Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Calonogwch eich Gilydd, ac adeiladwch bob un eich gilydd

24 Mai 2019

Mae digon o bethau yn y byd o’n cwmpas sy’n gallu ein diflasu a digon hawdd i ni, fel Pedr, ddechrau edrych ar y tonnau yn lle gweld y dwylo sy’n estyn i’n dal a’r heddwch sydd i’w gael wrth edrych ar wyneb Iesu. Yng nghanol cymhlethdodau bywyd a sŵn y byd, beth sydd wedi bod yn anogaeth neu’n galondid i chi yn ystod 2018? Ydy Duw wedi dysgu rhywbeth newydd i chi? Eich hatgoffa o wirionedd? Defnyddio digwyddiad neu berson neu lyfr i’ch annog? Rhoi adnod i chi ar yr union amser iawn? Os ydych chi wedi profi rhai o’r pethau hyn, beth am i ni geisio annog ein gilydd trwy rannu, ac atgoffa ein gilydd bod Duw yn gweithio, yn siarad, ac yn drugarog tuag at ei bobl wan. Uchod, mae rhai Cristnogion yn sôn am yr hyn mae Duw wedi ei roi ar eu calonnau. Oes gennych chi rywbeth i’w rannu hefyd?
Keith a Rhiain Lewis

Gwerthu tŷ, dyweddïo, gwaith a gyrfa newydd, priodi, marwolaeth, dewis gwyliau, genedigaeth, dewis ymuno â chymdeithasau, dewis coleg – dyna rai o ddigwyddiadau a dewisiadau mewn bywyd. Fel Cristnogion hŷn, rhyfeddwn at arweiniad pendant Duw i ni drwy ein bywyd a gallwn ddatgan gyda diolchgarwch y ‘syrthiodd ein llinynnau … mewn mannau dymunol ac y mae genny[m] etifeddiaeth ragorol’ (Salm 16:6). Daw ein hetifeddiaeth drwy aberth a gwaed yr Arglwydd Iesu Grist – dyma rodd Duw i ni. Ni wnaiff dibyniaeth ar Dduw fyth ein siomi. Mae ef yn alluog i’n cario a’n cynnal ym mhob sefyllfa – ni wna gamgymeriadau wrth ymdrin â ni. Dyna’r rheswm fod gan y Cristion, hyd yn oed yn y bywyd hwn, foddhad, boddlonrwydd a hapusrwydd. Bendith yw gweld llaw Duw yn ein harwain ym mhopeth a phrofi ei bresenoldeb gyda ni, gan gredu bod mwy eto i ddod.

Iola Alban

O orfod canolbwyntio ar un peth sydd wedi fy annog, fe ddywedwn i mai dilyn Dyddiadur Gweddi Barnabas Fund yn ddyddiol yw hwnnw.
Mae’r Dyddiadur Gweddi hwn yn deffro dau ymateb – tristwch mawr a rhyfeddod mawr. Tristwch o gael f’atgoffa yn ddyddiol y fath fygwth ac erlid creulon sydd ar bobl Dduw mewn cynifer o wledydd y byd, a rhyfeddod wrth sylweddoli mor gadarn eu ffydd yw’r Cristnogion hynny ac mor barod i ddal at eu ffydd er gwaethaf yr holl beryglon.
Mae hyn yn gwneud i mi werthfawrogi, yn fwy nag erioed, y rhyddid sydd gennym ni yng Nghymru i ddilyn Iesu ac i’w addoli’n gyhoeddus. Mae’n fy symbylu i ddiolch yn barhaus am y rhyddid hwn ac i weddïo’n gyson dros Gristnogion sy’n wynebu erledigaeth a phob math o gosbau caled iawn oherwydd eu ffydd. Mae eu dioddefiadau yn mynd â fi at ddau fan yn yr Ysgrythur – Mathew 5:11-12 a Hebreaid 13.3.

Lydia Adams

Un or pethau sydd wedi rhoi anogaeth i fi yn ddiweddar yw darllen y llyfr A Camaraderie of Confidence gan John Piper. Ynddo mae’n siarad am ffydd Charles Spurgeon, George Muller a Hudson Taylor. Fe wnaeth y rhan am George Muller yn enwedig roi hwb mawr i fi. Un o amcanion Muller wrth iddo edrych ar ôl yr amddifad oedd ‘That God may be glorified, should He be pleased to furnish me with the means, in its being seen that it is not a vain thing to trust in Him; and that thus the faith of His children may be strengthened.’
Y dyddiau hyn mae pawb o’n cwmpas yn meddwl mai peth hollol ffôl yw trystio Duw! Mae’n ddisgwyliedig gan bobl nad ydynt yn credu ym modolaeth Duw, ond weithiau mae’n hawdd i ni fel Cristnogion fyw bywyd mor gyfforddus fel nad ydym yn gorfod trystio Duw am bron ddim. Dwi’n hoff o’r ffordd roedd Muller yn ceisio byw ei fywyd trwy ddangos i bobl nad peth ffôl yw trystio Duw. Gwnaeth hynny drwy ddewis gwneud rhywbeth yn ôl pob golwg oedd yn amhosib. Dros ei fywyd gofalodd am dros 10,000 o blant amddifad a sefydlodd 117 o ysgolion i addysgu mwy na 120,000 o blant heb ofyn am geiniog gan unrhyw un.
Y peth arall am ei fywyd a wnaeth fy herio oedd y ffordd roedd yn gwneud yn siŵr mai ei berthynas â Duw oedd y peth pwysicaf, nid yr holl waith da arall roedd yn ei wneud. Rhywbeth dwi eisiau dechrau ymarfer yw bod yn hapus gyda Duw, gan fy mod mor aml yn anghofio bod felly yng nghanol prysurdeb, siomedigaethau bywyd a’m pechod. Mae wedi bod yn hwb mawr i fy amser i gyda Duw, nid i ddarllen y Beibl a gweddïo yn unig, ond i argyhoeddi fy hun o’i ddaioni ac i fod yn hapus yn Nuw.
‘Day by day seek to make this the most important business of your life. … the secret of all true effectual service is joy in God, having experimental acquaintance and fellowship with God Himself.’

Morgan Britton

Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn ryfedd iawn. Mae rhai pethau wedi digwydd (yn enwedig yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn) sydd wedi achosi llawer o hapusrwydd. Yna, yn ail hanner y flwyddyn, digwyddodd rhai pethau annisgwyl iawn, a daeth llawer o dristwch ac ansicrwydd i mewn i fy mywyd. Ro’n i’n teimlo mor isel. Yna darllenais i ddau lyfr gan Paul Mallard a phennod o’r Beibl (1 Brenhinoedd 19) sy’n delio â phoen a thristwch bywyd. Trwy ddarllen y llyfrau hyn cefais i fy atgoffa o ras Duw mewn amseroedd anodd, bod Duw yn fy ngharu i fel unigolyn, a hefyd bod Duw yn cydymdeimlo â phopeth.