Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

YMLAEN I AFFRICA DYFAN AR Y LOGOS HOPE

23 Mai 2019 | gan Dyfan Graves

Ar ôl treulio dwy flynedd yn teithio’r moroedd ar long OM Logos Hope, mae Dyfan Graves wedi dychwelyd adref i Gaerdydd. Yn rhifynnau’r Cylchgrawn cawn ychydig o’i hanes ym mhorthladdoedd y byd, dyma’r ail.

Ffynnu ar y llong

Rydyn ni newydd fod trwy Asia, ac yn hwylio ymlaen tuag at Affrica, a phennod newydd o fy mywyd ar y llong. Nid newyddian ydw i mwyach, ac erbyn cyrraedd Tanzania dyma’r criw hynaf, criw PST (Pre-Ship Training) Bangkok yn gadael a chriw newydd yn ymuno, PST Dar-Es-Salaam. Dwi wedi bod trwy lawer a dysgu llawer am fy hun yn barod, ac am Dduw. Dwi wedi dysgu am fy ngwendidau megis pryder, fy angen am sicrwydd a deall pethau’n glir – pethau amhosibl ar adegau. Dwi wedi dysgu pwysigrwydd gwneud y peth iawn hyd yn oed, yn enwedig pan fydd emosiynau’n cymylu fy noethineb. Dwi wedi dysgu cymaint y mae Duw yn eich ddefnyddio’n olau i eraill pan fyddwch yn ansicr, yn anesmwyth, yn wan. Dwi wedi dysgu ystyr ymddiried pan nad yw pethau’n gwneud synnwyr. Dwi wedi dysgu sylwi ar y pethau bychain. Y pethau bychain mewn bywyd cyffredin, diflas, pob dydd, sydd, a dweud y gwir, yn rhyfeddol, yn wych, ac yn clodfori Duw! Byd natur, y tywydd, y sêr, y pethau hyfryd mewn bywyd roedden ni’n arfer eu gweld o’n cwmpas fel plant yn ein rhyfeddod, ond wrth droi’n oedolion rydy’n ni wedi colli golwg arnyn nhw a’n dallu ein hunan gyda’n bywydau prysur. A chlod i Dduw am ailddarganfod hyn!

Ysgrifennaf yma stori o fy nyddiadur, hanesyn a ddefnyddiodd Duw i fy nysgu am siom y mae pawb yn ei phrofi, ond heb wybod bob tro sut i ymdrin â hi i’w hatal rhag troi’n chwerwder. Gobeithio y bydd hwn o gymaint hwb i chi sy’n ymladd gyda siom ar y foment hon ag oedd i mi bryd hynny.

Roeddwn i yn Capetown, De Affrica ar y pryd, a newydd gael fy ngwahodd i fynd allan gydag eglwys leol ar genhadaeth y noson honno ar ôl gorffen fy ngwaith yn brwydro yn erbyn rhwd.

7 Gorffennaf, 2016 – Capetown, De Affrica

Dydd Iau roeddwn i’n bwriadu mynd i efengylu ar y stryd gydag eglwys leol gyda Dillon, un o’r gwirfoddolwyr lleol o’r llong, a rhai o griw’r llong, gan gynnwys fy ffrind, Tom. Aethon nhw allan gan rannu bwyd a gweddïo gyda phobl ddigartref. Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr i fynd gyda nhw. Newydd orffen gwaith oeddwn i, a dywedais wrth y grŵp “ fe af i yn yr ail gar am 5:30. Bydda i bum munud!”. Wrth gwrs, pum munud Prydeinig oedd hyn – dywediad am “bydda i’n dod yn fuan”. Ar ôl cael cawod, newid, ac ymlacio am ryw bum neu ddeng munud wedi diwrnod caled o waith, des i at gât y cei a sylwi ei bod yn 5:32, ac roedden nhw wedi gadael! Teimlais i’n drist, siomedig a chrac am nad arhoson nhw i mi ddod, na ffonio fy nghaban i ofyn imi frysio. Dylwn i, ar y llaw arall, fod wedi bod yn fwy penodol, cadw at fy ngair, a dod ar amser! Arhoson nhw amdanaf o 5:00 hyd 5:30, ac yna gadael.

Ta beth, tra roeddwn i’n dal yn grac (dwi eisoes wedi maddau iddyn nhw, ac edifarhau!), dywedodd ffrind, Zaya, wrthyf efallai fod gan Dduw bwrpas yn hyn. Felly, ar ôl cael te gyda fy nheulu llong, cafodd fy enw ei alw ar uchelseinyddion y llong. Roedd gen i ymwelydd ar y gangway. Pan es i yno, gwelais ei fod yn ffrind y cwrddais i ag e ar C-day (diwrnod cenhadu) i’r mudiad Frontline Fellowship y diwrnod cynt. Grŵp hynod o ddiwygiedig ydyn nhw, ond yn hynod o angerddol dros waith yr Arglwydd, ac yn llawn cariad dros y rhai sydd ar goll heb Iesu. Maen nhw’n cenhadu yn y llefydd lle mae’n anoddaf bod yn Gristion. Da iawn nhw!
Rhoddais i daith o gwmpas y llong iddo ef a phump arall o’r un mudiad, (yn cynnwys pedwar person ifanc), a’u calonogi trwy sôn am waith Duw ar y llong, am fywyd y llong, a’r gwyrthiau sy’n digwydd yma. Cawsom amser da iawn yn annog ein gilydd fel brodyr a chwiorydd yng Nghrist. Ac fe faswn i wedi colli allan ar hynny yn llwyr petawn i wedi mynd allan yn hytrach nag aros ar y llong.

Rydyn ni byth a beunydd yn ceisio cipio’r llyw o law Duw a datrys pethau ar ein pen ein hunain, a phob tro mae Duw’n dyner yn dangos i ni y peth pwysig yw ymddiried ynddo ef, ac ymwneud â phob sefyllfa rydyn ni ynddi er gogoniant i Dduw yn unig. Daw’r stori nesaf ychydig fisoedd cyn Capetown, o Maputo, Mozambique, a fersiwn byr y stori yw hwn!

24 Chwefror – Maputo, Mozambique

Am ychydig wythnosau cyn cyrraedd Maputo roedd cael fisa yn gur pen i ni. Yr arfer i griw llongau masnach yw nad ydych chi’n cael mynd ymhellach nag ardal ychydig filltiroedd sgwâr o gwmpas canol y ddinas. Dyna oedd y cyfyngiadau a roddodd llywodraeth Mozambique arnom ni. Y broblem? Dydyn ni ddim yn llong gyffredin. Nid llong fasnach ond llong Duw, nid ydyn ni’n cludo nwyddau ond newyddion da o obaith a maddeuant yn Iesu Grist! Dyma’r tîm cydlynu, a gafodd ei anfon i’r porthladd dri mis ymlaen llaw i drefnu ymweliad y llong, yn ceisio ac yn methu newid penderfyniad y llywodraeth. Byddai’r cyfyngiadau’n golygu diddymu dros 40 o dimau cenhadu sy’n cael eu hanfon allan a gwneud prosiectau cymorth o gwmpas ardal ehangach Maputo, ac yn y ddinas gyferbyn. Byddai hynny yn cyfyngu’n ddifrifol ar yr effaith y gallem fod wedi ei chael ar Maputo.

Dyma ni’n agosáu, a’r tîm cydlynu yn mynd ati fel lladd nadroedd yn ceisio ac yn gweddïo am newid meddwl yr awdurdodau calongaled am y cyfyngiadau teithio ar griw y llong. Byddai unrhyw un sy’n deall rhywbeth am adrannau mewnfudo llywodraethau Affricanaidd yn ategu pa mor amhosib yw newid meddwl ar fater o’r fath, a pha mor anhyblyg y gall rhai o’r swyddogion fod. Byddai angen rhywun uchel yn llywodraeth Mozambique i brofi newid calon a gwneud eithriad i’r gyfraith er mwyn disgwyl gwyrdroi’r penderfyniad. Anfonodd y tîm un apêl olaf at yr awdurdodau ac aros am ateb a fu’n hir iawn yn dod. Dyma ni’n cyrraedd Maputo, ac yn y cyfarfod ymgyfarwyddo â’r porthladd, dyma Niina o’r Ffindir yn camu ymlaen. Hi oedd â’r cyfrifoldeb dros y mater. Dyma hi’n sôn am yr hen newyddion y gwyddem yn barod amdano, ac am y cyfyngiadau.

Siom.

Ond yna aeth hi yn ei blaen – daeth ateb oddi wrth yr awdurdodau y bore hwnnw pan hwyliodd y llong i mewn i’r harbwr! Rhoddwyd caniatâd, nid yn unig i ni fynd o gwmpas Maputo gyfan, na hyd yn oed o gwmpas dinas Matola gyferbyn â hi. Rhoddodd y llywodraeth ganiatâd i ni fynd o gwmpas HOLL wlad Mozambique!
Dyna i chi wyrth, oherwydd nid yw’r fath yna o newid meddwl llwyr a gwyro oddi wrth arferion morol cyfreithiol yn digwydd fel arfer, yn enwedig o ystyried gofyn iddynt roi teithebau i 400 o griw o 67 o wledydd – a’r rhai o’r gwledydd hynny heb fod yn gyfeillgar gyda Mozambique. Ond ni all unrhyw beth, nac awdurdodau, na chyfreithiau morol, ddod ar ffordd ewyllys Duw i estyn allan at gynifer o bobl ag y bo modd ym Mozambique trwom ni!
Fel y mae’n ysgrifenedig, “Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grëwyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.” Rhuf. 8:38-9. A dyna beth a brofwyd gennym ni yn gwbl glir y diwrnod hwnnw !

Ymunwch â mi’r tro nesaf, a’r tro olaf, wrth i ni hwylio ymlaen i’r Caribî!