Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Beibl Cymraeg i’r Dyfodol: Rhai Materion Sylfaenol

25 Chwefror 2019 | gan Wyn James

Wrth feddwl am unrhyw ‘Feibl i’r Dyfodol’, boed yn fersiwn diwygiedig o gyfieithiad sy’n bod yn barod neu’n gyfieithiad newydd sbon, rhaid dechrau gyda thair ystyriaeth sylfaenol.

1. Nid oes unrhyw gyfieithiad yn ‘sanctaidd’ nac yn ‘anffaeledig’.

Mae’r Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw – wedi ei ‘hanadlu’ ganddo (2 Tim. 3:16) – ac wedi ei hysgrifennu gan bobl a ysbrydolwyd – a ‘gludwyd’ (2 Pedr 1:21) – gan yr Ysbryd Glân. Ond dim ond fel yr ysgrifennwyd hwy gan yr awduron gwreiddiol yn yr ieithoedd gwreiddiol y mae geiriau’r Ysgrythur yn ‘ysbrydoledig’ ac yn ‘anffaeledig’ mewn ffordd gyflawn a diamod, ac nid mewn unrhyw gyfieithiad.

Ar hyd y canrifoedd mae ysgolheigion wedi taflu goleuni newydd ar destun gwreiddiol yr Ysgrythur ac ar ystyr y geiriau yn yr ieithoedd gwreiddiol. Hefyd, mae pob iaith yn newid yn raddol o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae’r ddau beth hyn yn golygu fod diwygio cyfieithiadau o’r Beibl a chreu cyfieithiadau newydd yn weithgarwch y mae’n rhaid ei gyflawni’n gyson, er mwyn sicrhau cyfieithiad sydd mor gywir a dealladwy â phosibl.
Yn achos y Beibl Cymraeg ‘traddodiadol’, er enghraifft, diwygiwyd y Testament Newydd a’r Salmau sawl gwaith dros gyfnod o fwy na 50 mlynedd – sef cyfieithiad William Salesbury (ac eraill) yn 1567; fersiwn diwygiedig gan William Morgan yn 1588; ac yna diwygio pellach gan John Davies, Mallwyd, yn 1620.

2. Mae gan y cyfieithiad ‘traddodiadol’ o’r Beibl (1620) le canolog yn natblygiad y Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru.

Nodwyd yn y rhagair i’r Beibl Cymraeg Newydd (BCN) yn 1988 fod y cyfieithiad ‘traddodiadol’ o’r Beibl ‘yn brif drysor crefyddol, diwylliannol a llenyddol ein cenedl’, ac nad bwriad cyfieithwyr y BCN oedd disodli’r hen gyfieithiad; yn hytrach, meddent, ‘gobeithiwn y gwelir o hyn allan y ddau fersiwn, yn gyfochrog â’i gilydd,’ ym mhob man.

Nid dyna a ddigwyddodd, ac un o ganlyniadau disodli cyfieithiad 1620 yw bod wal ddiwylliannol wedi ei chodi rhwng y rhai sydd wedi eu magu ar y BCN a’u gwaddol diwylliannol traddodiadol. Mae’r rhain wedi eu hamddifadu rhag dod yn gyfarwydd â geiriau ac ymadroddion sy’n rhan greiddiol o’r Gymraeg a’i diwylliant ers canrifoedd, ac yn methu adnabod yr adleisiau ysgrythurol lu sydd yn ein hemynyddiaeth a’n llenyddiaeth yn gyffredinol.
O’r herwydd, fe ddylai unrhyw fersiwn newydd o’r Beibl anelu at gadw geiriad y cyfieithiad ‘traddodiadol’ i’r graddau y bydd hynny’n bosibl o fewn canllawiau cywirdeb a bod yn ddealladwy.

3. Rhaid addysgu pobl er mwyn eu cynorthwyo i ddeall geirfa ac ieithwedd y Beibl.

Gorchymyn Crist i’w ddisbyblion yw i fod yn dystion iddo, ond hefyd i wneud disgyblion o’r holl genhedloedd (sy’n rhagdybio, wrth gwrs, eu dysgu yn eu hieithoedd hwy eu hunain). Fel pob maes arall, mae gan y Beibl ei dermau technegol. Mae’r Beibl hefyd yn llyfrgell o lyfrau, a’r rheini’n amrywiol iawn o ran cywair ac arddull. Felly mae angen addysgu pobl i’w ddeall.

Dyna a wnaeth yr Eglwys Fore: dyna hefyd a wnaeth Griffith Jones, Llanddowror, yng Nghymru yng nghanol y ddeunawfed ganrif, a Thomas Charles yn y genhedlaeth wedyn, yn eu hysgolion. Siarad eu tafodieithoedd eu hunain yr oedd gwerin bobl Cymru ar y pryd, heb allu darllen y Beibl na deall ei ieithwedd yn llawn. Ond trwy eu dysgu i ddarllen, a’u cateceiso hefyd, meistriolodd gwerin Cymru Gymraeg llenyddol safonol, a daethant ymhlith gwerinoedd mwyaf llythrennog y byd ac yn rhai heb eu hail yn eu dealltwriaeth o sylfeini’r ffydd Gristnogol.

Yn ychwanegol at y tair ystyriaeth uchod, wrth fynd ati i greu ‘Beibl i’r Dyfodol’, bydd angen gwneud tri phenderfyniad sylfaenol.

1. Rhaid dewis y testunau gorau yn yr ieithoedd gwreiddiol.

Yn achos yr Hen Destament, fersiynau o’r Testun Masoretig, a sefydlwyd fel y testun awdurdodedig o’r Hen Destament o’r seithfed ganrif ymlaen, a ddefnyddir fel arfer gan Brotestaniaid wrth gyfieithu, ond gan ddiwygio’r testun rywfaint yng ngoleuni ysgolheictod diweddarach a darganfyddiadau megis Sgroliau’r Môr Marw.

Yn achos y Testament Newydd, mae dau draddodiad testunol. Yn gyntaf, ‘Testun y Mwyafrif’, sef y testunau Bysantaidd lluosog a fu’n sail i’r cyfieithiadau Protestannaidd hyd at ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ail, ‘testun eclectig’ sy’n sail i’r rhan fwyaf o’r cyfieithiadau modern ac sy’n pwyso’n drwm ar rai llawysgifau hynafol yn y tradoddiad Alecsandraidd.

Y rheswm dros ffafrio’r testun eclectig oedd y ddadl fod y llawysgrifau Alecsandraidd yn nes at destun gwreiddiol y Testament Newydd na rhai ‘Testun y Mwyafrif’. Ond mae eraill yn dadlau nad yw’r ffaith fod y llawysgrifau Alecsandraidd yn rhai cynnar yn golygu eu bod yn well. Dadleuant mai bach iawn yw’r llawysgrifau hynny o ran nifer, a’r rheini ddim ond wedi goroesi oherwydd hinsawdd sych yr Aifft. O’r ochr arall, meddant, y rheswm y mae’r mwyafrif mawr o’r llawysgrifau sydd ar gael yn perthyn i’r teulu Bysantaidd yw oherwydd mai dyna’r testun a dderbyniwyd gan yr eglwysi yn gyffredinol fel yr un gorau.

Beth bynnag yw’n hargyhoeddiadau ynghylch y testunau gorau (a chymharol fach yw’r gwahaniaethau testunol mewn gwirionedd, a llawer ohonynt heb fod yn arwyddocaol iawn), mae’n bwysig ein bod yn defnyddio argraffiadau o’r testunau hynny sy’n ymgorffori’r ysgolheictod cyfoes mwyaf dibynadwy, yn union fel y manteisiodd cyfieithwyr y Beibl Cymraeg ‘traddodiadol’ ar yr ysgolheictod mwyaf diweddar a dibynadwy oedd ar gael yn eu dyddiau nhw.

2. Rhaid penderfynu ar union ddull y cyfieithu.

Defnyddir dau ddull gwahanol iawn eu pwyslais wrth gyfieithu’r Beibl.
Mae’r naill yn rhoi’r pwylais ar gyfieithu union eiriau’r testun gwreiddiol i’r graddau y mae hynny’n bosibl. Dyma’r dull ‘gair-am-air’, sef ‘cywerthedd ffurfiol’ (formal equivalence). Hwnnw a fabwysiadwyd gan gyfieithwyr y Beibl Cymraeg ‘traddodiadol’.
Mae’r dull arall, ‘cywerthedd dynamig’ (dynamic equivalence), yn rhoi’r pwyslais ar gyfieithu synnwyr y gwreiddiol, yn hytrach na chyfieithu’r union eiriau. Dyna’r dull a fabwysiadwyd gan gyfieithwyr y BCN a chan beibl.net.
Mae cryfderau a gwendidau i’r ddau ddull, a’r rheini’n codi o’r tyndra parhaus sydd rhwng y ddwy egwyddor o fod yn ffyddlon i’r gwreiddiol ar y naill law ac o fod, ar y llaw arall, yn ddealladwy yn yr iaith y cyfieithir iddi.
Gellid dadlau fod ‘cywerthedd dynamig’ yn fwy agored i ddeongliadau mympwyol a chyfeiliornus, gan fod y pwyslais ar gyfleu’r ystyr yn hytrach na’r union eiriau. Hefyd, yn achos rhywun nad yw’n medru’r ieithoedd gwreiddiol, mae cael cyfieithiad sy’n anelu at gyfleu union eiriad y gwreiddiol yn fantais fawr o safbwynt astudio darn o’r Beibl yn fanwl a’i gymharu â darnau eraill.

3. Rhaid penderfynu ar natur y Gymraeg a ddefnyddir.

Mae pob iaith yn newid dros amser. Mae’r iaith lenyddol bob amser yn wahanol i’r iaith lafar i ryw raddau, ac yn tueddu bod yn fwy ceidwadol; a’r hyn sy’n digwydd yn aml yw bod yr iaith lafar yn newid yn gyntaf gyda’r iaith lenyddol yn ei dilyn o bell, wedi i’r newid ymsefydlu’n gadarn ar lafar yn gyffredinol.

Gwelir tuedd gynyddol yn ein dyddiau ni i geisio ysgrifennu Cymraeg mewn ffordd fwy llafar. Ond perygl hynny bob amser yw gwyro i gyfeiriad tafodiaith benodol, ac felly dieithrio darllenwyr eraill.

Mae lle pendant i addasiadau o’r Beibl mewn arddull fwy llafar, yn enwedig i ddibenion efengylu ac er mwyn denu pobl i ddarllen y Beibl nad ydynt yn gyfarwydd â’r Ysgrythur nac â Chymraeg mwy llenyddol. Ond y prif angen, hyd y gwelaf i, yw am gyfieithiad at ddefnydd y gymuned gred yn gyffredinol, ac yn enwedig ar gyfer astudio manwl o’r Gair. O’r herwyddd, y nod y dylid ei osod ar gyfer ‘Beibl i’r Dyfodol’ – boed hwnnw’n fersiwn diwygiedig o gyfieithiad sy’n bod yn barod neu’n gyfieithiad newydd – yw cynhyrchu cyfieithiad fydd mor ffyddlon â phosibl i union ystyr a geiriad y testun gwreiddiol, mewn Cymraeg ysgrifenedig safonol ac ystwyth a fydd yn ddealladwy a darllenadwy gan y cyhoedd yn gyffredinol. Mae lle cryf i ddadlau hefyd y dylid anelu at gadw adleisiau o’r cyfieithiad Cymraeg ‘traddodiadol’ o’r Beibl i’r graddau y bydd hynny’n bosibl.

Er mor anodd – amhosibl, yn wir – yw cyrraedd perffeithrwydd wrth gyfieithu, mae cyfrifoldeb arnom i godi i’r her a mynd ati i baratoi cyfieithiad Cymraeg o’r Beibl ar gyfer y cenedlaethau sy’n codi. O gymryd yr holl faterion a drafodwyd uchod i ystyriaeth, y ffordd orau i wneud hynny, yn fy marn i, fydd defnyddio cyfieithiad Cymraeg 1620 yn fan cychwyn, gan ei ddiwygio’n llym yng ngoleuni’r ysgolheictod beiblaidd diweddaraf ac er mwyn cydymffurfio â Chymraeg ysgrifenedig safonol cyfoes.