Eisteddfod Dolgellau 1949
(Adroddiad o’r Cylchgrawn Efengylaidd Medi/Hydref 1949)
Treuliodd nifer o ddarllenwyr ifainc Y Cylchgrawn wythnos hapus a bendithiol iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Am y tro cyntaf erioed ymddangosodd pabell Y Cylchgrawn Efengylaidd ymhlith y llu pebyll bychain a wersylla’n swil bob blwyddyn ar Faes yr Eisteddfod.
Cafwyd cwmnïaeth ardderchog – ar faes yr Eisteddfod, wrth werthu’r Cylchgrawn, ac yn Nhŷ’n-y-coed lle y bu’r Cymry ifainc yn aros dros yr wythnos. Dechreuwyd bob bore gydag awr o weddi ac efrydiaeth o’r Gair. Yn ystod yr wythnos cafwyd nifer o seiadau byw ac adeiladol, ac nid oedd ball ar y Seiadu profiad a ddigwyddai wrth y prydau bwyd, wrth olchi’r llestri ac ymhobman yn wir.
Teimlent reidrwydd anorfod i ddweud yn dda wrth eraill o’u cyd-genedl am yr Hwn a fu farw drostynt ac a roes iddynt fywyd newydd llawn llawenydd a gobaith.
Yn hwyr nos Iau, yn sain y delyn a chanu hen emynau Cymraeg siaradodd nifer ohonynt wrth gynulleidfa luosog yn yr awyr agored. Yna symudodd y dorf a hwythau i gapel Bethel gerllaw lle y cynhaliwyd Noson Lawen.
Nos Wener am chwarter i saith rhoes Mr J. O. Williams air o werthfawrogiad o’r cyfarfod ym Methel, ar y Radio. Cawsom ganiatâd caredig y B.B.C. i’w gynnwys yn y rhifyn hwn.
Wedi’r cyngerdd ac wedi’r dramâu, Noson Lawen. Dyma’r dull diddan a hapus o derfynu’r naill ddiwrnod ar ôl y llall yn yr Eisteddfod. Ac nid oes ball ar asbri’r bobl ifainc yn y nosweithiau hyn o ganu ac adrodd ac actio, a phob digrifwch a wna’r noson yn ddifyr a llawen ac yn deilwng o’r Eisteddfod.
A’r hen fywyd gwir Gymreig ar ei orau a gafwyd yn Nolgellau eleni, nes peri i bob Cymro twymgalon ymfalchïo yn ei Gymreictod. Ond fe gafwyd rhywbeth arall hefyd, a barodd i lawer ohonom agor llygaid a meddwl yn ystyriol ar bethau yn gyffredinol ac ar Gymru yn arbennig.
Neithiwr cafwyd Noson Lawen mewn capel. Dyna sioc i lawer mae’n debyg. Cyn hanner awr wedi deg y nos, yr oedd llawr y capel hwn yn Nolgellau yn llawn o bobl ifainc, a’r galeri hefyd yn rhwydd iawn. Yn y sêt fawr yr oedd nifer eto o bobl ifainc yn fechgyn a genethod. Ac yn y sêt fawr, hefyd, yr oedd telyn. Dyna sioc eto i amryw – telyn yn y sêt fawr.
Yn wir, beth a ddaeth dros y saint yn Nolgellau? Ai tybed fod miri’r Eisteddfod wedi pylu eu sancteiddrwydd o ganiatáu noson lawen mewn capel? Ond arhoswch funud!
Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu emyn! Does dim yn od am ganu emyn i Gymry mewn unrhyw gyfarfod. Yna archiad tawel, llawn argyhoeddiad gan ferch ifanc; yna nifer o bobl ifainc yn canu penillion – gyda’r delyn. Adroddiad eto gan ferch ifanc a chân drachefn gan ŵr ifanc i gyfeiliant y delyn.
Yna ychydig eiriau gan yr arweinydd, gŵr ifanc o weinidog adnabyddus. Gwnaeth apêl onest a diffuant at y gynulleidfa.
‘Dyma ein noson lawen ni,’ meddai, gan mai yn y capel hwn neithiwr yr oedd ef a’i gymdeithion yn trin a thrafod y llawenydd mwyaf y gwyddent hwy amdano.
Ac yna cyflwynodd y cyfarfod i’r Dr Martyn Lloyd-Jones. Darllenodd yntau nifer o adnodau, a siaradodd, neu’n hytrach pregethodd yn rymus arnynt. Pwysleisiodd y ffaith ei fod yn sicr fod rhyw gynhyrfiad cyfrin ar droed yn rhai o’n Colegau yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
A oes angen dweud ychwaneg am y Noson Lawen neilltuol a nodedig hon? Beth oedd yn bod?
Yn wir ni allwn lai na sylwi a theimlo bod rhywbeth yn symud yn ddistaw drwy fywyd ieuenctid Cymru y dyddiau hyn. Daeth y rhywbeth hwnnw i faes ac i fywyd yr Eisteddfod. Symbylwyd y bobl ifainc hyn i ddechrau gan eu Cymreictod yn ogystal â’u crefydd, ac nid gan unrhyw fudiad y tu allan i Gymru. Y maent yn caru Cymru yn angerddol ac yn dyheu am weled Cymru o ganol amheuon a materoliaeth y byd heddiw yn profi o’r un llawenydd a’r un hyder ag sydd yn eu meddiant hwy.
Daethant, neu efallai fe’u harweiniwyd, i mewn i gwrdd i graidd bywyd Cymru ar ei orau, fel tystion o rywbeth cyfrin a diffuant a brofasant hwy fel ieuenctid.
Aeth noson a seiat a defosiwn yng nghyffiniau yr hanner nos ac ynghanol miri iach yr Eisteddfod yn Noson Lawen iddynt hwy.
Amheued a amheuo. wfftied a wfftio. ond eto cofied ac ystyried pob un na buasai gennym, rwy’n ofni, iaith i ymfalchïo ynddi nac Eisteddfod fel Eisteddfod Dolgellau i’w mwynhau hyd yr ymylon oni bai am rywbeth cyfrin a grymus a ddigwyddodd i rai gwŷr ifainc yng Nghymru oddeutu dwy ganrif yn ôl.