Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Yr Anrheg Nadolig

5 Rhagfyr 2018

Tract Efengylu

  • Cerdyn caled
  • Maint A6 (148x105mm)
  • 4 ochr
  • Gyda lle i roi enw/cyfeiriad lleol

Pris

  • 10c yr un
  • £8 am becyn o 100
  • £35 am becyn o 500

 

Prynu

Testun:

Ydych chi wedi gorffen eich siopa Nadolig eto? Pob anrheg wedi ei phrynu, ei lapio’n daclus a’i rhoi’n barod o dan y goeden? Mae’r arfer o roi anrhegion adeg y Nadolig yn deillio o’r ffaith bod Duw wedi rhoi anrheg i’n byd ar y Nadolig cyntaf – dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Ond pa fath o anrheg mae Duw wedi ei roi i ni?

Anrheg nad ydym yn ei haeddu

Mae yna reswm pam fyddwn ni’n dewis rhoi anrheg i rywun. Mae’n teulu agos ni’n derbyn yr anrhegion mwyaf arbennig efallai; yna ffrindiau agos, neu rywun sydd wedi ein helpu yn ystod y flwyddyn. Bydd eraill yn derbyn cardiau’n unig oddi wrthym. Mae’r cyfan yn dibynnu ar ba mor agos yw ein perthynas â nhw.
Ond pan roddodd Duw Iesu Grist yn anrheg, rhoi i fyd sydd wedi troi yn ei erbyn a wnaeth: “Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab”. Duw sydd wedi creu’r byd, ac sy’n ei gynnal drwy’r amser. Ac eto mae ein byd ni wedi anghofio am Dduw. Nid am ein bod yn ei haeddu y daeth Crist atom.

Anrheg ddrud

Faint fyddwch chi’n ei wario ar anrhegion Nadolig? Mae’r siopwyr bob blwyddyn yn gobeithio y byddwn yn gwario mwy nag o’r blaen, ac mae’r pwysau’n gymaint weithiau nes bod pobl yn mynd i ddyled mawr er mwyn rhoi anrhegion drud i’w gilydd. Ond beth mae Duw yn gallu rhoi? Fe sy’n berchen ar bob dim, ac felly gallwn ni ddychmygu na fyddai dim yn costio’n ddrud iddo Fe.
Ond rhoddodd Ef y peth oedd yn costio fwyaf iddo – ei Fab. Mae’r Beibl yn dweud mai Iesu yw Mab Duw. Dyna pam mai un enw arno yw Emaniwel – Duw gyda ni. Rhoddodd Iesu Grist gan wybod y byddai’r byd yn ei wrthod, ei farnu a’i ladd ar groes.
Dyma’r anrheg ddrytaf yn hanes y greadigaeth!

Anrheg addas

Mae dewis anrhegion Nadolig yn gallu bod yn her! Rydych chi am i’r anrheg fod yn addas – yn siwtio. Does dim pwynt rhoi hamper o gig i lysieuwr neu siampŵ moethus i ddyn sydd wedi colli ei wallt!
Dewisodd Duw anrheg addas ar ein cyfer: “Draw yn nhawelwch Bethlem dref, daeth baban bach yn Geidwad byd”. Dyma ein hangen – rhywun i’n cadw rhag canlyniadau ofnadwy ein gwrthryfel yn erbyn Duw. Daeth Iesu i’n hachub ni drwy farw dros ein pechodau ar groes. Dyma newyddion gwych y Nadolig.

Anrheg i ymateb iddo

Mae’n rhaid i ni dderbyn neu wrthod pob anrheg. Mae’r un peth yn wir am Iesu Grist, anrheg Duw. Gwrthododd Herod yr anrheg hwn, a cheisio erlid y baban Iesu. Dyna mae llawer yn ei wneud. Maent yn dweud ‘Dim diolch’ wrth Dduw. Mae’n well ganddynt y pethau mae’r byd yn ei gynnig. Ond derbyniodd y bugeiliaid y gwahoddiad, ac i ffwrdd â nhw i chwilio am yr Iesu. Deallodd y sêr ddewiniaid fod Brenin yn dod i’r byd, ac fe deithiasant yn bell i blygu wrth ei draed.

Sut wyt ti am ymateb i anrheg Duw?

Tagiau
efengylu Nadolig