Mewn byd llawn gwrthdaro, fe welwn angen dwfn am gymod: cymod rhwng unigolion a’u Creawdwr, rhwng unigolion a’i gilydd, a rhwng grwpiau o bobl a’i gilydd. Ac rydym yn clywed am ymdrechion y Cenhedloedd Unedig ac amryw gyrff eraill i sefydlu cymod a heddwch mewn gwahanol rannau o’r byd lle ceir anghydfod a rhyfel.
Mae Dr Rhiannon Lloyd, Bae Colwyn, yn llafurio ym maes cymodi mewn cyd-destun Cristnogol. Gwnaiff hynny gyda chymorth eraill dan weinidogaeth ‘Iacháu Cenhedloedd, Newid Cenhedloedd.’ Gwaith ydyw sy’n ceisio helpu’r eglwys Gristnogol i fod yn asiant iachâd a chymod yng nghanol sefyllfaoedd o wrthdaro.
I rai o ddarllenwyr y Cylchgrawn Efengylaidd sydd, o bosib, heb glywed am Rhiannon Lloyd, dyma gip ar ei chefndir. Mae hi’n gyn-feddyg a seiciatrydd ac wedi gwasanaethu’n weithiwr Cristnogol amser llawn ers 1985. Gwasanaethodd yn helaeth mewn sefyllfaoedd traws-ddiwylliannol, a threuliodd nifer o flynyddoedd yn addysgu ar gyrsiau ar gyfer gweithwyr Cristnogol, gan weinidogaethu i bobl oedd â chlwyfau emosiynol dwfn. Er 1994, mae hi wedi arloesi â gweinidogaeth gymodi yn Rwanda, gan weithio i ddechrau gydag African Enterprise. Siaradodd gerbron miloedd o arweinwyr eglwysig, a thystiodd nifer ohonynt fod Rhiannon a’i chyd-weithwyr wedi eu harwain i brofi iachâd ger y groes. O ganlyniad i hynny, mewn sawl lle fe lwyddwyd, dan fendith Duw, i hyrwyddo cymod rhwng y grwpiau a fu mewn gwrthdaro â’i gilydd. Erbyn hyn, mae timau iacháu wedi’u ffurfio mewn nifer o wledydd, ac mae’n bosib cael mwy o wybodaeth am y gwaith gwerthfawr hwn ar y wefan ganlynol: www.healingthenations.co.uk.
Bu’n ddymuniad gan Rhiannon i weithio mwyfwy yng Nghymru, ac yn dilyn anerchiadau a draddododd yng Ngŵyl Llanw yn 2017 yng Nghricieth, daeth yn gynyddol amlwg fod nifer o Gristnogion yma yng Nghymru yn awyddus i glywed rhagor am y gwaith. Felly, rhwng 8 ac11 Hydref 2018, cafodd wyth ar hugain ohonom y fraint o brofi trosom ein hunain y gweithdai sy’n foddion cymaint o fendith yn yr amrywiol wledydd. A chawson ni mo’n siomi wrth i Rhiannon a’r Parch. George de Vuyst ein harwain am dridiau llawn yng nghanolfan Gristnogol Trefeca. Cenhadwr yw George de Vuyst sydd wedi treulio ugain mlynedd yn yr Wcráin ac wedi astudio a gwasanaethu ym meysydd diwinyddiaeth a chymodi rhyngwladol.
Roedd y cwmni a ddaeth ynghyd yn Nhrefeca yn gyfuniad o Gymry Cymraeg, Cymry di-Gymraeg a rhai o’r tu allan i Gymru sydd wedi ymgartrefu yma. Wrth gyfarfod ar y noson gyntaf cawsom gyfle i gyflwyno ein hunain ac i ddweud beth a’n denodd at y cwrs a’n gobeithion. Daeth rhai oherwydd profedigaeth ac eraill o ganlyniad i siom neu feichiau bywyd. Roedd yr elfen onest a’r parodrwydd i rannu yn arwyddo y byddai bendith Duw ar ein cyfarfyddiad, meddai Rhiannon, wrth iddi hithau adrodd peth o’i hanes a’i dyhead i weld Duw yn gweithio unwaith eto yng ngwlad ei magwraeth.
Cynnwys y gweithdai oedd canllawiau i’n helpu fel Cristnogion unigol i ailddarganfod gwir ystyr maddeuant drwy gymorth adnodau o’r Ysgrythur. Gwelsom beth ydy effaith gwir faddeuant ar gymod, boed hynny ar lefel unigol, teuluol, neu genedlaethol. Gwelsom dro ar ôl tro nad oes modd cyflawni hyn yn effeithiol heb waith yr Ysbryd Glân ymhlith ei bobl.
Elwais yn fawr o’r amser a dreuliwyd yn gweithio drwy’r cyfeiriadau Beiblaidd at galon Duw a’i awydd i ddileu’r rhagfarnau – ffrwyth pechod yn y galon ddynol – sy’n bodoli rhwng pobloedd a’i gilydd.
Arweiniwyd yr addoliad gan ŵr a gwraig o’r enw Chris a Kate Dean. Dysgwr sydd wedi meistroli’r iaith ydy Chris. Yn gerddor a bardd, mae yn ei elfen yn cyfieithu emynau Cymraeg i’r Saesneg gan ofalu bod y fersiynau Saesneg yn soniarus a chanadwy fel y rhai gwreiddiol. Roedd bendith ar yr addoliad a rhyddid i ganu a gweddïo, ym mha iaith bynnag a ddymunem.
Yn ystod y gwahanol sesiynau, fe lwyddodd Rhiannon a George i egluro natur a threfn y gwaith cymodi a wnaed, ac a wneir, ganddyn nhw a’u cyd-weithwyr mewn gwahanol wledydd. Llwyddwyd i ddangos bod pob sefyllfa’n wahanol – o ran daearyddiaeth, hanes, natur y gwrthdaro ac yn y blaen. Ond dangoswyd hefyd fod y ffactorau sy’n arwain at gymod yn gallu bod yn berthnasol ac effeithiol mewn gwahanol wledydd, ardaloedd a grwpiau o bobl. Nid hyrwyddo ‘techneg’ simplistig ydy’r nod. Yn hytrach, ceisir cymhwyso egwyddorion Beiblaidd ac ysbrydol i sefyllfaoedd amrywiol, a hynny mewn modd sensitif a Christ-ganolog.
Oedd y sesiynau’n berthnasol i Gymru? Wedi’r cwbl, go brin fod problemau Cymru ar yr un raddfa â phroblemau mannau o wrthdaro lle ceir rhyfel a lladd. Gwir hynny, a diolch i Dduw am y mesur helaeth o heddwch sydd yn ein plith. Ac eto, go brin y gallwn honni fod problemau diffyg heddwch ac anawsterau cyd-dynnu yn gwbl absennol o’n plith. Yn wir, onid yw’n bosib fod yna broblemau ysbrydol a seicolegol digon difrifol yn cael rhwydd hynt i amlhau yn ein plith ar brydiau? A hwyrach y gallwn ddysgu rhai pethau o bwys oddi wrth ymdrechion llwyddiannus i sefydlu cytgord mewn rhannau eraill o’n byd.
Ar ddiwedd y cwrs yn Nhrefeca, roedd yr adborth yn gadarnhaol. Soniodd rhai am glwyfau ysbrydol yn deillio o ddieithrwch a diffyg cytgord yn eu hardaloedd. Soniodd eraill am eu hawydd i ddod i adnabod eu cymunedau’n well, a bod y sesiynau a’r sgyrsiau anffurfiol wedi eu helpu i ddeall yn fwy trylwyr eu sefyllfa bersonol a chyflwr ysbrydol a seicolegol y grwpiau amrywiol sydd yng Nghymru.
Lle mae pobl wedi eu clwyfo yn eu hysbryd, gallwn obeithio’n hyderus fod gwaith y Meddyg Da yn gymorth hawdd ei gael. Yn wir, cawsom ein hatgoffa dro ar ôl tro fod Efengyl Iesu Grist yn newyddion da o obaith i fyd clwyfedig, a’r adnod a gawsom wedi’r gweithgareddau yw hon:
‘A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân’ (Rhufeiniaid 15:13).
Mae Dr Rhiannon Lloyd a’i chyd-weithwyr yn gweddïo am arweiniad wrth iddyn nhw geisio ewyllys yr Arglwydd ar gyfer ymdrechion pellach ym maes cymodi yng Nghymru a gwledydd eraill. Gweddïwn gyda nhw y bydd y fendith a brofwyd yn Nhrefeca yn parhau ac yn ymledu.
I gael mwy o hanes Dr Rhiannon Lloyd a’i gwaith, gweler ei chyfrol Llwybr Gobaith: Antur cymodi o Gymru i’r byd, Gwasg Pantycelyn, 2005.