Sut daethoch chi i nabod Iesu Grist yn bersonol?
Erbyn imi fynd i’r brifysgol, roeddwn wedi colli ffydd ddiwylliannol fy mhlentyndod ac yn ystyried fy hun yn ‘atheist’. Astudiais ieithoedd modern yn y brifysgol a wedyn gwnes i ymchwil mewn llenyddiaeth Ffrangeg fodern. Dechreuais ddysgu ieithoedd mewn ysgol yng Nghasnewydd, ble y cwrddais ag Ann. Priodon ni ym 1975. Er bod Ann wedi dod yn Gristion yn y brifysgol, aeth trwy gyfnod o wybod llawer yn ei phen, ond llai yn ei chalon a doedd hi ddim yn mynychu eglwys yr adeg yma. Serch hynny, nid oedd hi’n gallu cytuno â’m safbwynt atheistaidd. Un diwrnod, heriodd hi fi wrth ddweud nad oeddwn wedi clywed gwir pregethu! Fy ateb? ‘Try me!’ Felly, dechreuon ni fynd i’r eglwys, yn gyntaf yng Nghasnewydd ac yna i’r Heath yng Nghaerdydd. Roedd yn brofiad ysgytwol. Am y tro cyntaf, des i weld bod Cristnogaeth yn gwneud synnwyr a dod i ddeall pethau yn y Beibl nad oeddwn yn eu deall o’r blaen. Teimlais yn dryloyw a bod y pregethau ar fy nghyfer i. Roedd yn rhaid imi dderbyn bod Duw yn bodoli a bod y Duw mawr yna yn gyfiawn, a minnau’n bechadur: ‘Dwed i mi ai fi oedd hwnnw gofiodd cariad rhad mor fawr. Marw dros un bron â suddo, Yn Gehenna boeth i lawr.’
Wrth siarad â chi mae’n amlwg eich bod yn gweld llaw Duw yn eich arwain yn glir i ddilyn gyrfa mewn gwydr lliw. Oes rhywbeth arbennig yn sefyll mas i chi, neu oedd Duw yn eich arwain mewn cyfres o gamau?
Dwi wastad wedi dwlu ar arlunio. Cododd amgylchiadau oedd yn ein harwain fel teulu i ystyried a ddylwn i roi lan fy swydd fel athro yng Nghaerfyrddin a cheisio am le mewn coleg celf. A oedd yn iawn i Gristion fynd yn arlunydd? Beth oedd yn gymorth fawr i ni wrth benderfynu oedd y llyfr ‘The Creative Gift, the Arts and the Christian Life’ gan H.R. Rookmaaker, Athro Hanes Celf ym Mhrifysgol Rydd Amsterdam. Ond pa fath o gelf y dylwn ei astudio? Cwrddon ni â ffrind oedd yn astudio gwydr lliw yn Abertawe. Roedd fel ffrwydriad yn fy meddwl! ‘Dyna fe! Gwydr Lliw!’ Ond sut fyddwn yn ymdopi fel teulu a minnau yn fyfyriwr? Llwyddodd Ann i gael swydd yn Bennaeth Adran Saesneg mewn ysgol ddwyieithog: roedd yr ysgol yn chwilio am rywun profiadol oedd yn medru’r Gymraeg i ddysgu’r dosbarthiadau arholiad.
Rydych yn dod o hyd i’ch technegau eich hun wrth weithio, i ryw raddau, ond ydy bod yn rhan o draddodiad hanesyddol yn bwysig i chi?
Dwi’n dwlu ar y cyfrwng a dwi wedi dyfeisio technegau fy hunan dros y blynyddoedd, a dwi wedi dysgu llawer o wydr lliw y gorffennol, ond dydy bod yn etifedd traddodiad hanesyddol ddim y rhoi gwefr i fi. Gall traddodiad hanesyddol fod yn faen melin am wddf arlunydd cyfoes. Gan amlaf, y profiad sydd gan bobl o wydr lliw yw’r ffenestri maen nhw wedi eu gweld mewn eglwysi canol oesol neu rai o’r oes Fictorianaidd – a dyna beth a ddisgwylir gan yr yr arlunydd! Ond dydy’r arlunydd cyfoes ddim i fod i anwybyddu datblygiadau newydd mewn celf yn ei gyfnod, neu fyddai mewn ‘time-loop’ a ni fyddai’n gwasanaethu oes ei hun.
Ydy’ch gwaith yn cyflawni pwrpas tebyg i’r ffenestri lliw eglwysig cynharaf?
Ydy yn yr ystyr taw pwrpas fy ffenestri yw rhoi gogoniant i Dduw a gwasanaethu fy nghyd-ddyn.
Beth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i chwi wrth fynd ati i ddylunio a chreu ffenest liw?
Rhoi fy nychymyg at wasanaeth y cleient gan wreiddio fy ngwaith ar yr un pryd yn yr ysgrythurau.
Rydych wedi galw eich stiwdio yn Sareffta. Pam hynny?
I Sareffta yr anfonwyd Elias i gael ei gadw gan wraig weddw adeg sychder mawr a newyn yn Israel. Dyma’r addewid gan yr Arglwydd a ddaeth i’r wraig trwy enau Elias: ‘Canys fel hyn y dwed Argwydd Dduw Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir a’r olew o’r ysten ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaear (1Brenhinoedd 17:14).’ Dwi’n teimlo dyna sut mae’r Arglwydd wedi fy nghynnal i fel arlunydd gwydr lliw, ac felly mae’n ffordd imi roi clod i Dduw pan gaf gyfle i egluro arwyddocâd yr enw.
Sut mae eich gwaith yn rhoi cyfle ichi rannu’r efengyl?
Aha! Roeddwn yn gofyn i’m hunan pryd byddai’r cwestiwn yna’n codi! Dwi’n gwybod o brofiad bod ‘na bobl sy’n meddwl nad ydy gwneud celf yn job iawn, ac hyd yn oed mewn rhai cylchoedd efengylaidd, mae dilyn gyrfa mewn celf yn dderbyniol dim ond os ydy’r gelf yna yn gallu cael ei defnyddio i efengylu. Nid ‘poster’ neu ‘tract’ yw fy ffenestri i, ond maent yn codi o’m ffydd ac yn fynegiant ohoni. Dyma’r gorchymyn a ddaeth o’r Arglwydd i’r arlunwyr a chrefftwyr oedd yn creu gwaith ar gyfer y Deml: ‘I feibion Aaron hefyd, y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau, gwa hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.’ Dyna sut dwi’n gweld fy ngwaith i.
Oes gennych unrhyw sylwadau neu gyngor i’n darllenwyr sydd â ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym myd celf?
Darllennwch ‘The Creative Gift’ gan Rookkmaker, yn enwedig, Letter to a Christian Artist.
Pa ffenest liw ddylai pawb fynd i’w gweld a pham?
Mae fy hoff ffenestri i yn yr Almaen ac yn Ffrainc, ond ym Mhrydain ewch i weld ffenestri lliw Eglwys Gadeiriol Coventry. Maent yn fodern, ac yn hardd, ac eto, yn llawn ystyr.