Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Pwy yw Iesu Grist?

23 Mai 2019 | gan John Pritchard

Cefais y fraint o glywed Gwynn Williams yn pregethu lawer gwaith. Ond er mor gyfoethog y pregethu ac er mor eglur y cymhwyso ar bob achlysur, yr hyn a gofiaf yn fwy na dim yw’r tro cyntaf erioed i mi ei glywed, bron i 45 o flynyddoedd yn ôl erbyn hyn.

A bod yn fanwl gywir, fe ddylwn ddweud ‘yr ail dro i mi ei glywed’. Cawsai Gwynn wahoddiad i Fangor i annerch y myfyrwyr. Trefnwyd dau gyfarfod ar ei gyfer. Daeth nifer dda i’r cyfarfod cyntaf. Y cof sydd gen i o’r cyfarfod hwnnw yw bod Gwynn wedi dweud rhywbeth am Dduw! Aeth y cyfan a ddywedodd y noson honno’n angof i mi. Yr unig beth a gofiaf yw bod yr hyn a glywais yn ddigon i wneud i mi benderfynu mynd i’r ail gyfarfod a gynhelid y noson ganlynol.

Am ryw reswm, roedd llai o lawer yn yr ail gyfarfod. Gallaf gofio hynny, ond gallaf hefyd gofio’r neges. ‘Pwy yw Iesu Grist?’ oedd cwestiwn Gwynn i ni’r noson honno. Soniodd am yr hyn a ddywedodd Iesu Grist amdano’i hun, gan roi sylw arbennig i’w honiadau am ei berthynas â Duw a’i gyfeiriadau mynych at ei waith a’i farwolaeth a’i atgyfodiad. Mynnai Gwynn fod Iesu Grist un ai’n dweud y gwir neu’n dweud celwydd. Os oedd yn dweud celwydd, roedd un ai’n dwyllwr neu’n wallgofddyn gan iddo wneud honiadau mor fawr. Ar ddiwedd ei anerchiad, mi wnaeth Gwynn ein herio i gredu yn y Crist hwnnw ac i roi ein bywyd iddo os oedd yr hyn a ddywedai amdano’i hun yn wir. Ond os mai celwydd oedd y cyfan mi allem, meddai Gwynn, fynd adref a llosgi pob Beibl a llyfr emynau gan mai llyfrau llawn ‘celwyddau’ a fyddai’r rheiny wedyn. Cyhoeddwyd y sgwrs honno mewn llyfryn bach yn ddiweddarach, ac yn naturiol mi gedwais gopi ohono’n ddiogel.

Fedraf fi ddim dweud yn union beth a ddigwyddodd i mi’r noson honno. Wn i ddim ai dyna pryd y deuthum i gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist ynteu ai dyna ddechrau’r daith at ffydd. Ond mi wn i mi, wedi gwrando ar neges Gwynn Williams, ddod yn gwbl sicr fod y cyfan a ddarllenwn am Iesu Grist yn y Beibl yn wir, a bod yr Iesu hwn yn gwbl deilwng o’m hymddiriedaeth ac o’m cariad. Mi fûm, yr wyf, ac mi fyddaf yn dragwyddol ddiolchgar fod Duw wedi defnyddio Gwynn Williams i’m hargyhoeddi o hynny. A Duw ei hun a ŵyr am yr holl bobl eraill a all ddweud rhywbeth tebyg wedi iddynt hwythau gael yr un fraint o fod o dan ei weinidogaeth ffyddlon.

(Ymddangosodd y deyrnged hon yn wreiddiol yng nghylchlythyr Gofalaeth Llanberis, Gronyn, ar 7 Hydref 2018
(https://gronyn.wordpress.com/2018/10/07/y-parchg-gwynn-williams/))