Cymharol brin yw ein gwybodaeth am y cyfnod modern cynnar heddiw. Yn gyffredinol mae’r cyfnod rhwng y Diwygiad Protestannaidd a ddechreuodd yn 1517 a’r Chwyldro Ffrengig yn 1789 yn amhoblogaidd, eithriad yw’r diddordeb Cristnogol. Wedi dweud hynny, mae’n gyfnod ffurfiannol yn hanes Cymru, ac yn hanes Ewrop. Felly, mae’n braf gweld nofelau cyfoes yn ymgodymu â chyfnod mor bwysig. Eleni yng Nghaerdydd, enillodd Mari Williams Wobr Goffa Daniel Owen am Ysbryd
yr Oes. Un o brif gymeriadau’r nofel honno yw John Penry, y Piwritan cynnar.
Nofel arall a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy’n ymwneud â’r cyfnod hwn yw Sgythia gan Gwynn ap Gwilym. Yn y nofel cawn gipolwg ar Dr John Davies, Rheithor Mallwyd, swydd y gwasanaethodd yr awdur yntau ynddi ganrifoedd yn ddiweddarach. Dyn amryddawn ac aml ei ddiddordebau oedd John Davies: Cymro brwd, ysgolhaig o’r radd flaenaf, ffigwr pwysig yn ei gymdeithas, diwinydd, hanesydd, hynafiaethydd, ieithydd a mwy; dyneiddwyr o’r iawn ryw, yn wir. Un a yfodd yn helaeth o ffynhonnau amrywiol y Dadeni Dysg, y mudiad hwnnw a bwysleisiodd ymhlith nifer o bethau eraill yr angen i ddychwelyd at glasuron Groeg a Rhufain – a’r Hebraeg ar y naill law, a’r Diwygiad Protestannaidd a fynnai mai’r Beibl, a’r Beibl yn unig, yw sylfaen y grefydd Gristnogol ar y llall. Gwelwn y ddwy elfen hon yn uno wrth i John Davies ysgrifennu ar berthynas y Gymraeg a’r Hebraeg, a golygu Beibl William Morgan ymhlith cyhoeddiadau eraill.
Mae’r diweddar Gwynn ap Gwilym yn amlygu ei ddealltwriaeth o’r cyfnod i’r dim, yn ddi-os mae’n manteisio ar ei wybodaeth fanwl am y cyfnod ac am John Davies. Dyma i ni ddarlun o hanes mewn nofel. Yn wir, mae’r nofel yn ddrych creadigol a thriw i fywyd ac oes John Davies Mallwyd. Efallai y gwna’r awdur hyn yn anymwybodol, ond fe ddengys nad yw’r ffin yn glir rhwng hanes – sef y gorffennol wedi’i gofnodi mewn naratif – a nofelau hanesyddol – sef naratif o ffuglen wedi’i wreiddio yn y gorffennol. Rhaid peidio ag anghofio fod yna broses greadigol i ysgrifennu hanes. Llyfr hanes yw Sgythia, a’r prif gymeriad yw’r
dyn hanesyddol Dr John Davies Mallwyd. Does dim angen amau dibynadwyedd y nofel. Mae’r golwg dynol hwn ar John Davies, ei deulu a’i fyd yn mynd â’r awdur y tu hwnt i ffiniau hanes yn unig.
Down i adnabod John Davies yn berson o gig a gwaed. Cawn hanes y gwrthrych yn ddidwyll a chywir, ond hefyd yn greadigol, gyda’r awdur yn ymwybodol o ddynolrwydd ei gymeriad. Mae’r wybodaeth gefndirol mor amlwg, gelwir y llyfr yn nofel heb wneud anghyfiawnder â’r astudiaeth fanwl a wnaethpwyd. Ar yr un pryd gelwir y llyfr yn hanes heb wneud anghyfiawnder â’r broses greadigol a’i lluniodd.
Caiff John Davies ei osod yng nghanol datblygiadau mwyaf ei oes, yn llenyddol, yn ddiwinyddol ac yn gymdeithasol. Cawn bortread o’r gŵr hynod yn Gristion diwygiedig a chadarn ei ddiwinyddiaeth, ond hefyd yn un a chanddo galon dyner sy’n agor i bawb o’i gwmpas. Darlunnir un oedd â diddordeb brwd a deallusol yn llenyddiaeth ei wlad oherwydd ynddi y gwelir Cymru ar lawr y canrifoedd. Fe’i gwelir hefyd fel un a geisiai wella byd ei blwyfolion wrth wella’r ffyrdd, codi
pontydd a sefydlu elusen ar gyfer rhai mewn angen.
Dywedwyd eisoes mai un dan ddylanwad y Diwygiad Protestannaidd oedd John Davies.Yn y cyswllt hwn dilyna Jean Calvin, y diwinydd enwog o Genefa ac un o feddylwyr amlycaf Cristnogaeth. Wrth i’r nofel ddilyn patrwm cronolegol, gwelwn bryder John Davies wrth i’r Eglwys Anglicanaidd fynd yn fwyfwy Arminaidd ac agosáu’n ddiwinyddol at yr Eglwys Babyddol dan ddylanwad Archesgob Laud yn yr ail ganrif ar bymtheg. Wrth weld hyn o safbwynt John Davies gwneir dau beth. Manteisir ar allu’r nofel fel cyfrwng I fynegi safbwynt goddrychol unigolion o ddigwyddiadau mawr. Wrth wneud hyn, cawn ddehongliad o ymateb John Davies yr unigolyn yn profi ac yn pryderu am effeithiau ansefydlogrwydd crefyddol a gwleidyddol y cyfnod. Nid yn un â golwg cyfundrefnol, fodd bynnag, ond un yn poeni am y bobl yn ystod y cythrwfl a chyflwr ysbrydol y bobl hynny. Fel un a chanddo berthynas ddiddorol â Phiwritaniaeth, dymunodd weld pregethu yn cael lle canolog yn y gwasanaethau ac i’r Eglwys fynd yn llai seremonïol. Yn wir, trwy gyfrwng y nofel, cynigir cipolwg go iawn ar y cyfnod o safbwynt person a oedd yn union yn llygad y storm.
Beth sydd a wnelo hyn â ni heddiw yn yr unfed ganrif ar hugain?
Bellach, mae damcaniaethau llenyddol yn anghyfforddus o feddwl fod llenyddiaeth yn gallu cynnig arweiniad moesol. Efallai fod hynny’n wir ar adegau; ond a yw hynny’n deg am y nofel hon? A oes ganddi neges i Gymru heddiw? Gwlad sydd wedi cefnu i bob pwrpas ar ei hetifeddiaeth Gristnogol. Nid yw Cymru’n wlad Gristnogol bellach, waeth i ni beidio â thwyllo ein hunain.
Yn y nofel, gwelwn ddyn a oedd yn Gristion o argyhoeddiad ac yn dymuno i eraill dderbyn yr un ffydd ag ef. Doedd y bobl o’i gwmpas ddim yn credu, a gweithiodd yn ddiwyd i’w cyrraedd. Ar ôl derbyn ei alwad, aeth i alw eraill. Ar ôl dod yn un o ddefaid Crist, daeth John Davies yn fugail.
Codir cwestiynau hefyd am ymwneud y Cymro o Gristion â diwylliant brodorol ei wlad. Rhaid cyfaddef y gallai Cymru a’r Gymraeg fod wedi diflannu heb weithgarwch pobl fel Dr John Davies Mallwyd. Ni fyddem yn canu yn yr anthem ‘gwlad beirdd a chantorion’, os byddem yn canu’r anthem o gwbl! Un ag angerdd dros gofnodi hanes ei wlad, a chadw ei chyfoeth diwylliannol yn fyw oedd ef. Deilliai o’i gred fod plwraliaeth ddiwylliannol ar y ddaear yn rhywbeth bendithiol. Cefnogir hyn gan nifer o gyfeiriadau yn Genesis, ac yn hanes y Pentecost yn Actau 2, wrth i bawb ddeall y Gair yn eu hiaith eu hunain.
Tybed a oes rhai ar dân am gyrraedd pobl ag uniongrededd diwinyddol ynghyd â bod yn frwd dros amddiffyn y diwylliant Cymraeg? Mae Gwynn ap Gwilym wedi gofyn cwestiwn, ac yn sicr mae bywyd John Davies a’i debyg yn codi’r cwestiwn drwy gyfrwng y nofel hon.