Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Plannu’r efengyl ym mhridd Madagascar

23 Mai 2019 | gan Carwyn Graves

Yn 2018 bu peth ymdrech i ddathlu’r ffaith ei bod yn ddau can mlynedd ers i genhadon o Gymru gyrraedd Madagascar a dechrau gwaith yno. David Jones a David Griffiths yw’r enwocaf o blith rhestr o ddyrnaid o genhadon blaengar o Gymru a fu’n hau had yr efengyl yn y wlad honno yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond beth oedd natur y gwaith cenhadol y buont ynghlwm ag ef? Pa dechnegau a ddefnyddiodd yr arloeswyr hyn, a beth oedd ffrwyth eu hymdrechion?

Yr Hanes

Ar 18 Awst 1818, glaniodd David Jones a Thomas Bevan yn Tamatave ar arfordir Madagascar, ar ddiwedd taith a oedd wedi dechrau mewn gwasanaeth i’w neilltuo i’r gwaith flwyddyn ynghynt yng nghapel Neuaddlwyd, ger Aberaeron. Y cwestiwn a ofynnwyd iddynt ar y pryd oedd hwn: ‘pa fodd yr ydych yn meddwl dwyn eich gwaith ymlaen ymhlith y Paganiaid?’
Roedd eu hatebion yn gyfuniad o egwyddorion a syniadau: gweddïo am arweiniad; glynu wrth athrawiaethau’r ffydd a’r ysgrythurau; dysgu iaith y bobl a phregethu ynddi; cyfieithu’r Beibl i’r iaith honno; sefydlu ysgolion dyddiol a rhagor. Gyda’r bwriadau hyn a rhai blynyddoedd o hyfforddiant a pharatoad mewn coleg yn Lloegr fe laniodd y ddau ar yr ynys.
Ym 1820 ymunodd David Griffiths â’r cwmni. Dros y blynyddoedd nesaf buont yn weithgar iawn, gan bregethu’r efengyl ddwywaith bob Sul, sefydlu ysgolion dyddiol ac ysgolion Sul, milwrio i ddod â chaethwasiaeth i ben, sefydlu orgraff safonol i’r Falagaseg ac, erbyn 1831, cyfieithu a chyhoeddi’r Testament Newydd yn yr iaith honno, a rhywfaint o’r Hen Destament yn ogystal. Blodeuodd y gwaith er gwaethaf gelyniaeth a phrofedigaeth. Bu farw Thomas Bevan, ei wraig a’i blentyn, a hefyd plentyn a gwraig David Jones.
Ond erbyn 1828 roedd 37 o ysgolion yn weithredol, ac amcangyfrifir i hyd at 15,000 o blant yr ynys dderbyn addysg trwy gyfrwng yr ysgolion hynny erbyn 1835. Roedd eglwys Crist ym Madagascar yn tyfu ac yn aeddfedu, a’r newyddion da yn mynd ar led. Ond ym 1835, yn sgil newid gwleidyddol yn y wlad, cododd erledigaeth chwyrn yn erbyn y Cristnogion, a bu’n rhaid i natur y gwaith newid yn sylweddol.

Ffrwyth

Ond roedd yr had wedi ei hau, ac eisoes yn dwyn ffrwyth. Beth oedd y ffrwyth hyn, felly?
Yn gyntaf, y ffaith ogoneddus fod bellach eglwys frodorol ymhlith y Malagasy. Amcangyfrifir bod nifer y Cristnogion brodorol wedi tyfu i ryw 7,000 erbyn i’r frenhines elyniaethus farw ym 1861 – a hyn dim ond tri deg o flynyddoedd wedi i’r egin-eglwys gyntaf gael ei sefydlu yn y wlad gan David Griffiths. Prawf o waith Duw, a ffrwyth digamsyniol yw’r ffaith fod yr Eglwys wedi parhau er gwaethaf gwres yr erlid ac wedi tyfu mewn nifer, er gwaetha’r ffaith fod pob cenhadwr o dramor wedi ei ddiarddel o’r ynys.
Yn ail, ac yn ymhlyg yn hyn, yw’r ffaith fod aeddfedrwydd rhyfeddol yn perthyn i’r credinwyr ynghanol erledigaeth ffyrnig iawn. Er i ryw 200 ohonynt gael eu rhoi i farwolaeth mewn ffyrdd erchyll dros y degawdau hynny, ac er bod bron pob un credadun wedi gorfod dioddef yn enw Iesu, arosasant yn ffyddlon i’w Gwaredwr. Roedd yr Ysbryd Glân ar waith yn eu plith, yn eu cadw yng nghanol y ffwrnais.
Yn drydydd, gwelwyd deffroadau ysbrydol – rhwng 1831 ac 1834, ac eto ym 1891-2. Rhoddai’r Eglwys le canolog i Air Duw, ac o ganlyniad I bregethu ffyddlon a dewr a dyfalbarhad, gwelodd eglwysi’r brifddinas yn unig dros ddau gant o aelodau newydd yn ystod 1834. Parhaodd hyn yn wir yn yr hir dymor hefyd – mae dros 11% o boblogaeth y wlad yn efengylaidd heddiw, a’r ganran hon yn dal i godi yn ôl Operation World.

Strategaeth

Felly beth oedd strategaeth y cenhadon hyn wrth iddynt ddod â’r efengyl i mewn i gyd-destun cwbl newydd, a gweld y fath ffrwyth? A oes agweddau o’r strategaeth hon sy’n berthnasol i ni heddiw?
Un o’r pethau mwyaf trawiadol yw’r ffordd yr aeth y cenhadon ati i ffurfio perthynas adeiladol â’r llywodraeth o’r cychwyn cyntaf. Lles personol a lles y wlad oedd yn cyfrif i’r brenin, Radama, ond defnyddiodd David Griffiths hyn er mwyn galluogi’r efengyl i ennill ei phlwyf mewn coridorau grym, ac agorodd hyn ddrysau i’r cenhadon I fynd o gylch eu gwaith. Roedd dangos i’r brenin fod yr efengyl o fudd i’w wlad yn ystyriaeth bwysig ganddynt.
Yn ail, eu diwydrwydd ynghylch gweithio gyda’r iaith frodorol. Dysgasant yr iaith, ond hefyd ymchwilio iddi, canolbwyntio ar ddatblygu orgraff ac yna ar addysgu pobl y wlad fel y medren nhw ddarllen eu hiaith hefyd. Trwy ganolbwyntio ar hyn, roeddent yn ennill ffafr y brenin, ond hefyd yn agor ffordd i’r bobl allu darllen y Beibl, pan fyddai hwnnw’n barod.
Yn drydydd, roedd yn flaenoriaeth ganddynt i gyfieithu’r holl Feibl. Y Beibl yw Sylfaen pob gwaith Cristnogol, ac yn yr achosion hynny lle bu eglwys ond nid Beibl yn yr iaith frodorol, mae’r eglwys honno un ai wedi gwyro yn athrawiaethol, neu wedi crebachu, neu wedi diflannu. Trwy gyfieithu’r Beibl ar fyrder, a chyhoeddi Efengyl Luc mor gynnar ag 1827, roedd y cenhadon yn sicrhau twf ysbrydol ymhlith y Cristnogion cynnar ym Madagascar, ac yn gosod yr eglwys ar sylfeini cadarn.
Yn bedwerydd, fe ffurfiodd y cenhadon gymdeithas efengylaidd frodorol ym 1825. Trwy sicrhau perchnogaeth leol ar y gwaith, roedd modd addasu allanolion i’r cyddestun diwylliannol heb fod rhagfarn orllewinol yn mynnu dylanwadu ar rai agweddau a fyddai’n profi’n rhwystr.

Casgliadau

Yr un yw’r rhain â’r technegau y mae Wycliffe: Cyfieithwyr y Beibl, a phartneriaid bydeang yn eu defnyddio heddiw. Mae cael y Beibl yn iaith y bobl yn un peth, ond heb alluogi pobl i fynd i’r afael ag e, a’r neges y mae’n ei chynnwys, mae perygl iddo eistedd yn segur ar silffoedd. Rhaid buddsoddi mewn llythrennedd; mewn deunyddiau ac addysg ysgrythurol i helpu gweinidogion ac eraill i wybod sut i ddefnyddio’r Beibl; yn y dechnoleg (gweisg yn y gorffennol, apiau ffonau symudol heddiw) i alluogi hynny. Rhaid ceisio perthynas dda â’r awdurdodau (fel y gwnâi’r apostol Paul), a rhaid meithrin perchnogaeth leol ar y cyfan.
Oes elfennau o hyn – technegau cenhadaeth tir newydd (frontier mission) yn berthnasol i ni feddwl amdanynt yng Nghymru heddiw? Mae’n wir bod eglwysi ledled y byd yn chwilio am ffyrdd newydd o gyrraedd y diwylliant tywyll o’u cwmpas â’r efengyl. Gan mai diwylliant ôl-Gristnogol sydd gennym ni ar y cyfan yng Nghymru heddiw, a oes gwersi gennym ni i’w dysgu – nid yn unig gan ein brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd, ond hefyd oddi wrth ein hanes cenhadol ein hunain? Gwerth esiampl cenhadon Madagascar i ni yw’r ffordd y llwyddwyd i aros yn driw i’r egwyddorion sylfaenol hynny a arddelwyd ganddynt gerbron swyddogion Neuadd-lwyd, wrth addasu’r allanolion i gyd-destun newydd, a hynny er mwyn yr un efengyl ddigyfnewid.

Gellir darllen y stori gyfan yng nghyfrol Noel Gibbard, Cymwynaswyr Madagascar (Gwasg Bryntirion, 1999).