Mae’n rhaid cyfaddef nad oeddwn wedi meddwl llawer am yr eglwys leol wrth ddewis prifysgol. Dwi ddim yn cofio pennaeth y chweched yn nodi hyn yn ffactor i’w ystyried wrth lenwi’r ffurflen UCAS. Ond roedd gan Dduw ei gynlluniau, ac yn ystod fy mhum mlynedd yng Nghaerdydd, defnyddiodd Duw weinidogaeth Gwynn a chymdeithas yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg i lunio fy nealltwriaeth a’m profiad o’r bywyd Cristnogol.
Rwy’n cofio Gwynn yn dod i bregethu ym Methany, Rhydaman, yn achlysurol pan oeddwn yn blentyn (roedd yn un o ‘blant’ y capel wrth gwrs) ond y tro cyntaf i mi sylwi ar ei bregethu oedd yng nghynhadledd Aber 1992. Deuddeng mlwydd oed oeddwn i ar y pryd, yn Gristion ers blwyddyn, a chofiaf hyd heddiw yr effaith o glywed rhywun yn siarad mor obeithiol a hyderus am y nefoedd a daear newydd.
‘Camu Mlaen’ ym Mryn-y-Groes wedyn pan oeddwn yn fy arddegau, dan arweiniad y ddau ffrind mynwesol, Peter Hallam a Gwynn. Gwnes innau gyfeillion oes yn yr encilion hyn ac o edrych nôl, mae’n amlwg bod Duw wedi dechrau ffurfio fy meddwl diwinyddol yn ystod y cyfnod hwn. ‘Gwregyswch lwynau eich meddwl’ oedd ei her i ni ym 1997, ac yn ystod y sesiynau anffurfiol gwelsom weinidog a oedd wedi ymroi i wneud hyn gydol ei fywyd. Trwy ras Duw medrai Gwynn drafod pob math o bynciau o safbwynt y Gair ac o brofiad personol. Cawsom drosolwg trawiadol o seiliau’r ffydd yn 1998 (ie, yn ‘Camu Mlaen’ y cyflwynwyd cyfres ddylanwadol ‘Y Darlun Cyflawn’ am y tro cyntaf; gweler rhifyn yr hydref 2015).
O ystyried hyn mae’n syndod nad oedd gweinidogaeth Gwynn yn flaenllaw yn fy meddwl wrth fynd i’r coleg yng Nghaerdydd – ond roeddwn yn dal i fod yn Gristion go ifanc mewn gwirionedd. Er hynny, fel yr unig Gristion yn ‘J-Block Senghennydd Court’ fe’m sbardunwyd i fod yn dystiolaeth i Grist yn y gymdeithas Gymraeg. Roedd ymrwymiad Gwynn i bregethu esboniadol a diwinyddol yn amhrisiadwy felly. Cofiaf rai o’r cyfresi hyd heddiw: Effesiaid, Ioan, Hebreaid, ac Eseia. Yn naturiol, nid oedd ‘waw ffactor’ bob wythnos (fel a gafwyd yn aml wrth wrando ar Gwynn mewn cynhadledd), ond roeddwn yn ymwybodol bod Duw ar waith yn adnewyddu fy meddwl a’m calon. Mewn ffordd dawel ond sicr, fe’m galluogwyd i ‘gymryd pob meddwl yn garcharor i fod yn ufudd i Grist.’ Cefais fy argyhoeddi o’r newydd o athrawiaethau fy mhlentyndod: awdurdod anffaeledig Gair Duw; sofraniaeth raslon Duw; a’r cyfan er gogoniant i Dduw.
Roedd Gwynn yn nodedig am ei feddwl rhesymegol a’i allu i ddarllen yr amseroedd, ond er hyn ni chrwydrodd oddi wrth yr efengyl. Ymrwymodd i bregethu ‘dim ond Iesu Grist, ac yntau wedi ei groeshoelio’. Mae’n siŵr bod clywed adleisiau o Ddiwygiad 1904-1905 yn Rhydaman, ac am fendith gweinidogaeth Dr Martyn Lloyd-Jones yn Sandfields, wedi meithrin hyn, ond tybed a oedd ei gyfnod yn fyfyriwr yn Aberystwyth yr un mor allweddol? Ymfalchïodd yn yr hanes am y myfyrwyr Cymraeg yn trafod yn y ffreutur pwy fyddai’r nesaf i ‘gwympo’ a throi at Iesu! Cefais fy annog ganddo droeon i weddïo’n benodol dros fy ffrindiau ac i fod yn rhan o glybiau a chymdeithasau Cymraeg er mwyn bod yn halen a goleuni. Trwy ei weinidogaeth tyfodd fy nghariad at Iesu a hyder yn yr efengyl.
Gweddïodd Gwynn yn gyhoeddus amdanom fel myfyrwyr ac Undeb Cristnogol ac roedd hyn yn gymaint o hwb ac esiampl. Tua diwedd fy nghyfnod yng Nghaerdydd sylwais ar bwyslais arall yng ngweddïo cyhoeddus Gwynn, sef ar i Dduw godi cenhedlaeth newydd o bregethwyr ac arweinwyr. A minnau’n dechrau teimlo galwad i’r weinidogaeth, roedd y gweddïau hyn fel saethau o’r nef i’m calon. Cefais sawl sgwrs dyner a gonest â Gwynn yn y cyfnod hwn ac roedd ei gefnogaeth a’r ymwybyddiaeth ei fod yn gweddïo amdana i, a sawl un arall, mor galonogol.
Byddai Gwynn yn parhau i fod yn ddylanwad arnaf fel gweithiwr UCCF a gweinidog ifanc a gwelais ei ddylanwad tawel ar fyfyrwyr a gweinidogion di-ri’. Stori arall yw honno. Am y tro, diolchaf i Dduw am gyfnod gwerthfawr o bum mlynedd dan weinidogaeth Gwynn. Daw geiriau’r awdur i’r Hebreaid i’r cof:
‘Cadwch mewn cof eich arweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd, ac efelychwch eu ffydd’ (Hebreaid 13:7).
Am ragor am weinidogaeth Gwynn ymhlith myfyrwyr, gweler: https://www.uccf.org.uk/news/remembering-gwynn-williams.htm.