolgellau).