Cafodd Evan Roberts y Diwygiwr sawl gweledigaeth i’w baratoi a’i ysgogi ar gyfer ei waith. Mae’r un lle gwelodd law yn estyn allan bapur a’r ffigwr 100,000 arno, sef y nifer fyddai’n cael eu hachub, yn eithaf adnabyddus ond nid yw’r weledigaeth a gafodd o uffern gymaint felly. Dyma sut y mae Dr D. M. Philips yn ei chofnodi:-
Eisteddai yn ei ystafell yng Nghastellnewydd Emlyn un noson, rhwng 10 ac 11, pan y’i gwelodd. Nid gweledigaeth wrthrychol (objective) oedd hon, ond un fewnol (subjective). Yr oedd yn un ofnadwy o sylweddol. Yn y weledigaeth yma saif rhyw bethau allan yn amlwg iawn. (a) Gwelodd ddyfnder anferth, a chafodd ei hun wrth y drws arweiniai iddo, yr hwn a agorai tuag allan. Pydew tanllyd annisgrifiadwy oedd y dyfnder yma, ac yr oedd ei faint yn annirnadwy bron. O’i gwmpas yr oedd muriau mawrion, fel nad allai neb ddianc allan. (b) Gwelodd y preswylwyr yn eu poenau yno; ond y lle adawodd argraff ryfedd arno, ac nid y preswylwyr. (c) Clywodd lais yn gwaeddi yn eglur, ‘Yna y buaset ti oni bai gras.’ Pan glywodd y gair ‘gras’ newidiodd pethau. Collodd yr olwg ar y pydew arswydus ar unwaith. (d) Wedi colli ei olwg ar y llynclyn ofnadwy, cafodd ei hun a’i gefn ar ddrws uffern, ac erbyn hyn yr oedd y drws ynghau ac nid yn llydan agored fel yn y rhan gyntaf o’r weledigaeth. (e) Ar ôl cael ei hun yn y safle yma, y peth cyntaf a welai oedd tyrfa aruthrol yn dyfod i gyfeiriad drws uffern. Cerddent bob yn bump a chwech ochr yn ochr. Ymledai y dyrfa allan i bellter dirfawr i’r gorwelion draw, a rhifai filiynau a miliynau. Ynddo yr oedd pob oed, rhyw a gradd o bobl. Un peth cyffredin ynddynt oedd eu bod oll a’u hwyneb ar uffern. Ymddangosai y tir, ar yr hwn y cerddent, yn oriwaered esmwyth tuag at ddrws y trueni, fel ag i’w gwneud yn hawdd iddynt gerdded tuag ato. (f) Y pryd hyn gofynnodd Evan Roberts, ‘I ba le yr â y rhai yma?’ Cafodd atebiad mai i uffern yr aent oll. Yna gwaeddodd gydag angerddoldeb enaid am i Dduw eu hachub rhag myned I’r lle ofnadwy, a gofynnodd iddo gau y drws am flwyddyn iddynt gael mantais ar iachawdwriaeth a chyfleustra i ddiwygio. Wylai a chwarddai bob yn ail wrth adrodd hon ar ddechrau y Diwygiad, a dywedai, ‘O diolch y mae Duw wedi cau y drws.’
Bu y weledigaeth yn un nerthol iawn iawn i’w symud ymlaen yn ei awydd i weithio dros Grist er mwyn achub eneidiau. Methai â chael yr olygfa ofnadwy gafodd ar uffern o’i feddwl am amser maith, a gwelir ef yn cyffroi drwyddo weithiau wrth sôn amdani yn awr, a dywed, ‘O diolch fod miloedd yn cael eu hachub rhag myned yno.’ (Evan Roberts a’i Waith , Dr D. M. Phillips, 1912)
Mae’r oes wedi newid yn arw ond dydi uffern ddim.
Ydi uffern yn lle go iawn? Mae Crist yn ein dysgu ei fod ac yn lle i’w osgoi! (Math. 5:22; 5:29; 10:28; 18:9; Marc 9:43; Luc 12:5; Iago 3:6) Mae hefyd yn ei ddisgrifio sawl gwaith fel y tywyllwch eithaf lle mae wylofain a rhincian dannedd (Math. 8:12, 13:42 a 50; Math. 22:13; Luc 13:28).
Pwy sydd yn mynd yno?
PAWB! Heblaw y rhai sydd wedi dod i adnabod Iesu Grist trwy edifeirwch, ffydd, a’r ailenedigaeth.
Nid rhyw fyth canoloesol yw hyn ond gwirionedd oesol. Oni ddylem ni, y rhai sy’n caru Iesu Grist, gymryd mwy o sylw o hyn a chael ein hysgogi fel Evan Roberts i gyflwyno’r efengyl mwy o ddifri wrth ystyried tynged y rhai sydd heb ei dderbyn. Mae newyddion da’r efengyl yn rhyfeddol. Ond mae yna newyddion drwg hefyd, ac uffern yw hwnnw. Mae’r newyddion da yn gallu concro’r newyddion drwg i bawb sy’n ei dderbyn a gweithredu arno. Awn ati i gynnig y feddyginiaeth nerthol sydd yn allu Duw er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu.