Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

CHRISTMAS EVANS YN DOD I LANGEFNI

25 Chwefror 2019 | gan Tim Shenton

Wrth i’r gwaith adfer ar hen gapel Cildwrn yn Llangefni symud yn ei flaen o’r allanolion i’r adeilad oddi mewn dyma ychydig o hanes cysylltiad Christmas Evans â’r lle.

Am beth amser cyn i Christmas Evans symud i Ynys Môn, roedd wedi gweddïo y byddai Duw yn ei anfon i Ynys Môn yn benodol. Derbyniodd hefyd yr hyn mae’n ei alw’n ‘awgrym rhagluniaethol’ y dylai symud i’r ynys a gwasanaethu Eglwys y Bedyddwyr yno, pan wahoddwyd ef a’i wraig i’r ynys gan ffermwr o’r enw John Jones, a oedd, trwy gyd-ddigwyddiad, yn ddiacon gyda’r Bedyddwyr yn Llangefni. Aeth gydag ef yn ddi-oed. Dechreuodd y daith ar gefn ceffyl, gyda’i wraig yn eistedd y tu ôl iddo, a’u hychydig eiddo personol yn hongian naill ochr i’r anifail, ar ei bumed pen-blwydd ar hugain, ddydd Nadolig 1791. Ar hyn, mae ei gofiannydd Cymreig cyntaf yn sylwi ar ei ymwahaniad llwyr oddi wrth ddrysni’r byd hwn, sydd ddim ond yn rhwystr i bregethwr teithiol, ac agwedd addfwyn a ffyddlon ei wraig:

Ni allaf lai na gweld llaw’r Arglwydd yn fod Mr Evans yn cael ei gadw heb gyfoeth y byd hwn, fel y buasai’n rhwyddach i ateb i’r alwad oruchel lle bynnag yr oedd ei lafur yn cael ei ddarparu iddo. Nid oedd ond megis pererin heb etifeddiaeth iddo yn y byd hwn, ac yn hawdd iddo ddwyn dodrefn ei babell gydag ef i ddilyn ôl yr Arweinydd, megis Israel ar ôl y golofn gynt. Ac yr oedd wedi ei fendithio â chymdeithes bywyd addas dros ben, yn ei bod yn fodlon i’w ddilyn lle bynnag y byddai’r awdurdod uchaf yn ei alw i lafurio.1

Yn ôl ei adroddiad ei hun roedd y ffordd yn hir ac roedd y gwynt yn oer ac roedd yn ddiwrnod garw iawn o rew ac eira. Rhywbryd yn ddiweddarach, fe gyfeiriodd at y daith hon yn hwyliog fel taclo Pegwn y Gogledd! Gyda mynyddoedd Sir Gaernarfon a’r Wyddfa ar y dde, yn ei wylio’n ofalus yr holl ffordd, a’r môr ac Afon Menai yn codi a gostwng ar y chwith, aeth ar y fferi i Ynys Môn ac fe gyrhaeddodd Llangefni yn flinedig, ‘trwy law Duw’, fin nos yr un diwrnod, lle roedd i aros am dri deg pump o flynyddoedd.

Yn 1791, roedd Ynys Môn yn cael ei hystyried yn un o rannau mwyaf paganaidd Cymru, gyda safonau moesol a chrefyddol isel. Roedd pechod godineb a phuteindra yn rhemp ymysg pobl ifanc y dosbarthiadau is, ac fe anwyd nifer fawr o feibion a merched oddi allan i briodas; roedd meddwdod yn rhemp; dadlau ac ymladd yn gyffredin; ac roedd y Saboth yn cael ei dorri heb unrhyw ymdeimlad o gywilydd. Roedd Môn yn arbennig o enwog am smyglo, ac am y modd diwyd roedd y trigolion lleol yn ysbeilio llwythi llongau drylliedig. Nid oedd y deffroad efengylaidd wedi cael fawr o effaith arni, ac roedd y gweinidogion, a oedd i fod yn oleuni llachar yr ynys, yn ymuno yn ffolineb a llygredd yr oes.

Erbyn i Christmas Evans gyrraedd yr ynys, roedd eglwysi’r Bedyddwyr mewn cyflwr o ddifaterwch ac anhrefn, a dadleuon diwinyddol wedi tynnu sylw’r aelodau oddi wrth eu prif dasg o bregethu Crist. O’i ganolfan yn Llangefni, ymdrechodd Christmas Evans i adfer trefn ac undod dros yr ynys gyfan.

Safai capel Cildwrn², gyda’i bulpud bach yn eistedd ar ben grisiau cul, ar ddarn o dir llwm ac agored, gyda golygfa dda o’r ardal o’i gwmpas. Yn gyfagos i’r capel roedd bwthyn bychan, neu, yn fwy addas, gwt ar gyfer y gweinidog a’i wraig. Cynhwysai ddarnau o hen gelfi a oedd wedi torri: bwrdd, dwy gadair, a gwely oedd yn gorfod cael ei gynnal gan ddau slabyn o garreg. Roedd rhai o styllod y llawr wedi pydru, ac yn eu lle roedd pentwr o gerrig moel. Roedd y drws, lle cerddai’r pâr i mewn i’r bwthyn, yn hen ac yn pydru, ac nid oedd yn darparu llawer o gysgod rhag y gwynt a’r glaw, ac roedd y gynulleidfa gynnil wedi osgoi’r gost o brynu drws newydd drwy hoelio plât o dun ar hyd ei waelod yn amddiffyniad ychwanegol rhag y tywydd. Roedd y to mor isel fel bod meistr y tŷ, oedd o faint tal ac awdurdodol, prin yn medru sefyll yn unionsyth ac roedd yn aml yn bwrw ei ben. Roedd y stabal, oedd yn gartref i geffyl y pregethwr, wedi ei gwahanu rywfaint oddi wrth y bwthyn, ac ar y Sul câi ei defnyddio gan aelodau’r gynulleidfa a oedd yn marchogaeth i’r cyrddau.

Gweinidog parhaol cyntaf Cildwrn oedd Seth Morris o Gastellnewydd Emlyn. Dyn duwiol a gostyngedig ydoedd, yn ôl llawer yng Nghymru; dyn oedd yn werth ei halen ac yn bregethwr brwdfrydig a phwerus. Cafodd ei benodi’n weinidog ar y credinwyr newydd yn 1783. (Hyd hynny, cenhadon o’r De oedd wedi bod yn gwasanaethu cynulleidfaoedd yr ynys.) Roedd pethau’n mynd yn dda, nes iddo wahodd Thomas Morris, hefyd o dde Cymru, i wasanaethu’n gynorthwyydd iddo. Ac yntau’n fwy dawnus na’r gweinidog, dieithriodd poblogrwydd Thomas Morris un garfan ymysg yr aelodau, oedd yn ystyried ei lwyddiant yn fygythiad i awdurdod eu gweinidog. Roedd y carfanau am y pegwn â’i gilydd gyda chryn ddrwgdeimlad ac arweiniodd hyn, yn ôl ei gefnogwyr, at farwolaeth Seth Morris ym 1785. Dywed Christmas Evans, ‘Bu farw Mr [Seth] Morris yn rhy fuan, fe gredir, wedi torri ei galon; o achos gweinidog arall…yn creu dryswch mawr, ac yn y pen draw yn rhannu’r eglwys. Roedd hyn fel rhew brathog ym mis Mai, ac i bob pwrpas fe rwystrodd y tyfiant am dymor.’3 Roedd yn glwyf i achos Crist a oedd ‘angen dros ddeng mlynedd i wella, yn ogystal â llawer o ympryd a gweddi’.4

Ar ôl marwolaeth y gweinidog, roedd y maes yn rhydd i Thomas Morris. Fe briododd ym 1787, pentyrrodd ddyledion trymion wedi hynny, ac fe’i gorfodwyd i adael yr ynys. Ymfudodd i America, lle bu farw. Ciliodd y gynulleidfa ac fe ddiflannodd y cynnydd ysbrydol a welwyd gyda gweinidogaeth Seth Morris, gan adael sefyllfa ddigalon. Mewn blynyddoedd diweddarach, wedi iddo sefydlu undod yn yr eglwys rhwng y carfanau, cyfeiriodd Christmas Evans at ei waith caled yn adfer heddwch rhwng y grwpiau gwahanol a rhoi diwedd ar y dadleuon, oedd â’u hatgofion a’u hargraffiadau ‘yn parhau fel creithiau’r frech wen ar wyneb yr achos’.
I mewn i’r awyrgylch hwn o ymbleidio a gwrthdaro, a oedd wedi gyrru ymaith nifer o wrandawyr a dwyn anfri ar y gwaith, y daeth Christmas Evans i ymgymryd â’i waith gydag egni a difrifoldeb. Daeth ei weinidogaeth ar Ynys Môn yn un o’r mwyaf ffrwythlon a chofiadwy yn hanes yr ynys.

Nodiadau

1 William Morgan, Cofiant, neu Hanes Bywyd y diweddar Barch. Christmas Evans . . ., wedi ei gynnwys yn Owen Davies (gol.), Gweithiau y Parch. Christmas Evans, I (Caernarfon, 1898), xxix.
2 Er mai enw swyddogol yr eglwys yn Llangefni yw Ebeneser, Cildwrn yw’r enw arferol arno o ganlyniad i arfer Robert Williams o roi losin i bobl oedd yn dod i’w fwthyn i wneud eu siopa. Ymddengys y bu ei fwthyn yn fath o siop ar gyfer yr ardal, a’i fod yn rhoi losin fel cildwrn, neu dip, i’w gwsmeriaid. (Hywel M. Davies, ‘Capel Cildrwn 1779-1998’, papur heb ei gyhoeddi, 1998).
3 David Phillips, Memoir of Christmas Evans, tt.52-3.
4 C.E., ‘Early records of Baptist churches’ (Baptist Magazine, vol. 9, 1817), t. 56.