Calondid yr Ailddyfodiad:
Disgwyl y Brenin, Edmund T. Owen,
Gwasg Bryntirion, 2018
Beth yw’r achos ein bod yn gallu bod mor ddigalon, mor ddiegni a di-sêl? Diffyg llwyddiant?
Diffyg cynnydd ysbrydol, yn enwedig o’i gymharu â saint y gorffennol? O bosibl, ond tybed a oes rheswm arall? Ydyn ni’n digalonni am nad ydyn ni’n meddwl yn ddigon am ailddyfodiad Crist? Dyna’r awgrym, o leiaf, yn llyfr olaf Edmund Owen, Disgwyl y Brenin, cyfrol swmpus mewn ychydig dudalennau. Nod y gyfrol hon yw adfer yr athrawiaeth i’w phriod le ymhlith pobl Dduw:
[Mae’r] ddysgeidiaeth am yr ailddyfodiad gyda’r pwysicaf yn y Beibl, ac yn arbennig y Testament Newydd, ac nid yw’n haeddu ei thrin fel peth cymharol ddibwys ac ymylol. Dylai’r Sinderela hon gael ei chodi o’r lludw, a’i gwisgo’n hardd, a’i dwyn i’r neuadd ysblennydd i ddawnsio gyda’r Tywysog.
Nid bod hon yn gyfrol anodd. Yn ôl Edmund, anesmwythyd ynghylch y pwyslais ar fanylion dyfodiad Crist, a’r camau sy’n arwain at hynny yw un o’r rhesymau y mae cyn lleied o bregethu ar yr ailddyfodiad mewn cylchoedd efengylaidd. Ymgais yw’r llyfr hwn i ddileu ychydig o’r cymhlethdod esboniadol, a hoelio’r sylw ar graidd neges y Testament Newydd. Wrth ddarllen y Beibl, yr egwyddor fwyaf diogel yw deall y darnau aneglur yng ngoleuni’r darnau eglur, ac un o drychinebau’r Eglwys yw bod rhai, yn achos yr ailddyfodiad, wedi troi pethau ben i waered trwy ddechrau gyda’r dyrys. Diolch, felly, i Edmund am adfer y pwyslais cywir, gan drafod materion astrus y cipiad, y gorthrymder mawr a’r mil blynyddoedd o safbwynt dysgeidiaeth Crist yn yr Efengylau, yn ogystal ag union gyd-destun yr adnodau lle crybwyllir y pethau hyn.
Beth bynnag, nid dadlau yw nod Edmund, ond yn hytrach adeiladu. Dymuna weld gobaith yr ailddyfodiad yn ysbrydoli Cristnogion heddiw i’r un graddau â saint yr Eglwys Fore. I wneud hyn, mae’n tynnu sylw at gymaint o gyfeiriadau sydd at yr ailddyfodiad yn y Testament Newydd. Rhaid osgoi cael ein swyno neu ein brawychu gan anferthedd arswydus yr iaith ddelweddol, nes ein bod yn esgeuluso’r gwirionedd mawr, sef bod yr Arglwydd yn dychwelyd. Bydd y diwrnod hwnnw yn ddydd o ddathlu i’w bobl, ond yn ddydd o farn i eraill. I’n cynnal ni yn ein gobaith yn erbyn pob temtasiwn i amau, mae gweld geiriau Crist yn cael eu cyflawni trwy waith cenhadol yr Eglwys yn galondid mawr. Yn ogystal, pwysleisia Edmund fod angen cofio breuder ein bywydau a gweld agosrwydd marwolaeth yn rhagflas o’r dydd mawr sydd i ddod.
Gall hwn fod yn llyfr buddiol i’w ddarllen yn bersonol, ond gallai hefyd fod yn sail ar gyfer cyfarfodydd tai, yn enwedig os yw honiad yr awdur yn wir bod angen i ni ein hannog ein hunain i gofio’r gwirionedd canolog hwn. Wrth i ni ffarwelio â chynifer o frodyr a chwiorydd (ac Edmund yn eu plith) diolch am yr anogaeth i edrych ymlaen, ond hefyd i fyw bywydau sanctaidd yn y byd hwn, ‘yn gymaint â’ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos’ (Heb. 10:39).