Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Pob Eglwys yn Genhadol

25 Chwefror 2019 | gan Meirion Thomas

Mae Duw y Tad, Duw y Mab a Duw’r Ysbryd Glân wedi arfaethu, cynllunio ac addo menter genhadol fyd-eang, ryngwladol, a fyddai’n gwireddu, yn cyflawni ac yn cymhwyso holl fendithion a breintiau iachawdwriaeth. Bod yn ymwybodol o’r fenter honno a bod yn rhan weithredol ohoni ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol yw sylfaen disgyblaeth Feiblaidd iachus a gweledigaeth ysbrydol gadarn. Mae gweld y cynllun mawr a sylweddoli posibiliadau aruthrol cenhadaeth Duw ac ymwybod â’n partneriaeth gyda’r un wir Eglwys fyd-eang yn rhoi ymdeimlad o bersbectif ac anogaeth ym mywyd yr eglwys leol. Yn lleol, rydym wedi’n cysylltu a’n huno mewn cymdeithas efengylaidd â theulu byd-eang y ffydd. ‘Y mae’r efengyl yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu trwy’r holl fyd – yn union fel y mae hefyd yn eich plith chwi, o’r dydd y clywsoch am ras Duw a’i amgyffred mewn gwirionedd.’ (Col. 1:6). Mae’r cysylltiad bywydol hwn rhwng y lleol a’r byd-eang yn wefreiddiol, yn gyffrous ac yn galonogol a dylai symbylu’r moliant dyfnaf yn ein meddyliau a’n calonnau yn ogystal â’n galw i ymrwymiad llwyrach. Salmau 96-9, Rhufeiniaid 15:8-13.

Gwirioneddau Beiblaidd ynghylch ymwybyddiaeth fyd-eang

O Genesis, lle rhoddir yr addewid cyfamodol i Abraham, sy’n cwmpasu holl genhedloedd a theuluoedd y byd, trwodd i Lyfr Datguddiad, lle y gwelir y côr efengylaidd terfynol o bob cenedl, llwyth ac iaith yn dod ynghyd, mae edau aur o ras byd-eang i’r holl bobloedd. Dewisir Israel i fod yn sianel y fendith hon i’r Cenhedloedd. Ar ei gorau, roedd Israel yn ymwybodol o’i swyddogaeth etholedig. Mae Salm 67 yn grynodeb hyfryd o ddealltwriaeth yr Hen Destament drwyddo-draw o bwrpas a lle addawedig gweinidogaeth Israel er gogoniant Duw a bendith i’r byd:

Bydded Duw yn drugarog wrthym a’n bendithio, bydded llewyrch ei wyneb arnom, er mwyn i’w ffyrdd fod yn wybyddys ar y ddaear, a’i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd. Bydded i’r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i’r holl bobloedd dy foli di. Bydded i’r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu, oherwydd yr wyt ti’n barnu pobloedd yn gywir, ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear. Bydded i’r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i’r holl bobloedd dy foli di. Rhoes y ddaear ei chnwd; Duw, ein Duw ni, a’n bendithiodd. Bendithiodd Duw ni; bydded holl gyrrau’r ddaear yn ei ofni.

Pan ddaw’r Meseia addawedig, Iesu Grist, cawn ein hatgoffa nad yw ffrwyth a bendith ei waith achubol yn gyfyngedig i un bobl ac un lle. Ef yw ‘Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd’ (Ioan 1:29). Mae rhodd rasol, gariadus Duw ar gyfer y byd; ‘Do, carodd Duw y byd’ (Ioan 3:16). Mae goleuni Iesu i lewyrchu ym mhob lle tywyll, ‘Goleuni y byd ydwyf fi’ (Ioan 8:12). I’r byd hwn y mae Iesu’n anfon ei ddisgyblion. ‘Fel yr anfonaist fi i’r byd, yr wyf fi’n eu hanfon hwy i’r byd’ (Ioan 17:18). Eu cenhadaeth hwy oedd bod ‘yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear’ (Actau 1:8). Roedd croesi diwylliannau, gwahanfuriau ac ieithoedd i fod yn nodwedd ganolog eu cenhadaeth hollgynhwysol. Roedd yr apostol Paul yn deall mai ei dasg a’i genhadaeth ef oedd ‘ennill yr holl Genhedloedd i’r ufudd-dod a ddaw trwy ffydd er mwyn ei enw’ (Rhuf. 1:5; 16:26). Mae pregethu, dysgu, gweddïo, rhoddi a gwasanaethu unrhyw ddisgwyliad a phersbectif efengylaidd llai yn ein hysbeilio o aruthredd curiad calon ymrwymiad Duw i’w fab, ‘rhoddaf iti’r cenhedloedd yn etifeddiaeth, ac eithafoedd daear yn eiddo iti’ (Salm 2:8).

Hybu’r weledigaeth hon

Tasg y pregethwr a’r athro yw cadw’r thema yn ganolog ymhob cyfres o bregethau. Weithiau bydd yn amlwg, bryd arall yn ddealledig, ond bydd pregethu Crist-ganolog bob amser yn genhadaeth-ganolog hefyd (Luc 24:46-7). Gofalwch fod digonedd o’r wybodaeth ddiweddaraf am ein partneriaid cenhadol yn cael ei rhannu trwy’r amrywiaeth ryfeddol o ffyrdd a ddefnyddir bellach i gyfathrebu. Gall anogaeth i ddarllen cylchgronau cenhadol, gwefannau, cofiannau a llyfrau eraill, gadw fflam y weledigaeth genhadol ynghyn. Gwnewch yn siŵr fod nifer resymol o ymwelwyr o bob math o lefydd a gwahanol wenidogaethau cenhadol yn cael eu croesawu i deulu’r eglwys i fynegi eu consyrn cariadus am ryw genedl neu bobl.
Yn ein dinas ni, Casnewydd, mae gennym bobl yn y gynulleidfa sydd, trwy eu presenoldeb ffyddlon, yn ychwanegu at yr amrywiaeth gyfoethog o genhedloedd. Mae dod i’w hadnabod, clywed am eu gwledydd a chyflwr y dystiolaeth Gristnogol ynddynt, bob amser yn fendith. Mae partneriaethu â hwy i gyrraedd eu cymuned ethnig naturiol yn her, ond yn un sy’n talu ar ei chanfed.

Mae anfon a chynnal unigolion penodol ar eu taith wedi iddynt ymateb i alwad Duw ar eu bywyd i genhadaeth groesddiwylliant yn gyfrifoldeb, ond hefyd yn fraint aruchel. Mae timau cyfnod-byr ac ymweliadau, pan fônt yn briodol, yn cyfoethogi’r rheini sydd wedi teithio i weld, clywed ac arogli’r lleoedd sydd o ddiddordeb neilltuol i ni.

Mae hyn i gyd yn hybu eiriolaeth a gweddi mewn modd rheolaidd a phwrpasol sy’n dyfnhau’r ymdeimlad o wir bartneriaeth mewn cenhadaeth fyd-eang. Yn Rhuf.15:30-2 mae Paul – gŵr o Darsus yn y Dwyrain Canol – yn annog credinwyr Ewropeaidd yn Rhufain i weddïo dros ei genhadaeth i gredinwyr yn Jerwsalem ac anghredinwyr yn Jwdea. Dyna i ni batrwm o’r modd real a gweithredol y gallwn ni fod yn rhan o gyflawni’r Comisiwn Mawr i fynd a gwneud ‘disgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân’ (Math. 28:19).

Cydbwyso cenhadaeth fyd-eang a lleol

Dylai cenhadaeth fyd-eang a chenhadaeth leol gyfannu ei gilydd. Yr un yw’r efengyl a’r un yw’r genhadaeth a roddwyd. Yn y sefyllfa leol, treulir y rhan fwyaf o’n hamser yn ceisio cyrraedd y bobl o’n cwmpas trwy fod yn halen a goleuni yn amgylchfyd y teulu, y gweithle, a’r gymuned lle’r ydym yn byw. Mae cadw’n ffocws genhadol ryngwladol ar bopeth ydym ac a wnawn yn sialens pan dueddwn i fod yn esmwyth, hunanfodlon a chyfaddawdol gartref. Rydym i gyd wedi’n hanfon. Rydym i gyd yn ddisgyblion. Mae arnom i gyd angen anogaeth a phartneriaeth y teulu lleol o gredinwyr. Mae arnom i gyd angen cymorth a chefnogaeth gweddi dros y sefyllfaoedd cenhadol sydd ymysg ein cymdogion a’n ffrindiau.

Mae yna hefyd faes cynhaeaf mewn pentrefi, trefi a dinasoedd yma yng Nghymru. A ddylai’r egwyddor genhadol o anfon fod yn batrwm i ni wrth i ni ystyried llawer ardal o’n gwlad lle nad oes ond ychydig dystiolaeth efengylaidd neu ddim o gwbl? A ddylai rhai Cristnogion gysidro ceisio am swyddi mewn ardaloedd o’r fath? Gall clywed galwad y deyrnas olygu dim mwy na symud i ganolbarth Cymru! Mae cenhadaeth groesddiwylliant bob amser yn galw am barchu’r iaith leol. A ddylai rhagor fod yn dysgu Cymraeg fel y gallant gyrraedd cymunedau Cymraeg eu hiaith mewn ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu o’r efengyl?

Mae bellach ieithoedd a chymunedau crefyddol eraill ar garreg ein drws. Mae’r byd wedi dod i Gymru gyda chymunedau ethnig Arabeg, Pacistani, Somali, Romaneg, Pwyleg eu hiaith yn byw ochr yn ochr. Mae agosrwydd y fath amrywiaeth gyfoethog o ddiwylliannau ac ieithoedd yn ein hwynebu â sialensiau mawr a chyfleoedd gwerthfawr i ddangos cariad, gofal, a bywyd wedi’i hydreiddio â’r efengyl.
Pwy bynnag, ble bynnag, pryd bynnag, beth bynnag ein hamgylchiadau, mae anfon a gwasanaethu cenhadaeth leol a byd-eang Duw yn llawenydd a bendith. Boed i’r cwbl bob amser fod er clod a gogoniant yr Arglwydd.

Gwelwyd yr erthygl hon yn gyntaf yn y Cylchgrawn Efengylaidd Saesneg.
Cyfieithwyd gan Kitty Lloyd Jones.