Cawr o ddyn.
Dyma’r ffordd y gwnaeth sawl un gyfeirio at Gwynn wrthyf yn ystod y dyddiau yn dilyn ei farwolaeth. Ar un ystyr mae’n ddisgrifiad digon rhyfedd. Doedd e ddim yn ddyn arbennig o dal. A dweud y gwir, yn gorfforol roedd e wastad yn gymharol fain – rhedwr traws gwlad yn ei ieuenctid, a wnaeth barhau i fynychu’r gampfa yn wythnosol tan gyfnod ei salwch.
Ac eto, os buoch chi erioed dan ei weinidogaeth, a’i glywed yn pregethu, gallwch chi ddeall yn syth pam yr oedd cynifer yn ei weld yn un o gewri Cristnogaeth Cymru ein dydd. Roedd yr awdurdod, y rhesymeg a’r grym a oedd yn nodweddion cyson o’i bregethu, yn creu argraff amlwg ar y rheini a oedd yn ei glywed. Trwy eneiniad yr Ysbryd Glân roedd dyn digon eiddil yn derbyn nerth oddi uchod, er mwyn dangos mai gallu Duw ei hun oedd ar waith trwyddo. ’Wna i fyth anghofio gwrando arno yn dechrau ei gyfres o bregethau ar lythyr Paul at y Rhufeiniaid, gan roi trosolwg o’r hyn oedd o’n blaenau, a’r teimlad o gyffro wrth feddwl am weithio’n ffordd drwy’r llyfr – er ei bod hi’n amlwg fod y gyfres honno yn mynd i gymryd blynyddoedd!
Pan ymunais i â’r tîm oedd yn gweinidogaethu yn yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg yng Nghaerdydd, roedd Gwynn yn tynnu at ddiwedd ei weinidogaeth – gyda degawdau o brofiad yn bregethwr a gweinidog. Ac eto roedd y gwyleidd-dra ganddo i’m hanfon am gyfnod i eglwysi eraill er mwyn cael amrywiaeth o brofiadau. Er i mi golli cyfri faint o weithiau y gwnaeth e rowlio ei lygaid at rywbeth ro’n i wedi ei ddweud neu’i wneud, roedd e bob amser yn hynod o amyneddgar, gofalus a doeth.
Roedd yr ysbryd diymhongar hwn i’w weld hyd yn oed yn fwy clir wedi iddo ymddeol, ac yn ystod cyfnod ei salwch, pan yr oedd yn barod i gyfeirio ataf fi – y bachgen roedd e wedi ei weld fel babi, rebellious teen a Christion ifanc – fel ei weinidog.
Roeddwn i’n freintiedig iawn i gael fy hyfforddi gan Gwynn, ac roedd y cyfnod hwn yn un hynod o werthfawr. Oherwydd, er i mi gael fy magu dan ei weinidogaeth, roedd llawer o bethau yn nodweddiadol amdano fe sydd ddim yn dod yn rhwydd i fi. Fe ddysgodd (neu o leia ceisiodd ddysgu!) i mi bwysigrwydd trefnusrwydd a chynnal pwyllgorau, ynghyd â phob math o bethau dydych chi ddim yn eu dysgu mewn coleg diwinyddol! Ambell dro byddai’n fy eistedd i lawr i roi ychydig o hyfforddiant mwy ffurfiol – am bethau ymarferol fel sut i drefnu angladdau – ond yn amlach na pheidio roedd e’n hapus i ddangos yn ymarferol sut i weinidogaethu, gan adael i mi wneud camgymeriadau ac yna fy helpu i geisio osgoi gwneud yr un peth eto!
Ond efallai mai’r wers bwysicaf y gwnaeth e ei dysgu i fi yw nad mesur llwyddiant gweinidogaeth yw niferoedd, ond ffyddlondeb. Roedd e’n ymwybodol o’r alwad roedd Duw wedi ei gosod ar ei fywyd, ac fe wnaeth e lynu wrthi yn ddiwyro. Wrth fyfyrio ar fywyd a gweinidogaeth Gwynn, rwy’n credu mai un o’r pethau mwyaf trawiadol yw’r ffordd y cafodd ei gadw gan yr Arglwydd hyd y diwedd. Fel person amlwg iawn, gyda dylanwad mewn sawl cylch, roedd e’n darged clir i ymosodiadau’r diafol. Ac eto, trwy ras Duw, ’wnaeth e ddim llithro i bechod difrifol, diarddel ei hun o’r weinidogaeth, na chyfeiliorni yn ddiwinyddol. Fe lwyddodd i gadw yr eglwys yng Nghaerdydd yn unedig yn rhwymau’r efengyl ar hyd y blynyddoedd ac mae’n rhaid diolch i Dduw am hynny.
Bydd colled fawr ar ei ôl. Yn sicr, rwy’n gweld ei eisiau.
Ie, cawr yn wir.
Gweler hefyd: https://www.ust.ac.uk/news-events/gwynn-williams-memories-from-former-students