Wrth drafod y syniad o baratoi cyfieithiad newydd o’r Ysgrythur yn y Gymraeg, y cwestiwn cyntaf mae’n rhaid i ni ei ofyn ydy sut yn union mae deall y gair ‘cyfieithiad’, a beth ydy’r gwahaniaeth rhwng cyfieithiad ac aralleiriad?
Sut mae diffinio ‘cyfieithiad’? Mae wedi ei awgrymu nad ydy’r Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig) yn gyfieithiad gan mai diweddaru, cywiro a chysoni y Beibl Cymraeg Newydd (1988) a wnaethpwyd. Yna mae rhai yn dweud nad ydy beibl.net yn gyfieithiad o gwbl, a’i fod yn ‘ddim mwy nag “aralleiriad”’.
Wedyn, sut mae diffinio ‘aralleiriad’? Pan ddechreuais i weithio ar baratoi drafftiau cynnar o efengylau beibl.net, roedd yna bobl yn awgrymu y byddai’n llawer rhwyddach mynd ati i baratoi cyfieithiad rhydd o’r aralleiriad Saesneg The Message yn y Gymraeg. Doeddwn i’n bersonol ddim yn cefnogi’r weledigaeth honno, er fy mod yn gwerthfawrogi ac yn cael bendith o ddarllen rhannau o’r Message.
Y Ffordd Ymlaen
Oes angen cyfieithiad newydd arall yn y Gymraeg? Dydw i ddim yn credu fod yna’r fath beth â ‘Beibl Aur’ gwreiddiol, efengylaidd, sy’n ateb pob gofyn.
Cefais i’r fraint o gydlynu’r Gweithgor Efengylaidd oedd yn rhan o’r broses honno i ddiwygio’r BCN. Rydym yn ddyledus iawn i’r diweddar Gordon Macdonald, Cecil Jenkins ac Iwan Rhys Jones am eu gwaith manwl a thrwyadl. Derbyniwyd 73% o ddiwygiadau’r Gweithgor. Er, dw i’n bersonol yn credu y gallai BCND fod wedi bod yn gyfieithiad gwell eto petai’r Panelau wedi cytuno i ddiwygio a symleiddio’r iaith. Roedd yr amharodrwydd i wneud hynny yn un peth wnaeth fy ysgogi i weithio ar beibl.net. Rhaid i mi gydnabod mai fi oedd yn gyfrifol am ei alw yn aralleiriad, a’r rheswm am hynny oedd nad oeddwn eisiau iddo gael ei weld fel rhywbeth oedd yn cystadlu hefo’r BCND. Y weledigaeth oedd creu ‘pont’ i helpu pobl ifanc a dysgwyr i ddeall yr Ysgrythur.
Daeth Cymdeithas y Beibl i glywed am y gwaith, a chynigiwyd adnoddau cyfrifiadurol a hyfforddiant i’m helpu gyda’r gwaith. Dydy’r rhaglenni cyfrifiadurol hyn ddim ond ar gael i bobl sy’n gweithio ar brosiectau cyfieithu cydnabyddedig. Felly roedd rhaid cael cefnogaeth y Cymdeithasau Beibl Unedig, a chefais y fraint o weithio dan arolygaeth Dr Simon Crisp, oedd ar y pryd yn Ymgynghorydd Cyfieithu gyda’r UBS. Bues i’n cyfarfod hefo fo i drafod dull y cyfieithu, a gweddau ar y cyfieithiad ei hun, a fo oedd yr un a wnaeth fynnu mai nid aralleiriad oedd beibl.net ond cyfieithiad, ac y dylwn i ei alw yn gyfieithiad.
Ar y pryd roedd yna bolisi o geisio anelu at ddau gyfieithiad ym mhob iaith – un yn fwy llythrennol a’r llall yn fwy rhydd neu ddeinamig. Mae yna gryfderau a gwendidau i’r naill ddull o gyfieithu a’r llall. Mae cyfieithiad llythrennol yn ein helpu i weld beth yn union mae’r Hebraeg a’r Roeg yn ei ddweud, ond yn tueddu arwain at arddull a geirfa annaturiol ac idiomau anghyfarwydd. Mae’r math o iaith fyddwn i’n ei galw yn ‘Beiblaeg’ yn cadw ffurfiau gramadegol y Roeg a’r Hebraeg, ond at ei gilydd yn diystyru sut mae pobl yn siarad bob dydd.
Cyfieithiad rhydd a deinamig ydy beibl.net. Mae’r pwyslais ar fynegi’r ystyr yn hytrach na cheisio cadw’n fanwl at ffurfiau gramadegol y gwreiddiol. Mae hyn yn annatod yn golygu elfen o ddehongli. Roeddwn yn cydnabod hynny pan rois y Testament Newydd ar-lein yn 2002 ac yn gwahodd pobl i gynnig beirniadaeth, gwelliannau ac awgrymiadau.
Sut aethpwyd ati?
Roeddwn yn gweithio o’r iaith Roeg a’r Hebraeg, gyda’r holl adnoddau cyfrifiadurol a’r wybodaeth roedd rhaglen fel Paratext yn eu cynnig i mi. Roeddwn hefyd yn edrych ar rychwant eang o gyfieithiadau, ac ar esboniadau oedd yn dadansoddi’r ieithoedd gwreiddiol, yn arbennig cyfrolau y Word Biblical Commentaries a’r New International Greek Testament Commentary. Roeddwn hefyd yn adeiladu ar y llu o nodiadau a thrafodaethau oedd yn ganlyniad gwaith y Gweithgor Efengylaidd ar ddiwygio’r BCN. Roedd aelodau’r Gweithgor wedi edrych yn fanwl ar bob adnod o Genesis i Ddatguddiad.
Y broses yn syml oedd 1. Ysgrifennu drafft cyntaf bras o lyfr, yna ei adael am rai misoedd. 2. Mynd yn ôl ato’n ffres i baratoi ail ddrafft mwy manwl. 3. Ei anfon at ddarllenwyr 4. Paratoi trydydd drafft ar sail sylwadau’r darllenwyr 5. Ei ddarllen ar lafar i geisio sicrhau ei fod yn llifo 6. Ei osod ar y We 7. Newidiadau pellach achlysurol. Roedd gen i egwyddor o geisio sicrhau fod pedwar categori o bobl yn darllen drafft o bob llyfr: 1. Arbenigwr Beiblaidd 2. Arbenigwr ieithyddol (Cymraeg fel ail iaith) 3. Dysgwr 4. Person ifanc. Darganfyddais yn ddiweddar fod o leiaf 77 o Gymry Cymraeg a dysgwyr wedi cyfrannu at y broses yma i ryw raddau neu’i gilydd, er bod rhaid i mi dderbyn y cyfrifoldeb am y penderfyniad terfynol bob tro.
Diolch i’r unigolion hynny i gyd am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth ar hyd yr 17 mlynedd y bues i’n gweithio ar y prosiect. A diolch yn arbennig i ddau: fy ffrind agos Dewi Arwel Hughes, ddarllenodd drwy’r cwbl yn fanwl i mi, ac Angharad Roberts, Trefor, wnaeth baratoi’r drafftiau cyntaf o lyfrau Ruth, 1, 2 Samuel, 1, 2 Brenhinoedd, 1, 2 Cronicl a Seffaneia. Fi aeth ati wedyn i gysoni arddull y llyfrau hynny wedyn hefo arddull gweddill beibl.net.
Rhaid cydnabod hefyd gyfraniad y trafodaethau rhyngwladol oedd i’w cael ar y We – yn arbennig gwaith Wayne Leman o Wycliffe a’i flog betterbibles.wordpress.com a’r Bible Translation Discussion Group. Eraill y gallwn eu henwi fyddai Peter Kirk, Mike Sangrey, Mark Strauss, David Bivin a’r holl adnoddau ar wefan Jerusalem Perspective, a hefyd ysgrifau a gwaith Ann Nyland o Awstralia, ac eraill. Yna, roedd yr adnoddau cyfrifiadurol gen i i helpu i gysoni’r cyfieithiad e.e. lle mae’r geiriad yn y Roeg yn union yr un fath mewn dwy neu dair efengyl, roeddwn yn gallu sicrhau fod geiriad y cyfieithiad yn union yr un fath. Lle roedd mân wahaniaethau yn y Roeg roeddwn yn gallu ceisio adlewyrchu’r gwahaniaethau hynny yn y cyfieithiad i ryw raddau.
O bryd i’w gilydd, lle roedd y BCND yn cynnig un ddealltwriaeth o air neu gymal arbennig, a bod dehongliad gwahanol yn gallu bod yr un mor ddilys, roeddwn yn aml yn cynnig y ‘dehongliad gwahanol’ hwnnw yn beibl.net. Enghraifft o hynny fyddai’r cymal pistis Iesou (BCND ‘ffydd yn Iesu’ ond beibl.net ‘ffyddlondeb Iesu’).
Y Gymraeg
O ran y Gymraeg, fe benderfynais geisio dilyn y canllawiau sydd i’w cael mewn llyfryn gyhoeddwyd gan CBAC rai blynyddoedd yn ôl: “Ffurfiau Ysgrifenedig Cymraeg Llafar”. Ond roeddwn hefyd yn gohebu â phobl oedd yn dysgu ar gyrsiau Wlpan, a chefais gyngor gwerthfawr gan bobl fel Bobi Jones, Helen Prosser a Bethan Clement (ACCAC). Y broblem fawr yn aml oedd penderfynu rhwng ffurfiau deheuol a ffurfiau gogleddol – ‘fo’ neu ‘fe’, ‘gyda’ neu ‘hefo’, ‘i fyny’ neu ‘lan’, ‘allan’ neu ‘mâs’ ac yn y blaen. Un o’r pethau wnaeth fy nghalonogi i wrth gael ymateb pobl oedd y ffaith fod pobl o’r Gogledd yn cwyno ei fod yn ‘rhy ddeheuol’, a phobl y De yn cwyno ei fod yn ‘rhy ogleddol’.
Wnes i erioed fwriadu i beibl.net gael ei argraffu (fel mae ei enw yn awgrymu!) Roeddwn yn ei weld yn adnodd electronig y gallai pobl ei lawrlwytho a’i addasu’n ieithyddol i siwtio eu tafodiaith leol. Roeddwn hefyd wedi gobeithio cael llawer mwy o ymateb (a beirniadaeth) nag a ges i, ac yn awyddus i droi y drafodaeth honno yn ‘broses gydweithredol’ o ddiwygio a gwella’r cyfieithiad. Ond nid dyna ddigwyddodd, ac yn y diwedd roedd y galw cynyddol amdano mewn print yn golygu nad oedd gen i ddewis. Dw i’n credu fod y derbyniad rhyfeddol gafwyd iddo yn dangos un peth yn glir – mai ystyfnigrwydd yw un o’m problemau mawr i.