Mae pawb yn cofio pa mor gandryll oedd y llysfam ddrwg yn stori Eira Wen pan ddarganfu nad hi oedd y brydferthaf o holl ferched y wlad. Yn ogystal â phechodau mwy amlwg (dicter, llofruddiaeth) mae’r stori hon yn darlunio pechodau mwy cyfrwys sy’n aml i’w canfod law yn llaw: cenfigen, eiddigedd, ysbryd cystadleuol a balchder.
Beth yw eiddigedd? Yn ei lyfr, Respectable Sins, dywed Jerry Bridges mai eiddigedd yw’r anallu i oddef unrhyw gystadleuaeth. Mae adegau pan fo eiddigedd yn dda. O fewn priodas, fe ddylai gŵr fod yn eiddigeddus os ydy ei wraig yn rhoi gormod o sylw i ddyn arall, ac i’r gwrthwyneb. Disgrifir Duw yn Dduw eiddigeddus; yn wir ei enw yw eiddigedd (Ex. 34:14). Nid yw’n goddef unrhyw gystadleuaeth am yr addoliad y mae ef yn ei haeddu. Dywedodd yr apostol Paul fod ganddo ef eiddigedd dduwiol – ar ran Duw, gan fod y Cristnogion yng Nghorinth yn cyfeiliorni o’u defosiwn i Grist. Ond gan amlaf nid yw ein heiddigedd yn dduwiol, yn hytrach y mae’n bechod, a chyfeirir at hynny mewn sawl lle yn y Beibl (Rhuf. 13:13, 1 Cor. 3:3, Gal. 5:20, Iago 3:14-16)
Mae cenfigen yn debyg i eiddigedd. Chwerwder ydyw sy’n deillio o’r ymwybyddiaeth fod rhywbeth yn eiddo i berson arall. Gall gynnwys chwenychu meddiannu yr hyn sydd ganddo, neu anfodlonrwydd â’r ffaith ei fod yn ei feddiant o gwbl. Yn ôl Bridges rydym yn tueddu cenfigennu wrth y rhai yr ydym yn uniaethu â hwy fwyaf; rydym yn cenfigennu o achos y pethau yr ydym yn rhoi’r gwerth mwyaf arnynt. Er enghraifft, rydw i’n annhebygol o fod yn genfigennus o allu rhywun i chwarae pêl-droed, oherwydd rydw i’n rhy hen i geisio chwarae pêl-droed yn dda, ond mi fuaswn yn gallu cael fy nhemtio i genfigennu wrth ddawn pregethu rhywun, oherwydd mae gen i ddiddordeb mewn bod yn bregethwr da.
Gwraidd Eiddigedd
Yr hyn sy’n allweddol i ni ei weld, er mwyn deall cenfigen ac eiddigedd, yw gweld eu bod yn deillio o’r ffaith ein bod fel unigolion yn teimlo’n gystadleuol tuag at weddill dynoliaeth. Mae pob un ohonom yn gwneud hyn – yn cymharu ein hunain a’n hamgylchiadau â’r hyn sydd o’n hamgylch. Efallai fy mod yn fodlon iawn ar fy mywyd nes i mi fynd ar Facebook a gweld cymaint o hwyl mae fy ffrindiau wedi bod yn ei chael – nawr mae fy mywyd yn ymddangos yn hynod ddiflas, a chaf fy nhemtio i deimlo cenfigen ac eiddigedd. Neu efallai eich bod yn eithaf bodlon ar eich dillad a’ch ymddangosiad nes i chi weld eich cydweithiwr yn y gwaith – ei dillad newydd, ei steil gwallt newydd. Dyma pryd y gall cenfigen ac eiddigedd godi pen. Neu fe all ddigwydd yn y capel. Rydych chi’n edrych o’ch cwmpas ar fore Sul ac yn dechrau dymuno eich bod wedi derbyn yr un doniau â’r person arall yna, neu eich bod mor hawdd ymwneud ag ef a rhywun arall. Mae sylwadau Bridges yn ddefnyddiol iawn; yr agweddau rydym yn rhoi’r gwerth mwyaf arnynt – sydd yn amrywio o berson i berson ac o bosib yn eu hanfod yn bethau da iawn – yn y meysydd hyn rydym yn tueddu bod yn fwyaf cenfigennus neu eiddigeddus.
Mae haen arall wrth geisio tyrchu i ddeall cenfigen ac eiddigedd – mae’n dod o fod yn gystadleuol, a daw hynny o falchder. Wrth ysgrifennu at yr eglwys yng Nghorinth sydd ag enw am ei balchder ysbrydol (e.e. 1 Cor.) mae Paul hefyd yn sôn am ei chenfigen (1 Cor. 3:3, 2 Cor. 12:20). Golyga balchder ein bod ni eisiau bod yn well na phobl eraill ac yn dymuno cael mwy o bethau nag sydd gan bobl eraill. Dywedodd C. S. Lewis fod balchder yn ei hanfod yn gystadleuol – dydy person ddim yn falch o gael cyfoeth ond o’r ffaith ei fod yn fwy cyfoethog, neu’n fwy galluog, yn harddach neu’n fwy dawnus neu’n fwy poblogaidd nag eraill. Arweinia balchder at agwedd gystadleuol sy’n arwain, yn anochel, at genfigen ac eiddigedd.
Ffrwyth Eiddigedd
Cyn i ni ystyried gwrthwenwyn y Beibl yn erbyn cenfigen ac eiddigedd rhaid i ni weld beth yw eu ffrwyth. Y mae sawl enghraifft yn y Beibl lle sonnir am genfigen ochr yn ochr â dadlau a chynnen. Gwelwn y cysylltiad wrth edrych ar enghreifftiau nodweddiadol y Beibl – canlyniad cenfigen y Brenin Saul tuag at Dafydd oedd ei fod wedi gwneud ymgais i’w ladd. Cenfigen yr arweinwyr Iddewig tuag at Iesu a’u harweiniodd i’w ladd ef. Fe welwn bethau tebyg yn y gwrthwynebiad Iddewig i’r apostolion yn Llyfr yr Actau. Fe fydd cenfigen ac eiddigedd yn dinistrio ein perthynas ag eraill, efallai nad yw mor amlwg â’r enghreifftiau uchod, ond fe fydd yn achosi cynnen a rhaniadau bob tro. Un peth i gloi – maent fel cancr; efallai eu bod yn dechrau’n fach, a thybiwn eu bod dan reolaeth, ond oni bai ein bod yn eu hadnabod am yr hyn ydynt ac yn eu dadwreiddio’n ddidrugaredd mi fyddant yn tyfu a phydru ac, o dipyn i beth, yn ein dinistrio ni ein hunain a’n perthynas ag eraill.
Gwirioneddau Pwysig
Mae’r Beibl yn rhoi gwirioneddau i ni sy’n wrthwenwyn i genfigen ac eiddigedd. Yn gyntaf, mae’r gwirionedd bod Duw yn benarglwydd. Duw sydd wedi fy nghreu fel rydw i, gan roi i mi’r doniau a’r galluoedd, cryfderau a gwendidau sydd gennyf. Mae ei ragluniaeth hefyd wedi penodi pob agwedd ar hanes fy mywyd a’m hamgylchiadau presennol. Pan ydw i’n genfigennus neu’n eiddigeddus o bobl eraill yr hyn rwyf yn ei ddweud yw nad yw Duw wedi gwneud ei waith yn dda iawn, a phetawn i’n cael fy ffordd mi fuaswn i’n gwneud ei waith yn well. Mae atgoffa ein hunain o ragluniaeth Duw yn wrthwenwyn nerthol pan gawn ein temtio i fod yn genfigennus neu’n eiddigeddus – mae Duw yn dda ac yn gwneud popeth yn dda, does dim angen i mi frwydro na gofidio, gallaf bwyso ar ei benarglwyddiaeth.
Gwirionedd pwysig arall i’r frwydr yw’r gwirionedd am ras Duw. O dan wyneb cenfigen ac eiddigedd y mae’r teimlad ein bod ni’n haeddu gwell. Gall hyn o bryd i’w gilydd nodweddu sut rydym yn gweld bywyd yn ei gyfanrwydd – fel petawn yn haeddu rhai pethau. Y gwir amdani yw nad yw Duw yn fy nyled i. Mae popeth sydd gen i – fy incwm, fy ymddangosiad, fy noniau a’m cyfleoedd i weinidogaethu – yn rhodd o ras Duw. I mi, ac i bobl eraill tebyg, y mae’n demtasiwn i fod yn genfigennus tuag at weinidogion eraill sy’n ymddangos yn fwy ‘llwyddiannus’ na mi, neu i deimlo eiddigedd tuag at eu doniau a’u cyfleoedd. Eto, dywed Paul fod gennym ein gweinidogaethau trwy drugaredd Duw yn unig. Does gen i ddim hawl o gwbl i wasanaethu Duw – rhodd gan Dduw ydyw. Dydy Duw ddim fy angen i mewn gwirionedd.
Gwir Fawredd
Yn olaf, rhaid ein hatgoffa ein hunain o ddysgeidiaeth Iesu am wir fawredd. Mae ein cenfigen yn aml yn ein gwthio i fod ar y brig, i fod y gorau, i wneud i eraill ein rhoi ni yn gyntaf. Ond dywed Iesu bod gwir fawredd i’w gael ar y gwaelod ac nid ar y brig. ‘Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb.” (Marc 9:35). Wedi’r cwbl, dyma a wnaeth Iesu ei hun, ef oedd y cyntaf ond fe ddaeth yn olaf trwy ei ddarostwng ei hun – yn gyntaf wrth ddod yn ddyn, ac wedyn wrth gymryd cam is eto a marw ar y groes. Pan deimlwn yn genfigennus neu’n eiddigeddus mae angen i ni ofyn i Ysbryd Duw ein cynorthwyo i weld gostyngeiddrwydd Crist a thrwy hynny ein gwneud ni’n ostyngedig.
Rhaid i ni gofio hefyd fod Crist wedi ei ddarostwng ei hun yn isel er mwyn ein codi ni yn uchel, fel ein bod yn cael eistedd gydag ef yn y nefolion leoedd. Daeth yn dlawd er mwyn i ni, trwy ei dlodi, ddod yn gyfoethog. Yng Nghrist, y mae Duw wedi rhoi ef ei hun i ni. Trysori Crist oedd cyfrinach bodlonrwydd yr apostol Paul (Phil. 3-4). Dydy cenfigen ac eiddigedd ddim ond yn ffynnu pan rydym yn anghofio’r rhoddion yr ydym wedi eu derbyn a’n hunaniaeth yng Nghrist. Rydym yn blant i Dduw, yn gyd-etifeddion â Christ. Beth mwy sydd ei angen?