Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Ymgynghoriad ar ‘Y Beibl i’r dyfodol’

25 Chwefror 2019 | gan Carwyn Graves

Daeth rhyw hanner cant o Gristnogion ynghyd yn Aberystwyth ar 11 Medi er mwyn trafod y cwestiwn: ‘Sut gallwn ni sicrhau Beibl Cymraeg safonol, cywir a dealladwy ar gyfer y dyfodol?’ Cwestiwn mawr, wrth gwrs, ac nid ar chwarae bach y mae mynd i’r afael â’r fath gwestiwn. Bwriad y diwrnod felly oedd ceisio llunio asesiad teg o’r sefyllfa bresennol ac agor y drafodaeth at y dyfodol, nid ceisio ateb terfynol.

Y diwrnod

Da o beth felly oedd bod y gynulleidfa mor amrywiol – roedd yno weinidogion ac aelodau eglwysig; pobl o rychwant eang o enwadau a chyrff eglwysig; cynrychiolaeth gan asiantaethau Cristnogol megis Cymdeithas y Beibl; a phobl o bob oed rhwng 20 ac 80. Y peth cyntaf a wnaethom mewn grwpiau bychain oedd trafod ein canfyddiadau ni ein hunain o’r sefyllfa bresennol – a oes yna ddiffygion yn ein tyb ni? Beth hoffen ni ei weld?

Daeth amryw o ymatebion i’r fei i’r cwestiynau hyn. Roedd diolchgarwch ar bob tu bod gennym ni yn yr iaith Gymraeg bellach dri chyfieithiad Beiblaidd safonol ar gael at ein defnydd (Beibl ‘Wiliam Morgan’, Beibl Cymraeg Newydd a beibl.net). Mynegodd rhai y farn bod llawer mwy o ddewis eto ar gael yn y Saesneg na hyn a bod hyn yn effeithio ar bobl ifainc yn arbennig. Codwyd y mater o gael recordiadau o’r Beibl y gall pobl wrando arnynt yn hawdd.

Cyfraniadau arbenigol

Gyda’r materion hyn ac eraill wedi eu codi, daeth cyfle i wrando ar gyfraniadau gan arbenigwyr yn y maes. Byrdwn E Wyn James oedd codi rhai o’r cwestiynau hanfodol sydd raid mynd i’r afael â nhw wrth feddwl am gyfieithiadau o’r Beibl: safon iaith yn yr iaith darged (h.y. y Gymraeg); pa destunau gwreiddiol a ddefnyddir; pa fath o gyfieithiad a geisir? Awgrym Wyn James oedd y gallai fod o fudd i edrych ar ddiwygio Beibl Wiliam Morgan, mewn modd tebyg i’r hyn a wnaed gyda’r ‘King James’ yn Saesneg.

Yna cawsom glywed neges Arfon Jones (fu yng nghanol y gwaith o ddod â beibl.net i olau dydd). Gan ailadrodd mai pwrpas beibl.net o’r cychwyn oedd gwneud y Beibl yn Gymraeg yn fwy dealladwy i bobl ifainc ac i ddysgwyr yr iaith, eglurodd Arfon mai cyfieithiad yw beibl.net mewn gwirionedd, nid aralleiriad. Cyfieithiad o’r ieithoedd gwreiddiol ydyw, a wnaed gan ddefnyddio’r feddalwedd cyfieithu Beiblaidd sy’n safonol yn fyd-eang (paratext) a chan ymgynghori y tu mewn a’r tu allan i Gymru â chyfieithwyr eraill.

Yn drydydd daeth cyfle i godi ein golygon i wlad arall yn Ewrop, Lwcsembwrg. Lwcsembwrgeg (neu Lëtzebuergesch) yw iaith frodorol y wlad, ac mae rhyw 300,000 o bobl – 50% o’r boblogaeth yn ei siarad – yn bennaf mewn ardaloedd mwy gwledig. Mae tîm wedi bod wrthi yn cyfieithu’r Beibl i’r iaith hon am y tro cyntaf erioed dros y blynyddoedd diwetha, ac yn 2017 cafodd y Testament Newydd ei gyhoeddi. Ymunodd y prif gyfieithydd, Miriam Schartz, â ni dros Skype a rhannu eu profiadau nhw yn Lwcsembwrg. Cododd hi sawl ystyriaeth bwysig; o ble y daw’r arian ar gyfer unrhyw brosiect newydd? Beth fydd ‘shelf life’ unrhyw gyfieithiad yn y dyfodol? Beth am ddefnyddio’r sawl nad ydynt yn Gristnogion eto ar y timoedd darllen a gwerthuso er mwyn sicrhau bod y testun yn ddarllenadwy gan bawb? Nododd fod y ffaith nad oes treftadaeth efengylaidd ganddyn nhw yn y wlad honno yn gallu bod yn gryfder hefyd, am eu bod yn rhydd i arloesi yn eu dewisiadau a dull o weithredu heb boeni am bwysau traddodiad.
Wedi hoe i ginio, cawsom glywed wrth Dafydd Morris o Gymdeithas Feiblaidd y Trindodwyr, a nododd mor bwysig yw cwestiwn y testunau gwreiddiol. Nododd hefyd eu bod nhw wrthi ar hyn o bryd yn paratoi mynegair – nodiadau esboniadol ar ochr y testun – i gyd-fynd â Beibl Wiliam Morgan er mwyn hwyluso dealltwriaeth.

Trafodaeth

Yna daeth fideo o bobl ifainc yn trafod eu defnydd nhw o’r Beibl, cyn troi at drafodaeth banel gyda Meirion Morris, Rhun Murphy, Mark Thomas a Carwyn Graves. Daeth sawl ystyriaeth i’r amlwg o’r drafodaeth honno. Yn gyntaf, yr angen i godi to newydd o ysgolheigion yn ein gwlad a fydd yn meddu ar yr arbenigedd angenrheidiol yn Hebraeg a Groeg. Ystyriaeth arall oedd yr angen am waith gofalus i ddarganfod pa fath o Gymraeg sydd, mewn gwirionedd, fwya dealladwy gan bobl yn 2018 ac i’r degawdau nesa. Wrth wahodd cyfraniadau o’r gynulleidfa, codwyd hefyd y cwestiwn o’r diwygiad nesa o’r BCN, gan fod hynny ar y gweill yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Gan gloi mewn gweddi, gadawodd pawb gyda digon i gnoi cil arno. Gyda chymaint o ystyriaethau a chwestiynau wedi eu codi felly, sut mae mynd ymlaen? Penderfyniad y trefnwyr oedd mai’r peth gorau i hwyluso trafodaeth bellach fyddai lansio gwefan, www.beibligymru.com. O wrando ar y drafodaeth ar y diwrnod, penderfynwyd trefnu’r wefan yn dair rhan:

  • Y testunau gwreiddiol. Pa destunau i’w defnyddio, pwy sydd â’r sgiliau ieithyddol anghenrheidiol, a sut mae sicrhau’r sgiliau hynny i’r dyfodol?
  • Y broses gyfieithu. Pa fethodoleg a ddefnyddir wrth gyfieithu, ai cyfieithu ffurfiol neu ddeinamig?
  • Yr iaith Gymraeg – pa lefel o iaith dylid ei defnyddio a sut fydd natur yr iaith yn newid yn ystod y degawdau nesaf?

Y gobaith yw y bydd pobl – gan gynnwys chi sy’n darllen yr erthygl hon – yn medru cyfrannu at y drafodaeth o dan un o’r penawdau uchod ar y wefan. Gobeithiwn erbyn Pasg 2019 y bydd rhywfaint mwy o eglurdeb yn codi wrth i bobl weddïo ac wrth i’r drafodaeth ehangach fynd yn ei blaen, ac y bydd hi’n dod yn fwyfwy amlwg i ba gyfeiriad y dylid mynd, a phwy fydd yn medru ymroi i ba bynnag dasg mae’r Arglwydd yn ei rhoi o’n blaenau.