Ar ôl treulio dwy flynedd yn teithio’r moroedd ar long OM Logos Hope, mae Dyfan Graves wedi dychwelyd adref i Gaerdydd. Yn rhifynnau nesaf y Cylchgrawn cawn ychydig o’i hanes ym mhorthladdoedd y byd, dyma’r cyntaf.
Ymuno
Rwyf fi’n sefyll ar ddiwedd twnnel ym Mhenang, Malaysia, gyda 114 o bobl y tu ôl imi a phawb ar flaenau eu traed yn gyffro i gyd. Rwyf fi newydd ddod oddi ar fws o ochr arall y ddinas lle cynhaliwyd ein PST (Pre-Ship Training), ac o’n blaen, yn gorwedd fel dinas wen ddisglair wrth y cei mae’r llong, yn dawnsio yn yr haul hafaidd. Ein cartref ni. O’m blaen mae twnnel o faneri rhyngwladol a môr o bobl o’r llong hefyd ar flaenau eu traed yn dawnsio’n llawn cyffro wrth weld eu brodyr a’u chwiorydd newydd yn dod i ymuno â nhw. Ar ôl hyfforddiant, a gweddïo, ac aros yn amyneddgar am ryw bedair wythnos, dyma ben y daith. Gyda bloedd, mae’r arweinydd yn y blaen yn gweiddi’r enw y bydd y 114 ohonom sy’n ymuno â’r llong yn y porthladd hwn yn cael ein hadnabod wrtho: ‘PST Georgetown!’ a chyda bloedd anferth fe ymatebwn fel un gyda siant ein PST: ‘Georgetown PST! We believe in unity! Who’s town? Georgetown! Who’s town? Georgetown!’. Gyda hynny, fel mab yn rhedeg at ei deulu mewn aduniad teuluol, dyma ni’n rhedeg— neu’n hedfan—tuag at y twnnel fflagiau. Rwyf fi’n agosáu at y blaen ac yn sydyn whoosh! Fi yw’r pedwerydd i mewn ac mae’r byd o fy nghwmpas yn gymysg o faneri amryliw, gweiddi llawen, pobl yn neidio a dawnsio o’m cwmpas. Mae naws y lle’n fyw gyda chyffro, ac mor sydyn ag y dechreuodd, rydw i mas o’r twnnel, yn dringo’r gangway ar garlam, ac yn mynd trwy ddrysau’r ddinas wen. Rwyf fi mewn. Yma o’r diwedd. Croeso i
Logos Hope!
Yn yr erthygl flaenorol, daethoch i’m hadnabod i ychydig bach, a sut y des i, llanc 21 oed o Gaerdydd, i ymuno â’r llong genhadol Logos Hope wedi chwe blynedd o aros i Dduw ddweud ‘nawr’. Roedd rhai agweddau ar fy mhrofiad fel dysgu nofio trwy gael fy nhaflu i’r pen dwfn, ond adegau eraill yn debycach i’r wefr o ddarganfod eich hoff flas hufen iâ ar ddiwrnod poeth o haf! Fel crochenydd yn siapio clai, defnyddiodd Duw’r holl brofiadau hyn i fy adeiladu i’n rhan o lestr hyfryd. Dwi am rannu’r profiadau hyn gyda chi, felly, er mwyn i Dduw allu eu defnyddio er eich mwyn chwithau hefyd. Felly, dewch gyda mi ar fy nhaith wrth i mi rannu â chi bytiau o’m dyddiaduron, i roi blas llygaid-dyst o anturiaethau’r Logos Hope. Dechreuwn lle ddechreues i, yn Asia, gyda dau gofnod o fy ail wlad, Myanmar.
7 Hydref 2015
Rydyn ni newydd gyrraedd Myanmar. Dyna ryfeddod yw bod yn y wlad y clywais gymaint amdani ar y newyddion! Fi oedd ymysg y cyntaf ar y cei, gyda gweddill fy nghydweithwyr yn yr adran forwrol. Buom ni’n helpu gyda gosod y gangways a pharatoi’r cei i groesawu’r cyhoedd wrth iddynt ymweld â’r llong. Y noson cyn i ni gyrraedd, fe es i i gysgu ar ddec uchaf y llong, y nawfed dec! Es i, gydag eraill, i gysgu dan y sêr, a chodi i sŵn cychod modur yn chug-chugian i fyny’r afon wrth ymyl Yangon, prifddinas Myanmar. Mae’n wahanol iawn i unrhywbeth dwi wedi ei brofi o’r blaen. Mae aroglau cryfion ym mhob man, weithiau’n hyfryd, weithiau’n atgas! Mae’r hinsawdd yn hynod o laith, a’r adeiladau di-ri yn gymysg â’i gilydd, rhai ohonynt yn edrych yn hen ac ar fin cwympo. Ydych chi’n ei chael hi’n anodd croesi ffyrdd prysur? Dylech chi weld ffordd yn Yangon – dyw’r ceir ddim yn aros i neb. Er hyn, mae’r bobl yn hyfryd iawn, yn hynod o gyfeillgar a thyner iawn. Dyw’r dynion ddim yn gwisgo trowsus yno, ond longhi, rhyw fath o sgert hir. Prynodd nifer o fois y llong longhi, a chawsom dri ymateb: eu caru nhw, jyst chwerthin, neu eu casáu!
Roedd criw mawr o bobl ar y cei yn aros i ni pan gyrhaeddon ni, y rhan fwyaf ohonynt yn bobl ifanc o goleg Cristnogol lleol. Mae llai na 10% o boblogaeth Myanmar yn Gristnogion, a hi yw’r bedwaredd gwlad ar hugain waethaf yn y byd am erledigaeth. Er hynny, mae coleg Cristnogol newydd yn agor bob blwyddyn yno! Y noson cyn i ni gyrraedd roedd cyfarfod gweddi ar gyfer yr holl long, a barhaodd am amser maith, ac ar ôl i’r digwyddiad orffen parhaodd y gweddïo, oherwydd doedd pobl ddim am orffen! Aethon ni i’r nawfed dec i barhau’r addoliad tan yn hwyr, gyda’r haul yn machlud dros y môr yn goch o’n cwmpas. Llwyddais i ganu ‘Pantyfedwen’ yn Gymraeg hyd yn oed!
Ar y dydd Llun, fe aethon ni i Bagoda Shwe Dagon, sef teml fawr – enfawr – Fwdhaidd. Roedd aur ym mhobman a rhyw brydferthwch erchyll yn perthyn i’r lle, a naws anesmwyth yno. Roedd delwau o’r Bwdha ym mhobman, gyda llu o offrymau o’u cwmpas, a llawer o bobl yno. Teimlwn hi’n anodd iawn gweld pobl yn addoli delwau – pobl a oedd mor golledig. Profiad anodd i bob un ohonom oedd ymweld â’r pagoda, ond profiad llesol oedd cael gweld addoli delwau â’n llygaid ein hunain. Ers hynny, dwi wedi bod yn gweithio a mynd yn y nos i ddec yr ymwelwyr, a gwneud ffrindiau gyda dyn sydd am sefydlu eglwys yn Yangon. Roedd tua 10,000 o bobl yn ymweld â’r llong bob dydd, ac roedd y llinell i’r man talu dros hanner awr o hyd, felly cadwes i gwmni iddo’r holl ffordd. Roedd e’n llawn llawenydd yr Arglwydd, yn fwy felly na’r rhan fwyaf o Gristnogion Prydeinig dwi’n eu hadnabod. Dywedodd wrthyf droeon, gyda gwên ar ei wyneb, pa mor bwysig oedd hi i ni weddïo dros Eglwys Dduw ledled y byd, a gofynnodd am weddi dros yr eglwys roedd e am ei sefydlu, ac y byddai Duw’n ei bendithio. Hyn yn digwydd yn un o’r gwledydd gwaethaf yn y byd am erledigaeth, cofiwch. Dwi wedi dysgu gwersi mawr o weld brwdfrydedd a llawenydd y dyn hwn, er gwaethaf ei sefyllfa anodd. Os yw Duw o’n plaid ni, pwy all fod yn ein herbyn?
11 Hydref 2015
Dwi newydd fod ar fy c-day (diwrnod cenhadu) cyntaf. Es i i eglwys Touch International, a sefydlwyd yn 2013. Roedd tua 40 o bobl yno, a thîm y llong oedd yr unig bobl ryngwladol yn eu plith! Aethom ni’r morwyr i gael c-day gyda’n gilydd. Ni lwyddodd hynny ac felly ar fyr-rybudd aethon ni i c-days eraill. Aeth y rhan fwyaf ohonyn nhw i gartref plant amddifad. Cafodd pump ohonom ni c-day ar ddydd Sul, a phedwar ohonyn nhw yn y prynhawn, fel rhan o ddigwyddiad cyhoeddus o’r enw Round the World. Fi oedd yr unig un a gafodd c-day mewn eglwys. Ar yr un pryd, roedd gweddill y tîm yn gweddïo am ddyn i bregethu – doedd y merched ar y tîm ddim yn siŵr a oedd diwylliant Myanmar neu’r eglwys yn gyffyrddus gyda merched yn pregethu, a doedd yr unig ddyn ar y tîm ddim yn hoff o siarad cyhoeddus. A dyma fi’n cael fy rhoi ar y tîm yn fyr rybudd, rhywun sy’n digwydd caru siarad yn gyhoeddus! Fi felly draddododd y bregeth – ac roedd hynny’n ateb mawr i weddi yn dilyn y bregeth ar Salm 46 (‘Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw’) cafwyd drama, a thystiolaeth wych (sef hanes sut y cafodd menyw ei hachub, o fod yn anffyddwraig yn y Weriniaeth Sofietaidd, ei hachub o ystyried hunanladdiad i ennill iachawdwriaeth yng Nghrist). Canlyniad hyn oedd bod tri wedi dod i ffydd! Clod i Dduw am ddefnyddio’r bregeth, y ddrama a’r dystiolaeth i ddod â phobl i gredu yn ei Fab!
Ymlaen â’r llong. Ein harhosfan nesaf fydd Affrica. Mae Duw ar waith!