Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

HOLI DEWI ALTER

24 Mai 2019 | gan Dewi Alter

Wnei di ddweud rhywbeth wrthym ni am dy gefndir?

Cefais fy ngeni yn Ysbyty Glowyr Caerffili, ond erbyn i mi gyrraedd oed ysgol roeddwn yn byw yng Nghastell-nedd, ac yno y bûm i nes i fi ddod i’r Brifysgol yng Nghaerdydd.
Pan ro’n i’n ifanc, yn fuan ar ôl symud i Gastell-nedd, cafodd fy rhieni ysgariad a chafodd hynny effaith sylweddol ar fy magwraeth ac ar gyflwr ysbrydol y cartref.
Gadewais Ysgol Ystalyfera yn 2014 i ddod i Gaerdydd i astudio Cymraeg a Hanes. Yn ystod y cyfnod hwn des i’n Gristion – sonnir am hynny yn y man – ac ar ôl hynny fe wnes i MA cyn dechrau ar ddoethuriaeth eleni. Fis Ebrill rydw i’n priodi ac fe fyddwn ni’n setlo yng Nghaerdydd. Mae fy nyweddi, Angharad, wedi bod yn ffurfiannol ac yn anogaeth sylweddol wrth i fi dyfu yn fy mherthynas â’r Arglwydd.

Sut y dest ti i ffydd?

Des i i’r bywyd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn 2015. Does dim dyddiad penodol gen i, roedd yn broses dros amser. Doeddwn i ddim yn Gristion yn dod i’r Brifysgol, a dweud y gwir prin iawn oedd fy ngwybodaeth am Gristnogaeth. Serch hynny roeddwn yn benderfynol o fynd i eglwys, ac eglwys Gymraeg yn benodol. Yn gyfleus iawn roedd Eglwys Efengylaidd Gymraeg yn Cathays. Roedd yr eglwys hon yn hollol wahanol i unrhyw beth a brofais cyn hynny. Profais gwmni Cristnogion, a dysgais lawer am Iesu Grist a beth a wnaeth ef ar y groes. Ymhen amser des i ddeall y gwnaethpwyd hynny er fy mwyn i. Gweithiodd yr Arglwydd yn ddiwyd yn fy nghalon yn ystod fy misoedd cyntaf yn y brifysgol, gan fy argyhoeddi o bechod a rhoi i mi ymwybyddiaeth gref o fy angen i am waredwr, a rhoi sbectol glir – chwedl y Bardd Cwsg – i mi weld mai’r Iesu yw’r Gwaredwr hwnnw.
Un o’r rhagluniaethau rhyfedd a oedd ar waith yn fy mywyd cyn i fi ddod yn Gristion oedd i Dduw ddefnyddio llenyddiaeth Gymraeg o’r gorffennol i’w amlygu ei hun i fi. Yn wir, mae’n anodd astudio llenyddiaeth Gymraeg a hanes Cymru heb ddod yn gyfarwydd â Christnogion a’u syniadau, a Christnogion o argyhoeddiad dwys hefyd. Ga i wahodd darllenydd y Cylchgrawn i ddarllen rhai o lyfrau Cristnogol gorffennol Cymru? Nid yw’r iaith mor anodd â hynny, roeddynt yn ceisio cyrraedd pobl llawer llai dysgedig na ni heddiw; prin iawn oedd y bobl a fedrai ddarllen!
Mae diolch mawr hefyd yn mynd i Gerwyn Lewis. Treuliodd sawl sesiwn gyda fi yn darllen y Beibl ac yn egluro’r cynnwys dros baned. Roedd ei amynedd a’i ddoethineb yn sicr yn rhan o gynllun Duw i fy achub, ac hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddo yn gyhoeddus am agor y Gair gyda fi

Sut y bu dy yrfa ysbrydol ers hynny?

Rydw i’n rhyfeddu wrth edrych yn ôl ar sut oeddwn wedi imi ddod yn Gristion. Ar ôl cael fy medyddio treuliais fisoedd heb ddarllen fy Meibl. Roeddwn yn gweddïo’n gyson, ond pa werth yw gweddïo heb ddealltwriaeth ddofn o Dduw a’i Air? Roeddwn yn Gristion annoeth iawn. Oherwydd na chefais fagwraeth Gristnogol, roeddwn yn Gristion anwybodus tu hwnt hefyd.
Diolch i’r drefn, fe ddarllenais The Plight of Man and the Power of God gan Martyn Lloyd-Jones ac yna’n syth ar ôl hynny y clamp o lyfr Studies on the Sermon on the Mount a dyfnhaodd fy mywyd ysbrydol. Ro’n i’n ymwybodol o’r wyrth a wnaethpwyd ar lefel ddiriaethol, yn ogystal â haniaethol gan yr Arglwydd i fy achub. Dysgais gan Dr Lloyd-Jones nad yw’r Cristion yn llawenhau wrth ddarllen y Bregeth ar y Mynydd, yn hytrach mae’n codi braw arnom oherwydd bod safonau Duw mor uchel a’n bod ni’n syrthio mor brin o’r safonau hynny.
Wrth reswm nid yw’n ddoeth mesur twf ysbrydol dros gyfnod byr fel wythnos neu fis. Dros y tair blynedd diwethaf rydw i’n ymwybodol o dwf ysbrydol eithriadol. Rydw i’n adnabod yr Arglwydd yn llawer gwell nawr.̶Ar y cychwyn prin oedd fy adnabyddiaeth ohono. Trwy ei rym, ei nerth, a’i gariad rydw i’n gallu dweud fy mod yn ceisio’r pethau sydd uchod. Peidiwch â’m camddeall, rydw i’n dal i gael amseroedd gwael, ond rydw i’n gwybod hefyd fod yr Arglwydd wedi dechrau gwaith da ynof, fel y mae wedi gwneud ym mhob Cristion, ac y bydd yn cwblhau’r gwaith hwnnw ymhen amser.

Pa wersi ysbrydol wyt ti weddi eu dysgu ar hyd y ffordd?

Mae’n rhaid mai’r prif beth yw dibynnu ar Dduw. Nid mewn ffordd ffwrdd-â-hi. Gweithred yw dibynnu ar Dduw, mae gofyn troi ato mewn gweddi a cheisio ei bresenoldeb a’i ewyllys ef trwy ei air. Yr Arglwydd sydd wrth y llyw wedi’r cwbl.
Yn gysylltiedig â hyn mae’n rhaid cofio fod pob dim yn gweithredu er mwyn ewyllys Duw, felly does dim angen poeni am bethau bach. Does dim angen i fi ddibynnu arnaf fi fy hun er mwyn gwneud pethau, wrth reswm mae gen i gyfrifoldeb ac mae’n rhaid i fi weithredu, ond os ewyllys Duw yw rhywbeth, does dim byd yn mynd i’w wrthsefyll.

Beth sy’n anodd a beth sy’n gysurlon yn y bywyd Cristnogol, yn dy brofiad di?

Un o’r pethau anoddaf yw’r frwydr ysbrydol barhaus. Nid rhyw idiom Feiblaidd yw ‘brwydr ysbrydol’, mae’n realiti cyson i’r Cristion. Mae’n gallu bod yn heriol tu hwnt wrth i’r diafol geisio ein llygad-dynnu oddi wrth Dduw.
A siarad yn bersonol, rydw i’n ei chael hi’n anodd mewn brwydr ysbrydol pan rydw i’n ceisio gwrthwynebu’r diafol ar fy mhen fy hun. Mae hynny’n bell, bell o sut y dylai’r frwydr fod.
Fel Cristnogion rydym yn ffodus fod Duw gyda ni, fod Duw wedi darparu arfau ar gyfer y frwydr, a bod Duw ei hun wedi rhoi’r gallu i ni, trwy’r Ysbryd Glân, i wrthsefyll pob dim. Mae dod ag Iesu i mewn i’r darlun, yn gallu troi’r frwydr ar ei phen. Dyma yw un o gysuron mawr y bywyd Cristnogol i fi; fod Duw wedi gwneud y cwbl, ac mae’n parhau i weithio.

Beth rwyt ti’n ei wneud ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd rydw i’n fyfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio’r berthynas rhwng cof cenedlaethol a hanes cenedlaethol mewn llyfrau hanes o’r ddeunawfed ganrif.

Sut yr hoffet ti gyfrannu i’r Cylchgrawn?

Fy ngobaith i ar gyfer y Cylchgrawn yw y bydd yn datblygu presenoldeb ar y we, er mwyn sicrhau fod y cylchgrawn yn cyrraedd pobl a manteisio ar allu’r we i gyrraedd cynulleidfa eang.
Yn ail hoffwn weld y Cylchgrawn yn dod yn rhan bwysig o fywyd Cristnogion Cymru gan adeiladu’r saint, ond heb fynd yn rhywbeth ar gyfer Cristnogion yn unig. Gobeithiaf y bydd y Cylchgrawn yn bont i bobl yng Nghymru nad sy’n Gristnogion – mae gwybodaeth gyffredinol am Gristnogaeth yng Nghymru’n crebachu; nid diwylliant Cristnogol sydd gennym rhagor.
Y gobaith yw y bydd Duw, trwy ei ras, yn parhau i ddefnyddio’r Cylchgrawn i nerthu’r Cristnogion, i’w nerthu hwy, yn eu tro, i gyrraedd eraill, ac os yw’n gweld yn dda, yn ei ddefnyddio i wahodd pobl i ddod i’w adnabod ef.