Erbyn i chi ddarllen y cyfweliad hwn mi fydd Tom a Nerys wedi gadael Caerdydd er mwyn cychwyn ar eu gwaith newydd yng Ngwlad Thai. Dyma oedd ganddynt i’w ddweud wrth baratoi i adael.
1. Cyflwynwch eich hunain yn fyr…
Helo! Ein henwau ni yw Tom a Nerys King. Rydym wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd. Mae fy nghefndir i (Nerys) mewn Nyrsio Seicolegol ac rydw i newydd gwblhau tair blynedd o gwrs Cwnsela. Bu Tom yn athro Cemeg am wyth mlynedd cyn penderfynu mynd i’r weinidogaeth. Rydym yn teimlo bod Duw yn ein harwain yn genhadon i Wlad Thai i weithio’n hirdymor gydag unigolion sydd wedi’u caethiwo yn y diwydiant rhyw yn y wlad honno. Gyda chymorth ein heglwys Highfields yng Nghaerdydd, ynghyd â’n brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist ar draws Cymru, rydym wedi bod yn paratoi yn weddigar tuag at fynd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
2. Dwedwch wrthym am hanes yr alwad i fynd i Wlad Thai.
Fe wnaethom ni’n dau ymweld â Gwlad Thai un mlynedd ar ddeg yn ôl ar dripiau Cristnogol byrdymor. Er bod Tom wedi treulio ei amser yn y jwngl, yn helpu i ddod â dŵr glân i mewn i’r pentref, fe ddysgodd yn fuan iawn am effaith y diwylliant tywyll hwn gan fod nifer o’r llwyth yn dioddef o HIV. Cefais i weld ochr arall y sbectrwm yn ninas Pattaya wrth weithio mewn cartref i blant a oedd yn amddifad o ganlyniad i drais a ffordd y merched hyn o fyw. Roedd hyn yn agoriad llygad i ni’n dau, a dyna pryd y gwnaeth Duw ddechrau rhoi baich i’r ddau ohonom am y wlad.
3. Beth fydd eich gwaith?
Rydym am symud i ddinas sy’n ddwy awr i’r de o Bangkok o’r enw Pattaya. Dinas yw Pattaya sydd bellach â phoblogaeth o 110,000 o bobl, ac amcangyfrifir bod tua 35,000 o unigolion yn gweithio yn y diwydiant rhyw. Ein bwriad ydy gweithio ochr yn ochr ag elusen Gristnogol o’r enw ‘Tamar Center’ sy’n gweithio efo gwragedd sydd am adael y diwylliant tywyll hwn. Trwy addysg, rhoi hyfforddiant mewn ‘gwaith’ neu sgil arbennig er enghraifft gwneud crefftwaith neu drin gwallt, a hefyd eu cwnsela, bydd yna gyfle arbennig i helpu’r merched hyn a hefyd i rannu’r efengyl efo nhw. Dyma yw ein nod pennaf, sef i bobl Gwlad Thai ddod i nabod Iesu Grist.
4. Ydych chi’n cael hwyl ar ddysgu’r iaith?
Rydym am ddechrau dysgu’r iaith ym mis Hydref gan ymaelodi mewn ysgol iaith am o leiaf blwyddyn gyfan. Rydym yn nerfus, ond yn edrych mlaen i ddechre ar ôl blynyddoedd o baratoi mewn ffyrdd eraill. Mae’n iaith anodd i’w dysgu oherwydd ei bod yn iaith donyddol.
5. Beth yw sefyllfa grefyddol y wlad?
Mae’r genhedlaeth ifanc yn dilyn Bwdhaeth nominal ac yn y wlad fe geir dywediad: ‘mae bod yn Thai yn golygu bod yn ddilynwr i ddysgeidiaeth Bwdha’. Prif grefydd y wlad yw Bwdhaeth ond mae hi’n wlad sy’n weddol oddefgar o grefyddau eraill.
Ar hyn o bryd, mae Gwlad Thai yn wlad agored i rannu’r efengyl. Ceir rhai eglwysi da yn Pattaya, ond yn anffodus mae’r mwyafrif yn gweinidogaethu trwy gyfrwng y Saesneg a’n gobaith ni ydy gallu gwahodd y merched rydym yn tystiolaethu iddynt i eglwys Thai.
6. Beth yw ymateb pobl wrth glywed am Iesu Grist am y tro cyntaf?
Mae’n dasg anodd rhannu’r efengyl mewn gwlad sy’n credu mewn carma. Eu prif nod yn y bywyd presennol yw ennill pwyntiau da er mwyn cael bywyd gwell yn eu bywydau nesaf. Os bydd unrhyw grefydd arall yn eu helpu i wneud hyn bydd pobl Gwlad Thai yn hapus i fabwysiadu rhannau o grefyddau eraill gan gynnwys Cristnogaeth. Felly mae angen cyfathrebu ein credoau yn glir ac yn ofalus.
7. Oes gennych chi unrhyw gyngor i Gristnogion yng Nghymru sydd eisiau rhannu’r efengyl gyda’u ffrindiau o Wlad Thai?
Dysgwch am grefyddau eraill megis Bwdhaeth cyn ceisio sôn am Gristnogaeth. Mae hwn yn cymryd amser hir gan fod ein meddylfryd yn y Gorllewin yn gwbl wahanol i unigolion o’r Dwyrain. Mae angen bod yn amyneddgar a chofio bod yn ffrind da a gonest er mwyn bod yn dystion da i’r ffydd.
8. Pa adnodau sydd wedi bod yn anogaeth i chi wrth i chi wynebu’r gwaith?
Mathew 28:18-20; Deuteronomium 10:18; Eseia 1 :17.
9. Sut y gallwn ni eich cefnogi?
Gweddïwch am ein hyfforddiant iaith – am amynedd a dyfalbarhad.
Gallwch ddarllen mwy a dilyn hanes Tom a Nerys wrth iddynt gychwyn ar eu gwaith trwy fynd i’w blog: kingsgoeast.blogspot.com
Gallwch hefyd gyfrannu’n ariannol yma: www.ufm.org.uk/member/tom-nerys-king