Anerchiad yn y Gwasanaeth o Ddiolchgarwch ar ddiwrnod ei angladd, 15 Hydref 2018
Fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod, fe gafodd Gwynn ei annog yn ystod ei salwch i lunio hunangofiant. Y dull o fynd ati oedd iddo sgwrsio am wahanol gyfnodau yn ei fywyd, a’r sgyrsiau hynny’n cael eu recordio, ac wedyn eu trawsysgrifio a’u golygu gan gyfeillion, cyn eu hanfon yn ôl at Gwynn iddo weithio arnynt ymhellach. Fe weithiodd Gwynn yn eithaf terfynol ar y penodau hyd at ddiwedd ei gyfnod yn weinidog yn Sandfields, Aberafan, a dechrau ei weinidogaeth yng Nghaerdydd, ond yna am amryw resymau ni lwyddodd i fynd ymlaen â’r gwaith.
Mae’r hunangofiant yn dechrau trwy bwysleisio’r ‘rhagluniaeth ddistaw’ ar fu ar waith yn ei fywyd o’r crud. Adleisio geiriau Williams Pantycelyn y mae Gwynn, wrth gwrs:
Rhaid oedd bod rhagluniaeth ddistaw,
Rhaid oedd bod rhyw arfaeth gref,
Yn fy rhwymo, heb im wybod,
Wrth golofnau pur y nef:
a’r thema fawr sy’n rhedeg trwy’r penodau hyd at ddiwedd ei gyfnod yn Sandfields yw’r ffordd yr oedd y ‘rhagluniaeth ddistaw’ honno’n ei baratoi a’i gymhwyso mewn gwahanol ffyrdd, a’r rheini’n bur annisgwyl ar adegau, ar gyfer yr hyn y gallwn ei ddisgrifio fel ‘gweinidogaeth ei aeddfedrwydd’ yng Nghaerdydd ac mewn cylch ehangach o 1983 ymlaen, a Gwynn erbyn hynny ar drothwy ei ddeugain mlwydd oed. Ac er bod rhagluniaeth ar waith o hyd, wrth gwrs, yn ystod blynyddoedd ei weinidogaeth hir o ryw ddeng mlynedd ar hugain yn yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg yng Nghaerdydd, yr hyn a oedd wedi ei gyffroi a’i gyfareddu’n fwy na dim, efallai, wrth iddo edrych yn ôl dros ysgwydd y blynyddoedd, oedd ‘rhagluniaeth ddistaw’ Duw yn ei baratoi ar gyfer ‘gweinidogaeth ei aeddfedrwydd’: mae’n arwyddocaol, er enghraifft, ei fod yn disgrifio ei fagwraeth yn eglwys Bethany, Rhydaman, fel ei ‘goleg cyntaf’ a’i weinidogaeth yn Sandfields fel ‘finishing school’.
Nid wyf yn bwriadu manylu ar droeon gyrfa Gwynn yma, ond carwn nodi’n fyr rai enghreifftiau o’r ‘rhagluniaeth ddistaw’ honno, ac yna grybwyll tri pheth sy’n mynnu dod i flaen y darlun wrth imi gofio amdano.
Ar un wedd, nid yw’n syndod fod Gwynn wedi mynd yn bregethwr, oherwydd fe gafodd ei amgylchynu o’r crud gan bregethwyr a sôn am bregethwyr. Un o Lerpwl oedd mam Gwynn, a gwreiddiau ei theulu yn sir Fôn, ac fe berthynai i rai o’r pregethwyr mwyaf grymus yn hanes y Methodistiaid Calfinaidd, gan gynnwys Dr Owen Thomas, Lerpwl (taid Saunders Lewis). Roedd tad Gwynn, wedyn, o Ben-uwch yn sir Aberteifi, ac wedi ei eni a’i fagu o fewn tafliad carreg i Langeitho, cartref un o bregethwyr mwyaf y ddeunawfed ganrif, sef Daniel Rowland, a chartref un o bregethwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif, sef Dr Martyn Lloyd-Jones – a gallai Dr Lloyd-Jones ddweud yng nghyfarfod ordeinio Gwynn yn 1977 ei fod yn adnabod teulu Gwynn ar ochr ei dad yn ôl i genhedlaeth ei hen hen dad-cu. Ac yn ei eglwys gartref ym Methany, Rhydaman, wedyn, roedd dau bregethwr yn ddylanwadau pwysig iawn ar Gwynn – gweinidog yr eglwys, sef ei dad, J. D. Williams, yntau’n bregethwr nodedig, ynghyd â chyn-weinidog eglwys Bethany, a oedd yn dal yn aelod yno yn ystod ieuenctid Gwynn, sef yr emynydd Nantlais, un a fu’n arwain y gad yn erbyn twf rhyddfrydiaeth ddiwinyddol yng Nghymru.
Mae’n werth pwysleisio, yn rhan o’r ‘rhagluniaeth ddistaw’, fod Gwynn o’r crud yn perthyn ar un ystyr i Gymru gyfan, a chanddo wreiddiau ar draws y wlad. Ond, wrth gwrs, nid eich magwraeth na’ch cefndir yw’r peth allweddol ar gyfer bod yn weinidog yr efengyl, ond eich bod chi eich hun wedi dod i brofiad personol, achubol o’r efengyl honno; a dyna a ddigwyddodd i Gwynn yn ei arddegau cynnar o dan weinidogaeth ei dad, a chael y fraint hefyd o gael ei drwytho ym Methany, Rhydaman, mewn gwybodaeth ysgrythurol ac athrawiaethol, a hynny mewn cymdeithas eglwysig a oedd yn dal yn drwm dan ddylanwad Diwygiad 1904.
Mynd wedyn yn 1963 i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt: cyfnod o ehangu gorwelion mewn byd gwahanol iawn i Rydaman. Ond trwy ‘ragluniaeth ddistaw’, yno, ym mhellafoedd Lloegr, y dechreuodd Gwynn bregethu – a phregethu yn Gymraeg! – yn dilyn cais iddo drefnu oedfaon y gymdeithas Gymraeg yn y brifysgol; ac yno, yng Nghaergrawnt, dyma’r alwad i’r weinidogaeth, ac I weinidogaethu yng Nghymru, yn tyfu’n gryfach, gryfach. A’r canlyniad fu iddo ddychwelyd i Gymru, i Aberystwyth yn 1966, i ddechrau ar hyfforddiant diwinyddol, ac aros yno ar ôl graddio’n BD i wneud gwaith ymchwil ar berthynas gwyddoniaeth a rhagluniaeth, a hynny drwy ‘gyd-ddigwyddiad’ dan gyfarwyddyd mab Nantlais, sef yr Athro Rheinallt Nantlais Williams.
Roedd y 1970au cynnar yn gyfnod o gryn gyffro ysbrydol ymhlith myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ac yn y Gymru Gymraeg yn ehangach, ac yn ‘rhagluniaeth ddistaw’ Duw gwelwn Gwynn yn y cyfnod hwnnw’n dod i’r amlwg yn y Gymru Gymraeg fel pregethwr ac arweinydd ifanc. Ac yna tro annisgwyl, wrth i Gwynn – er ei faich dros hyrwyddo’r efengyl yn y Gymraeg – gael ei arwain yn 1974 i dderbyn galwad i fod yn weinidog ar eglwys Saesneg ei hiaith yn Sandfields, Aberafan: eglwys a brofodd gyfnod nodedig o fendith o dan weinidogaeth Dr Martyn Lloyd-Jones yn y 1920au a’r 1930au. Ac fe fu’r profiad o weinidogaethu yn Sandfields, mewn sefyllfa hollol wahanol i’w brofiadau blaenorol, yn rhan bwysig o’r ‘rhagluniaeth ddistaw’ honno a oedd yn paratoi Gwynn i fod yn arweinydd Cristnogol a fyddai’n adnabod Cymru gyfan yn ei holl amrywiaeth ieithyddol a chymdeithasol. A byddai Gwynn yn sôn yn aml ar bregeth am y profiadau a gafodd wrth fugeilio’r praidd yn Sandfields.
Ac yna i Gaerdydd yn 1983. Amser a balla imi sôn yn awr am ei weinidogaeth o hynny ymlaen, a bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd ag agweddau arni: rhai wedi eistedd o dan ei weinidogaeth ffyddlon, oleuedig o wythnos i wythnos; eraill wedi elwa ar eistedd o dan ei weinidogaeth mewn cynhadledd neu encil neu gyrddau pregethu; eraill wedi elwa ar ei gyfraniad mawr fel arweinydd yng nghylchoedd Mudiad Efengylaidd Cymru, neu yng nghyd-destun gwaith undebau Cristnogol y myfyrwyr, neu waith y coleg diwinyddol ym Mryntirion, neu fel awdur llyfrau ac erthyglau. Ond petaech chi’n gofyn imi grynhoi’r weinidogaeth honno i dri gair, credaf mai ‘trefnusrwydd’, ‘cysondeb’ a ‘ffyddlondeb’ fyddai’r geiriau hynny, ac fe hoffwn orffen trwy nodi tair enghraifft o hynny:
- Un nodwedd amlwg ar gymeriad Gwynn oedd ei drefnusrwydd – y mathemategydd ynddo, mae’n siŵr. Roedd yn ddisgybledig iawn yn gorfforol, yn mynnu ymarfer yn gyson. Ond yr oedd yn drefnus ym mhob peth, a chanddo feddwl chwim, dadansoddol. Yr enghraifft o’i drefnusrwydd sydd wedi glynu dynnaf yn fy nghof i yw un o’r amser pan oeddem ni’n dau’n fyfyrwyr yn Aberystwyth yn y 1970au. Byddwn yn galw yn ei ystafell yn y Coleg Diwinyddol yn eithaf aml i drafod materion yn ymwneud â’r Undeb Cristnogol ac i elwa ar ei gyngor a’i feddwl strategol. Roedd ei ystafell bob amser fel pin mewn papur a phopeth yn ei le, gan gynnwys ei esgidiau: byddai’n gosod y rheini o dan y ffenestr, ac yr oeddynt bob amser yn yr union un lle, fel petai wedi mynd ati i’w lleoli â phren mesur!
- Yr ail beth yw ei faich cyson dros Gymru. Un peth rhyfeddol am hanes Cymru yw’r ffordd y mae Duw dros y canrifoedd wedi codi pobl â baich mawr ganddynt dros hyrwyddo’r efengyl yng Nghymru a thrwy’r Gymraeg. Yn wir, oni bai am hynny, go brin y byddai Cymru na’r Gymraeg ‘yma o hyd’. Ac roedd Gwynn yn yr olyniaeth honno. O ran ei ddoniau, fe allai fod wedi dringo’n uchel yn y byd Cristnogol y tu allan i Gymru, neu yn y byd seciwlar o ran hynny, ond un peth a’i nodweddai ar hyd ei yrfa oedd ei faich trwm dros Gymru, a thros y Gymru Gymraeg yn benodol. Fe gyfrannodd yn ehangach, wrth gwrs. Pregethai’n rymus yn y Saesneg – er ei fod yn cael pregethu yn Saesneg ychydig yn rhwystredig am na allai ddyfynnu emynau Cymraeg fel yr hoffai wneud mor aml wrth bregethu yn y Gymraeg; ac er mor rhugl oedd ei draddodi Saesneg, byddai rhai ohonom yn hoffi tynnu ei goes drwy ei atgoffa am y tro y cyfeiriodd mewn pregeth Saesneg at lyfr y Diarhebion, nid fel ‘the book of Proverbs’ ond fel ‘the book of Diarhebions’! Ond er pwysiced ei gyfraniad ehangach, yn ganolog i’w weinidogaeth ar hyd y blynyddoedd oedd ei faich dros Gymru, a’r Gymru Gymraeg yn arbennig, a’i ofid ynghylch ei chyflwr ysbrydol truenus.
- Ac yn drydydd, fe ddaw’r trefnuswydd a’r cysondeb a’r ffyddlondeb ynghyd yn ei bregethu. A’r darlun ohono sy’n mynnu aros yn y cof, uwchlaw pob un arall efallai, yw o Gwynn yn y pulpud. Roedd ganddo allu mawr fel gweinidog y Gair, i ddadansoddi’r Gair hwnnw, i gyflwyno ei neges yn glir a threfnus, a’i gymhwyso’n gyson ac yn daer i gyflyrau ysbrydol ei wrandawyr a hefyd i faterion y dydd, oherwydd yr oedd gan Gwynn ddiddordeb byw mewn datblygiadau cyfoes, yn gymdeithasol ac yn wyddonol. A gallaf ei weld yn awr, yn sefyll yn gadarn, ddi-syfl – yn ddisymud ym mhob ystyr – yn gafael yn y pulpud heb unrhyw grwydro o gwmpas, heb unrhyw histrionics na gimics, ac yn traethu’n ddadansoddol, glinigol, ond y traethu hwnnw yr un pryd yn llawn angerdd a dwyster ac argyhoeddiad – mewn geiriau eraill, pregethu ar ei orau (‘logic on fire’, a defnyddio diffiniad Martyn Lloyd-Jones am bregethu o’r fath) – a Gwynn yn ein hannog bob amser i edrych nid arno ef ond ‘ar Iesu, Pen-tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni’.
Yr ydym yn cydymdeimlo’n fawr â chi fel teulu yn eich colled. Yn fynych mewn angladdau fe glywn eiriau fel ‘Llewyrched goleuni gwastadol arno.’ Eich cysur chi, a’n cysur ninnau – ein llawenydd, yn wir, yn ein dagrau – yw gwybod fod y goleuni tragwyddol eisoes yn tywynnu ar Gwynn.