Tract dwyieithog syml (Cymraeg a Saesneg)
Maint A6 (4 tudalen) lliw
Lle ar y cefn er mwyn rhoi enw a chyfeiriad cyswllt
Ar gael o swyddfa Bangor
Testun Cymraeg:
Rydym yn byw mewn byd lle mae newyddion ym mhob man.
Weithiau mae’n newyddion da, weithiau’n ddrwg. Weithiau mae’n newyddion pwysig, weithiau ddim mor bwysig.
Ond y newyddion gorau a phwysicaf a glywch chi byth yw bod Duw yn caru’r byd.
Wrth edrych ar y byd mae’n amlwg fod rhywbeth mawr o’i le. Gwelwn ddrygioni, casineb, newyn a thlodi. Nid fel yma y mae Duw am i bethau fod. Mae’r byd yma wedi torri gan fod pobl wedi troi cefn ar y Duw perffaith a greodd y cyfan. Un dydd fe fydd Duw yn barnu pob drygioni ac fe fydd yn rhaid i bawb roi cyfrif am yr hyn maent wedi ei wneud.
Mae’r Beibl yn dweud fod pob un ohonom yn elynion ac yn bell oddi wrth Dduw. Mae’r berthynas rhyngom â Duw wedi ei thorri oherwydd y pethau anghywir rydym wedi eu gwneud ac felly mae angen maddeuant arnom. Heb faddeuant does dim gobaith.
Ond mae Duw wedi trefnu ffordd i faddau i ni, a dod â ni yn ôl I berthynas gydag ef.
‘Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’ Ioan 3:16
Dyma’r newyddion da – fod Iesu Grist, drwy farw ar y groes, wedi derbyn y gosb yr ydym ni yn ei haeddu, ac felly wedi ennill maddeuant ar ein cyfer. Mae Duw yn dda ac yn berffaith ac mae’n galw arnat ti heddiw i droi ato, i dderbyn maddeuant, ac i ddod yn rhan o’i deulu Ef.
“Bydd pob un sy’n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.”
Rhufeiniaid 10.13