Deng mlynedd ar hugain yn ôl, roedd fy nyweddi a minnau’n paratoi i briodi ac yn gweddïo y byddai Duw yn ein harwain i wybod lle y dylen ni ymgartrefu. Roedd gennym ddymuniad cryf i aros yng Nghymru, ac yn dymuno bod yn rhan o eglwys gadarn lle roedd yr efengyl yn cael ei phregethu’n glir. Roedden ni’n eithaf agored i fynd i unrhyw le a oedd yn ffitio’r amodau hynny, ond, o ddewis, nid i Gaerdydd. Ond, i Gaerdydd y’n harweiniwyd ni trwy benarglwyddiaeth Duw, ac yno y buom ni am bum mlynedd ar hugain hapus iawn. Un o freintiau pennaf y cyfnod oedd bod yn aelodau yn Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd a bod dan weinidogaeth Gwynn Williams. ‘Fydden ni ddim wedi dewis bod mewn unrhyw eglwys arall ar y pryd.
Fe wnes i dyfu fel Cristion wrth eistedd dan ei bregethu o wythnos i wythnos. Roedd e’n gallu gwneud yr anodd yn syml ac mor rhesymegol. Roedd e’n cyflwyno diwinyddiaeth mewn ffordd hygyrch i bawb. Yn ddiarwybod roedden ni, y gwrandawyr, yn cael ein hyfforddi i gael fframwaith cadarn o ddiwinyddiaeth oedd wedyn yn effeithio ar ein hemosiwn a’n bywyd dyddiol. Roedd e’n pwysleisio y dylen ni hyfforddi’r meddwl i ddechrau gyda’r hyn sy’n wir, ac nid gyda’r hyn rydyn ni’n ei deimlo. Ond roedd ei bregethu bob amser yn cyfarch y meddwl a’r galon. O ddod i adnabod Gwynn, ac wrth i ni arfer gyda’i arddull, bydden ni’n sylwi ar yr arwyddion o emosiwn, pan oedd y llais yn mynd yn grynedig a’r wefus yn crynu, ac yn gwybod ei fod e’n cael ei gyffwrdd gan yr hyn roedd e’n ei bregethu. Emosiwn dan reolaeth oedd yn nodweddu ei bregethu, ond emosiwn cynnes ac annwyl.
Roedd Duw wedi donio Gwynn i bregethu ac rwy’n diolch i Dduw am bopeth dderbyniais i trwy ei was ar hyd y blynyddoedd. Rhai cyfresi sy’n aros yn y cof yw cael eglurhad clir o’r Epistol at y Rhufeiniad a chael help i symud gam wrth gam trwy ddadleuon rhesymegol Paul. Rwy’n cofio cael help i ddeall proffwydoliaeth Eseia o bennod 40 ymlaen gyda Gwynn yn ein dysgu bod angen addasu ffocws y sbienddrych o’r gaethglud, i ddyfodiad Crist, ac yna i’w Ailddyfodiad. Rwy’n ei gofio yn pregethu trwy lyfr Josua a’r cymwysiadau cyfoes a pherthnasol. Rwy’n cofio ei gyfres ar I Timotheus, a Gwynn yn gosod y bar yn uchel iawn i ni i fyw bywyd duwiol, gan osod bendithion yr efengyl yn sylfaen i’r ‘Gwna’. Rwy’n cofio bendith neilltuol yn ystod rhai pregethau unigol, er enghraifft, pregeth Gwener y Groglith ar len y deml yn cael ei rhwygo, pregeth ar gael ein newid ‘o ogoniant i ogoniant’ (2 Corinthiaid 3:18), a sawl pregeth nos Sul pan gafodd galwad yr efengyl ei phregethu gydag eneiniad. Ar nodyn personol mae dwy bregeth yn aros yn y cof, sef pregeth ar ‘dynnu i lawr y babell ddaearol hon’ (2 Corinthiaid 5:1) adeg marwolaeth fy nhad, a phregeth ar Y Fendith Offeiriadol (Numeri 6:22-27) pan adawon ni Gaerdydd i symud i Fryn-y-groes. Rwy’n dal i gael bendith o nifer o’r pregethau glywes i dan ei weinidogaeth.
Yn fuan iawn ar ôl i ni ddechrau mynychu’r eglwys roedd Gwynn, a Noel Gibbard ar y pryd, yn gwneud cyfres yn yr Ysgol Sul ar Ddiwinyddiaeth Systematig. Rwy’n cofio edrych ar y llawr pan oedd Gwynn yn gofyn cwestiwn, rhag ofn iddo ddal fy llygaid a gofyn i mi ateb! Roedd yr ateb rhesymegol yn amlwg i’w feddwl mathemategol e’ ac roedd e’n disgwyl cael yr ateb hwnnw. Ond rwy’n trysori’r hyn a ddysgais yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yn ogystal â bod yn bregethwr, roedd Gwynn hefyd yn fugail i ni fel teulu. Gwnâi lawer o’i fugeilio o’r pulpud wrth gymhwyso’n hynod o ofalus i anghenion ei gynulleidfa. Ond pan ddeuai i ymweld â ni ar adegau anodd neu pan oedden ni mewn cyfyng-gyngor, roedd ganddo bob amser eiriau cysurlon a doeth. Roedd e’n cloi pob ymweliad gyda gweddi, ac roedd y weddi honno yn ddi-ffael yn gyfrwng bendith.
Yn ystod ein cyfnod yng Nghaerdydd y ganwyd ein pedwar mab. Trwy ras Duw daeth ein pedwar mab i ffydd a chael eu bedyddio gan Gwynn. Does dim ysgol Sul yn ystod yr oedfa yn yr Eglwys Efengylaidd yng Nghaerdydd. Yr arferiad yw bod y plant yn aros yn yr oedfa cyhyd â’u bod yn ddigon tawel i beidio ag amharu ar eraill. Doedd pregethu Gwynn ddim yn blentynnaidd o bell ffordd, ond fydden ni’n aml yn cael ein synnu fod y plant wedi deall rhyw ran o’r bregeth, hyd yn oed fel plant bach, ac yn gofyn rhyw gwestiwn ar sail yr hyn roedden nhw wedi ei glywed yn y bregeth. Rwy’n ddiolchgar iawn eu bod wedi cael eistedd dan weinidogaeth oedd yn ffurfio eu meddwl i allu gwrthsefyll y dylanwadau anghristnogol oedd yn cael eu hyrddio atyn nhw o bob cyfeiriad gan y byd.
Nid gweinidog pell oddi wrthoch chi oedd Gwynn chwaith – nid dyn y pulpud yn unig. Rwy’n ei gofio yn asesu’r tactegau gorau ar gyfer chwarae ‘Wide Game’ yn ystod tripiau ysgol Sul, yn cymryd rhan yn y gemau adeg partion Nadolig a noson Gŵyl Ddewi, yn rolio ei lygaid yn amyneddgar pan drefnwyd parti i ddathlu ei ben blwydd yn 60 oed a’r cacennau bach gyda llun Gwynn wedi ei brintio ar bob un! Rwy’n cofio plant y clwb pobl ifanc yn cael noson ‘Llofruddiaeth’ a Gwynn yn cael ei recordio yn esgus ei fod wedi darganfod y corff marw (doedd ei ddoniau actio ddim cystal â’i ddoniau yn y pulpud). Rwy’n ei gofio fe’n mynd i’r pulpud i bregethu un Sul a’r gynulleidfa yn methu â deall beth oedd y ‘glitter’ oedd yn disgleirio ar ei ben moel – dim ond i ddarganfod bod dau fachgen drwg wedi gosod glitter ar ben drws ystafell yr henuriaid fel y byddai cawod yn disgyn ar ben Gwynn wrth iddo ddod mewn i’r capel. Cafodd ei hiwmor ei gadw dan glawr i raddau hyd nes iddo ymddeol, ond gwelwyd yr haenen ddrygionus yn fwyfwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ffaith fod cymaint o blant yr eglwys wedi dymuno bod yn ei angladd yn brawf o gariad teulu’r eglwys yng Nghaerdydd tuag ato.
Pan ofynnwyd i fi ysgrifennu pwt i’r Cylchgrawn i sôn am fy mhrofiad o gael Gwynn Williams yn weinidog arna i, fe ges i awydd cryf i geisio mynegi fy nyled fawr iddo a’m cariad ato. Mae’n briodol iawn i ni ddiolch i Dduw am y gweision mae ef wedi eu gosod i’n gwasanaethu, gan eu caru, a’u cynnal mewn gweddi. Byddai Gwynn yn aml yn canu clodydd Geiriadur Thomas Charles, felly dyma ddyfyniad ganddo fe i orffen, gan weddïo y bydd Duw yn dal i alw a donio dynion i gymryd y baton i’r genhedlaeth nesaf:
‘Pregethiad yr efengyl gan ddynion o’i anfoniad yw’r moddion pennaf a drefnodd Duw i achub eneidiau dynion, trwy daenu gwybodaeth o’r Iachawdwr ym mhlith pechaduriaid. Ni bu neb yn fendith fwy i ddynolryw na’r cyfryw bregethwyr’.