Tybed pa lysenw fyddai’n disgrifio eich cymeriad chi? Cafodd dyn yn y Testament Newydd ei enwi’n Barnabas, sef ‘mab anogaeth’ am ei fod ‘yn annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd’ (Actau 11:23, 24).
A oes merched anogaeth wedi dylanwadu ar ein bywydau ni tybed? A ydyn ni’n ferched anogaeth yn ein cylch ni o wasanaeth i’r Arglwydd? Pam dylen ni annog ein gilydd?
Oherwydd caredigrwydd Duw tuag atom ni, ac yn enwedig ei ras yn ein hachub ni.
Os ydyn ni’n sylweddoli pa mor werthfawr a rhyfeddol yw gwaith Duw ynom ni, yna mi fyddwn ni eisiau annog eraill i dyfu yn eu hadnabyddiaeth a’u cariad at y Gwaredwr
Oherwydd bod Gair Duw yn llawn anogaethau.
Trwy’r Beibl mae Duw, naill ai’n uniongyrchol neu drwy ei weision, yn annog ei bobl i ddyfalbarhau i’w ddilyn ef. Mae holl addewidion Duw mor werthfawr yn ei air i’w bobl e.e. Josua 1:9, ‘Bydd yn gryf a dewr. Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr Arglwydd dy Dduw gyda thi ple bynnag yr ei’.
Oherwydd bod y ‘dyddiau’n ddrwg’ (Effesiaid 5:16)
Mae’n gallu bod yn anodd byw fel Cristion, oherwydd
- Ein pechod – Fel y dywedodd Pantycelyn, ‘syrthio ganwaith i’r un bai’ yw ein hanes. Mor hawdd yw digalonni ac efallai amau a ydyn ni’n Gristnogion o gwbl pan welwn mor dueddol ydyn ni i syrthio i bechod a throi i ffwrdd oddi wrth ffyrdd pur Duw.
- Gau athrawiaeth – Yn Galatiaid 5:7 dywedir, ‘yr oeddech yn rhedeg yn dda. Pwy a’ch rhwystrodd chwi rhag canlyn y gwirionedd?’ Mae yna ddylanwadau’n dod sy’n ein drysu ni, yn ein camarwain, yn codi amheuon ynom ni ac yn tynnu’n sylw oddi wrth sylfeini’r ffydd.
- Casineb y byd – Rydyn ni gyd yn ymwybodol i ryw raddau neu’i gilydd o’r gost o ddilyn Crist. Gall fod yn anodd dal ati pan rydyn ni yn y lleiafrif neu pan fydd pobl yn gwneud hwyl am ein pennau.
- Problemau bywyd – Dydi bywyd ddim yn hawdd. Mae’r Pregethwr yn dweud ‘Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn i’r dyddiau blin ddod’. Y realiti yw, – fe ddaw ‘dyddiau blin’. Ar adegau felly, mae angen i ni gael ein calonogi a’n hatgoffa bod Duw, ein Creawdwr yn dal i’n caru a’i fod gyda ni yn y storm.
Oherwydd bod Crist yn dod yn ôl.
Mae Hebreaid 10:24-25 yn dweud, ‘gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da…annog ein gilydd, yn fwy felly yn gymaint a’ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.’ Mae angen i ni fod yn bobl sy’n dilyn yr Arglwydd i’r diwedd, ‘rhedeg yr yrfa i’r pen’. Dylen ni fod fel cefnogwyr mewn ras sy’n sgrechian a chlapio wrth i’w harwyr agosáu at y llinell orffen, neu yn debyg i dad Derek Redmond yng Ngemau Olympaidd Barcelona 1992 a ymunodd a’i fab o’r dorf pan gafodd yr athletwr anaf, a thrwy ei anogaeth ei helpu i orffen y ras.
Sut y gallwn ni annog ein gilydd?
Astudio’r Gair.
Gan fod Gair Duw yn “fyw a grymus” (Heb. 4:12) mae’n fuddiol i ni gymryd pob cyfle i wrando ac astudio Gair Duw gyda’n gilydd. Heb esgeuluso cyfarfodydd arferol yr Eglwys, gall fod yn anogaeth i wragedd gyfarfod â’i gilydd mewn cyfarfodydd ffurfiol eu strwythur, ar ffurf fwy anffurfiol lle mae pawb yn cyfrannu a thrafod, neu fel grŵp o wragedd sydd mewn sefyllfa debyg mewn bywyd, e.e. mamau ifanc yn astudio’r Gair trwy gymorth llyfr ar rianta.
Gweddi.
‘Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn’ (Iago 5:16). Beth sy’n fwy o anogaeth na chyflwyno ein gilydd a’n hanghenion i’r Arglwydd – yr Un sy’n gallu ateb a newid sefyllfaoedd a phobl? Fel gydag astudio’r Gair, gallwn drefnu i gyfarfod yn fwriadol i weddïo dros ein gilydd, neu beth am orffen sgwrs dros baned â chyfaill drwy ei chyflwyno i’n Tad nefol? Os nad oes ffrind yn gyfleus yn ddaearyddol, beth am godi’r ffôn neu anfon e-bost i gyfnewid pwyntiau gweddi yn wythnosol?
Perthynas un i un.
Tybed a oes merch neu ferched anogaeth yn ein bywyd ni sydd wedi ein hannog yn ein taith gyda’r Arglwydd? Efallai mam, nain, modryb, athrawes ysgol Sul, swyddog ar wersyll, ffrind doeth? Mae cael ‘model rôl’ neu fentor ysbrydol yn gallu bod yn anogaeth effeithiol iawn. Yn Titus 2 gwelwn Paul yn rhoi cyfrifoldeb i’r gwragedd hŷn i ofalu am y rhai iau. Wragedd hŷn, ydyn ni’n barod i gymryd her Paul o ddifri? Ydy Duw yn rhoi rhywun ar ein calon y medrwn ni wneud ymdrech i ddod i’w hadnabod yn well, ac mewn cariad ei hannog, ei chefnogi a’i chywiro yn ôl yr angen? Ferched iau, ydyn ni’n rhy falch i ofyn i wraig hŷn am gyngor? Beth am faterion ymarferol fel sut i fagu plant, sut i fod yn lletygar, sut i gael y balans cywir rhwng gwaith, teulu a’r eglwys, neu sut i fod yn fodlon ein byd? Gall fod ein gwneud ein hunain yn agored a gonest o flaen rhywun arall yn her, ond, rhaid cofio mai gwan ac annheilwng ydyn ni i gyd o flaen Duw, ac mae’r manteision o gael cefnogaeth, cyngor a chalondid yn rhagori ar unrhyw embaras a deimlwn.
Cyfeillgarwch.
Yn 1 Sam 23:16 clywn am Jonathan yn ‘calonogi trwy Dduw’ ei ffrind pennaf Dafydd. Sut fath o ffrindiau sydd gennym ni, a sut ffrindiau ydyn ni? Ydi ein cwmni, ein sgwrs, ein hagwedd at fywyd yn fendith i eraill? Ydi hi’n dod yn naturiol i ni sôn am yr Arglwydd a’i air yn ein sgyrsiau bob dydd? Ydyn ni’n sôn am yr Iesu gyda’r un brwdfrydedd â beth welson ni ar y teledu, neu beth brynon ni yn y sêls? Ydyn ni’n gwneud yn fawr o’r ffrindiau da sydd gennym? Beth am anfon neges destun, e-bost neu beth gwell na llythyr drwy’r post, i’w hannog? Ydyn ni’n gwneud ymdrech i feithrin cyfeillion newydd? Oes gennym ni glust dda i wrando ar bobl? Oes gennym ni fodd i ddangos cariad yn ymarferol, drwy rannu ein harian, ein hamser, prydau bwyd, neu beth am rannu llyfrau neu bregethau sydd wedi ein helpu ni? Mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd!
Mae’r angen am anogaeth yn fawr.
Mae mwy na digon o ffyrdd y gallwn ni annog ein gilydd.
Beth amdani?
Ai ‘merch anogaeth’ fydd eich llysenw chi?